Weave | Gwehyddu 2023: Reflections
31/10/2023 | Author: Angela Rogers and Tracy Breathnach
Reflections on our first national arts and health conference - Myfyrio ar ein cynhadledd celfyddydau ac iechyd genedlaethol gyntaf
Angela Rogers, Executive Director and Tracy Breathnach, Programme Manager reflect on WAHWN’s first national arts and health conference as they travelled to Dublin to take part in Ireland’s annual arts and health event, Check Up Check In, run by Réalta.
Tracy: I’m excited to visit our colleagues in Dublin for their national arts and health conference just a couple of weeks after our Welsh national conference – it feels like things are really starting to take off again post-pandemic. In fact, the last time I visited our Irish colleagues was for their national event in March 2020, the day that the first lockdown in Ireland was announced!
Angela: So much has changed since then. And similarly to Weave, their theme this year is mental health too. Slowing down and looking after wellbeing, staff and artists included, are such dominant themes across the sector in all countries in the UK and Ireland this year. That really came through at Weave, both in the presentations and the comments we received from colleagues.
Tracy: If you could sum up in one idea the impact of Weave on you, what would it be?
Angela: I think it’s the same impact that I felt after last year’s Welsh NHS Confederation - health challenges are so major that no one body can tackle these alone, so there is a need for more preventative and early intervention work required. Arts and health addresses many of these issues so well. There is a place for arts to be allies with health more than ever before.
Tracy: I felt that too – there is such a strong momentum in Wales now around arts and health. You can see it in the number of people who are signing up as WAHWN members… in the first 9 years as a network we had 450 members, and in the last 18 months we have reached over 800! So, more professionals across arts, health, social care, community, research, third sector want to connect, but also our capacity as a national support organisation has also increased massively when WAHWN set up as its own organisation 12 months ago, and you have been able to work full time and bring in freelancers to support the work.
Angela: We can also see how the funding landscape in Wales has enabled this growth- with the funding for Arts and Health Coordinators in all of the health boards, to the Arts & Health Lottery funding, to the ongoing investment the Baring Foundation makes in arts and health in Wales. And it’s more than just having funding available for the sector, Weave wouldn’t have happened without Sally Lewis at the Arts Council and David Cutler at the Baring Foundation being part of our initial discussions as interested, committed and engaged stakeholders.
Tracy: One of the biggest challenges we had was selecting what we could fit into the programme – we started with a programme twice the size! And yet, the schedule on the day was still probably too busy. There is such breadth of work happening across Wales, I think delegates felt really inspired by this. There is a sense of belonging to a sector that is bigger than what we do as individual artists or arts organisations, and that’s exciting!
Angela: It was fantastic to be able to showcase the high-quality practice that has been happening across Wales that speaks directly to key health priorities, including mental health inequalities, mental wellbeing of staff and the wider population and health across the lifespan. It was great to have colleagues from the health service and also ministerial support.
Tracy: It makes a difference that what we are all working to achieve is being led and supported at policy level. I’m really interested to see how we can integrate arts into the new Mental Health framework that will come out later this year.
Angela: One of the things I was most pleased was what Heather Parnell from University of South Wales described as “you’ve got the whole system involved,” referring to the way we involved arts and health students as volunteers and artists on the day, to professionals who are practising, to policy makers who are already understand the benefits of the arts.
Tracy: I like how Sally from the Arts Council described it as “a milestone moment for the sector to have so many gathered in person and speaking with one voice,” and by integrating live music and the outdoor weaving, the choir and the amazing piece that Connor Allen shared at the end of the day, the whole day felt like a cohesive “experience.”
Angela: Yes, we had lots of positive feedback about the artists – a lot of people were very moved by the Oasis One World Choir performance and members of the choir have since fed into our scoping on the lack of diversity in the sector at the moment.
Tracy: So, when do we start planning the next one?!
Angela: Well Nina Ruddle openly invited us to North Wales, so let’s see how those conversations go. We know from the feedback we received that it is vital to have an in-person space like this. One person put it as: “Zoom has meant that we can be more inclusive for colleagues across the entire country, but we also need in-person events to come together in this way to support, connect and inspire each other.” As ever, we always respond to the needs of our members, so if there’s a need, we will find a way!
-
Angela Rogers, Cyfarwyddwr Gweithredol a Tracy Breathnach, Rheolwr Rhaglen sy'n myfyrio ar gynhadledd celfyddydau ac iechyd genedlaethol gyntaf WAHWN wrth iddynt deithio i Ddulyn i gymryd rhan yn nigwyddiad celfyddydau ac iechyd blynyddol Iwerddon, Check Up Check In, a gynhelir gan RéALTA.
Tracy: Rwy'n edrych ymlaen at ymweld â'n cydweithwyr yn Nulyn ar gyfer eu cynhadledd celfyddydau ac iechyd genedlaethol ddim ond ychydig wythnosau ar ôl ein cynhadledd genedlaethol ni yng Nghymru – mae'n teimlo bod pethau'n dechrau cychwyn eto ar ôl y pandemig. Y tro diwethaf i mi ymweld â'n cydweithwyr yn Iwerddon oedd ar gyfer eu digwyddiad cenedlaethol ym mis Mawrth 2020, y diwrnod y cyhoeddwyd y cyfnod clo cyntaf yn Iwerddon!
Angela: Mae cymaint wedi newid ers hynny. Ac yr un fath â Gwehyddu, eu thema hwythau eleni yw iechyd meddwl. Mae arafu a gofalu am lesiant staff ac artistiaid yn themâu mor bwysig ar draws y sector ym mhob un o wledydd y Deyrnas Unedig ac Iwerddon eleni. Daeth hynny drosodd yn Gwehyddu, yn y cyflwyniadau a'r sylwadau a gawsom gan gydweithwyr.
Tracy: Os byddai modd i ti grynhoi effaith Gwehyddu arnat ti mewn un syniad, beth fyddai hwnnw?
Angela: Rwy'n meddwl ei fod yr un effaith a deimlais ar ôl Cydffederasiwn GIG Cymru y llynedd - mae heriau iechyd mor fawr nes nad oes modd i un corff fynd i'r afael â hwy ei hun, felly mae angen mwy o waith ataliol ac ymyrraeth gynnar. Mae sector y celfyddydau ac iechyd yn mynd i'r afael â llawer o'r materion yma'n dda iawn. Mae yna le i'r celfyddydau ffurfio cynghrair gydag iechyd yn fwy nag erioed.
Tracy: Roeddwn i'n teimlo hynny hefyd – mae 'na fomentwm mor gryf yng Nghymru erbyn hyn o gwmpas y celfyddydau ac iechyd. Mae i'w weld yn nifer y bobl sy'n cofrestru fel aelodau WAHWN… yn y 9 mlynedd gyntaf fel rhwydwaith roedd gennym ni 450 o aelodau, ac yn y 18 mis diwethaf rydym wedi cyrraedd dros 800! Felly, mae mwy o weithwyr proffesiynol ar draws y celfyddydau, iechyd, gofal cymdeithasol, y gymuned, ymchwil, y trydydd sector eisiau cysylltu. Hefyd fe gynyddodd ein gallu fel sefydliad cymorth cenedlaethol yn aruthrol pan sefydlwyd WAHWN fel sefydliad ei hun 12 mis yn ôl, ac rwyt ti wedi gallu gweithio'n llawn amser a dod â gweithwyr llawrydd i mewn i gefnogi'r gwaith.
Angela: Fe allwn ni weld hefyd sut mae'r dirwedd gyllido yng Nghymru wedi galluogi'r twf yma – o’r cyllid a ddarparwyd ar gyfer Cydlynwyr y Celfyddydau ac Iechyd ym mhob un o'r byrddau iechyd, i arian y Loteri i'r Celfyddydau ac Iechyd, i fuddsoddiad parhaus Sefydliad Baring yn y celfyddydau ac iechyd yng Nghymru. Ac mae'n fwy na dim ond cael cyllid i'r sector, fyddai Gwehyddu ddim wedi digwydd heb i Sally Lewis a’i thîm yn y Cyngor Celfyddydau a David Cutler yn Sefydliad Baring fod yn rhan o'n trafodaethau cychwynnol fel rhanddeiliaid oedd yn diddori, yn ymrwymedig ac yn ymgysylltiedig.
Tracy: Un o'r heriau mwyaf a gawsom oedd dewis beth oedd modd ei ffitio i'r rhaglen - roeddem ni'n dechrau gyda rhaglen oedd ddwywaith y maint! Eto i gyd, mae'n debyg bod yr amserlen ar y diwrnod yn dal yn rhy brysur. Mae cymaint o waith yn digwydd ledled Cymru, rwy'n credu bod y cynrychiolwyr wedi'u hysbrydoli'n fawr gan hyn. Mae 'na ymdeimlad o berthyn i sector sy'n fwy na'r hyn rydym ni'n ei wneud fel artistiaid unigol neu sefydliadau celfyddydol, ac mae hynny'n gyffrous!
Angela: Roedd yn wych gallu arddangos yr arferion o ansawdd uchel sydd wedi bod yn digwydd ledled Cymru sy'n ymateb yn uniongyrchol i flaenoriaethau iechyd allweddol, gan gynnwys anghydraddoldebau iechyd meddwl, lles meddyliol staff a'r boblogaeth ehangach ac iechyd hyd oes. Roedd yn wych cael cydweithwyr o'r gwasanaeth iechyd yn ogystal â chefnogaeth weinidogol.
Tracy: Mae'n gwneud gwahaniaeth bod yr hyn rydym ni i gyd yn gweithio i'w gyflawni yn cael ei arwain a'i gefnogi ar lefel polisi. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn gweld sut y gallwn ni integreiddio'r celfyddydau i'r fframwaith Iechyd Meddwl newydd fydd yn dod allan yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Angela: Un o'r pethau roeddwn i'n falch iawn ohono oedd yr hyn a ddisgrifiodd Heather Parnell o Brifysgol De Cymru fel “rydych chi wedi cael yr holl system i gymryd rhan,” gan gyfeirio at y ffordd roeddem ni’n cynnwys myfyrwyr y celfyddydau ac iechyd fel gwirfoddolwyr ac artistiaid ar y diwrnod, gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y meysydd, a llunwyr polisi sydd eisoes yn deall manteision y celfyddydau.
Tracy: Rwy'n hoffi disgrifiad Sally o Gyngor y Celfyddydau ohono fel “carreg filltir i'r sector ddod at ei gilydd wyneb yn wyneb a siarad ag un llais,” a thrwy integreiddio cerddoriaeth fyw a'r gwehyddu awyr agored, y côr a'r darn anhygoel a rannodd Connor Allen ar ddiwedd y dydd, roedd y diwrnod cyfan yn teimlo fel “profiad ”cydlynol.
Angela: Oedd, fe gawsom ni lawer o adborth cadarnhaol am yr artistiaid – gwnaeth perfformiad Côr Oasis One World argraff fawr ar lawer o bobl ac ers hynny mae aelodau'r côr wedi bwydo i'n hystyriaeth o'r diffyg amrywiaeth yn y sector ar hyn o bryd.
Tracy: Pa bryd byddwn ni'n dechrau cynllunio ar gyfer yr un nesaf?!
Angela: Wel, mae Nina Ruddle wedi rhoi gwahoddiad agored i ni i Ogledd Cymru, felly gadewch i ni weld sut mae'r sgyrsiau’n mynd. Rydym ni'n gwybod o'r adborth ei bod yn hanfodol cael lle i gyfarfod wyneb yn wyneb fel hyn. Fel y dywedodd un person: “Mae Zoom wedi golygu bod modd i ni fod yn fwy cynhwysol ar gyfer cydweithwyr ledled y wlad, ond mae angen digwyddiadau wyneb yn wyneb hefyd er mwyn dod at ein gilydd fel hyn i gefnogi, cysylltu ac ysbrydoli ein gilydd.” Rydym mor barod ag erioed i ymateb i anghenion ein haelodau, felly os oes yna angen, fe gawn hyd i ffordd!