Director’s Blog - October 2023 / Blog y Cyfarwyddwr - Hydref 2023

31/10/2023 | Author: Angela Rogers

As the arts sector adjusts to the impacts of the recent ACW Investment Review, we have taken some time to reflect on the ways that our new portfolio funding will help us to establish a more solid base to underpin our services and support the sector to grow and thrive for 2024-2027. - Wrth i sector y celfyddydau addasu i effeithiau Adolygiad Buddsoddi diweddar Cyngor Celfyddydau Cymru, rydym wedi rhoi rhywfaint o amser i fyfyrio ar y ffyrdd y bydd ein cyllid portffolio newydd yn ein helpu i sicrhau sylfaen fwy cadarn i'n gwasanaethau a chefnogi'r sector i dyfu a ffynnu ar gyfer 2024 -2027.

Category:Art Well-being Legislation 

As the arts sector adjusts to the impacts of the recent ACW Investment Review, we have taken some time to reflect on the ways that our new portfolio funding will help us to establish a more solid base to underpin our services and support the sector to grow and thrive for 2024-2027. We are excited about the momentum that is continuing to grow across Arts & Health in Wales and beyond.

This was so apparent at our first national arts and health conference, Weave/Gwehyddu, held at the Lysaght Institute on 4th October. Funded by ACW and the Baring Foundation we had a specific focus on mental health this year. You can read our full blog about the conference here. The day started with a presentation from Lynne Neagle MS, Deputy Minister for Mental Health and Wellbeing who reminded us that “Good mental wellbeing is as critical as good physical health and wellbeing.” We had colleagues from health, arts, social care, third sector, universities and Arts Council joining us for a day of presentations, workshops and networking. Sally Lewis, Arts and Health Programme Manager at ACW reflected, “It really felt like a milestone moment for the sector to have so many gathered in person and speaking with one voice.” 

We were overwhelmed by the positive emails that flooded in, in the following days from colleagues who wanted to share their experience with us:

“The Weave/Gwehyddu conference was a complete joy and a real triumph for WAHWN and for all the arts and health projects in Wales. It was such a pleasure to attend a conference like this. You wove it together beautifully and have created a real space for connection.”

“Thank you for inviting us and spotlighting our work. As a new company it was important to be recognised as doing important work that contributes to the larger conversation on embedding arts and creativity to transform the health, wellbeing and resilience of individuals and communities.”

“Congratulations on such an inspiring and heartwarming day. Travelling home, we were brimming with ideas and invigorated by the possibilities that formed when artists, funders and leaders join together. Such an achievement.”

You can watch the recordings of our main panels on our YouTube channel here.

Unfortunately, due to a technical hitch on the day, our panel on Mental Health Inequalities panel discussion was interrupted. We are delighted to welcome the chair from that panel, Emily van de Venter (Lead Consultant for Mental Health at Public Health Wales) along to our November Network meeting, along with panellist Lexi Ireland, Strategic Lead for Health Inequalities, Coventry and Warwickshire Partnership Trust  when they will consider how the creative sector can contribute to improving equity in mental health and wellbeing, and broader health outcomes, for people experiencing mental health difficulties. You can register for this here.

I also enjoyed attending Culture Health & Wellbeing Alliance’s 3 day conference this month -  ‘Making Change. Sally Lewis sat on the ‘From The Roots Up’ panel reflecting on how our sector in Wales has created the right conditions for a health pull, rather than an arts push. She shared her thoughts on how “change moves at the rate of trust” and emphasised the importance of “taking time to build trust with colleagues in health and social care because once that’s solid, we can move at pace, be bold and ambitious.”

And our colleagues in Ireland have held their national annual conference this month - ‘Making Connections’, Check Up Check In in Dublin.  It was a day-long gathering of the arts and heath sector in Ireland, organised by Réalta, the National Body for Arts & Health in Ireland. Attended by healthcare professionals, arts practitioners, arts managers and other professionals working in the arts and health sector, Tracy Breathnach and I were invited to facilitate a peer exchange workshop to promote mutual learning between the health and arts sectors, which we really enjoyed. We hope to continue to develop our relationship with our Irish colleagues in 2024 and invite them over to Wales to share more about how we organise our national network.

Our links with European colleagues has also been extending to Flanders. In November WAHWN will contribute to the Flanders Arts Institute Arts and Wellness panel discussions, sharing our infrastructure and key drivers here in Wales.

We have also been in conversation with colleagues in England (Creative Ageing Development Agency), Ireland (Age & Opportunity) and Finland (Armas Festival) to explore the potential for a collaborative project in 2024 to share learning around creative ageing. This is part of our partnership with Age Cymru, who co-facilitate the Wales Creative Ageing Network with us. Creative Ageing was the theme of the recent Cross Party Group for Arts & Health, and we were delighted to hear Heather Ferguson, Head of Policy and Programmes present Age Cymru’s most recent campaign for artistic and cultural activities to be made available in all care homes in Wales. Read more here. 

As our sector continues to grow, we are acutely aware of the lack of clarity around entry and progression routes, and lack of diversity within our workforce.  In response, WAHWN, in partnership with Denbighshire Leisure Limited, Betsi Cadaladwr UHB, Hywel Dda UHB and Swansea Bay UHB commissioned consultants Rosie Dow and Damian Hebron to develop Creative Pathways to scope the training, skills and experience freelancers need to enter and grow their careers in this sector. We are grateful to the 60+ practitioners who have contributed to this work. it's great to feel included in shaping provision to nurture talent in the field…..I'm so proud of what we have here in Wales” (Creative Pathways participant).

 

In November our new How Ya Doing? Artist support and wellbeing programme returns, including a 6-week creative reflective practice course led by Jain Boon and Alison O’Connor.  This is aimed at creative practitioners who are working in mental health settings or supporting participants who are more likely to experience mental health issues, including the criminal justice system, refugees and asylum seekers, survivors of domestic and sexual violence and people who have experienced Adverse Childhood Experiences.  Video

Alongside this Cai Tomos will lead Welsh language sessions focusing on working with the body-mind in a way that helps create space around those themes or challenges that you bring related to your practice, which may allow you to widen perspective and gain insight.

Our Cardiff Market Place at the Grange Pavilion this month was a great opportunity to connect with colleagues in Cardiff. Eirwen Malin, project manager for Sparky Samba shared her reflections on the physical and mental benefits, and joy, for people living with Parkinsons Disease.  Our next Market Place will take place at Celf o Gwmpas, Llandrindod Wells on 21st November, in partnership with PAVO. Join  colleagues from arts, health and the third sector to connect and network to improve referrals, creative prescribing and collaborations across arts and health in the Powys region. Book here.

As recognition of the value of the arts for health and wellbeing continues to grow, it’s fantastic to see so many in our sector being nominated and awarded for their work.  Congratulations to Eleanor Shaw, Director of People Speak Up  for her recent Social Business Wales Award, Denbighshire Leisure Ltd nominated for the upcoming Active Communities Awards; Hywel Dda UHB for their runner up award for Art Boost at The Patient Experience Network National Awards, Swansea Bay UHB for their Sharing Hope programme and  Aneurin Bevan UHB for their South Wales Health & Care Award.  

The sector is thriving!

Onwards and upwards!

 

-

 

Wrth i sector y celfyddydau addasu i effeithiau Adolygiad Buddsoddi diweddar Cyngor Celfyddydau Cymru, rydym wedi rhoi rhywfaint o amser i fyfyrio ar y ffyrdd y bydd ein cyllid portffolio newydd yn ein helpu i sicrhau sylfaen fwy cadarn i'n gwasanaethau a chefnogi'r sector i dyfu a ffynnu ar gyfer 2024 -2027. Mae'r momentwm sy'n parhau i dyfu ar draws y Celfyddydau ac Iechyd yng Nghymru a thu hwnt yn gyffrous dros ben.

Roedd hyn yn hynod o amlwg yn ein cynhadledd celfyddydau ac iechyd genedlaethol gyntaf, Gwehyddu/Weave, a gynhaliwyd ar 4 Hydref yn Sefydliad Lysaght. Ariannwyd y gynhadledd gan CCC a Sefydliad Baring, ac eleni roeddem yn canolbwyntio'n benodol ar iechyd meddwl. Cewch ddarllen ein blog llawn am y gynhadledd yma. Dechreuodd y diwrnod gyda chyflwyniad gan Lynne Neagle AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles, oedd yn ein hatgoffa bod “lles meddyliol da yr un mor hanfodol ag iechyd a lles corfforol da.” Ymunodd cydweithwyr o'r byd iechyd, y celfyddydau, gofal cymdeithasol, y trydydd sector, prifysgolion a Chyngor y Celfyddydau gyda ni am ddiwrnod o gyflwyniadau, gweithdai a rhwydweithio. Meddai Sally Lewis, Rheolwr Rhaglen y Celfyddydau ac Iechyd yn CCC, “Roedd yn teimlo fel carreg filltir i'r sector gael cymaint o bobl yn ymgynnull wyneb yn wyneb ac yn siarad ag un llais.” 

Cawsom bentyrrau o e-byst cadarnhaol yn y dyddiau dilynol gan gydweithwyr oedd eisiau rhannu eu profiad:

“Roedd cynhadledd Gwehyddu yn bleser llwyr ac yn fuddugoliaeth go iawn i WAHWN ac i'r holl brosiectau celfyddydau ac iechyd yng Nghymru. Roedd yn gymaint o bleser mynychu cynhadledd fel hon. Fe wnaethoch ei wehyddu popeth ynghyd yn hyfryd a chreu lle go iawn ar gyfer cysylltu.”

“Diolch am ein gwahodd a rhoi sylw i'n gwaith. Fel cwmni newydd roedd yn bwysig cael cydnabyddiaeth ei fod yn gwneud gwaith pwysig sy'n cyfrannu at y sgwrs ehangach ar ymgorffori'r celfyddydau a chreadigrwydd er mwyn trawsnewid iechyd, lles a gwytnwch unigolion a chymunedau.”

“Llongyfarchiadau ar ddiwrnod mor ysbrydoledig a chalonogol. Ar y ffordd adref, roeddem yn llawn syniadau ac wedi ein bywiogi gan y posibiliadau sy’n ffurfio pan fydd artistiaid, cyllidwyr ac arweinwyr yn ymuno â'i gilydd. Cyflawniad gwirioneddol.”

Gallwch wylio'r recordiadau o'n prif baneli ar ein sianel YouTube yma.  

Yn anffodus, oherwydd trafferthion technegol ar y diwrnod, torrwyd ar draws trafodaeth y panel Anghydraddoldebau Iechyd Meddwl. Rydym yn falch iawn o groesawu cadeirydd y panel hwnnw, Emily van de Venter (Ymgynghorydd Arweiniol ar gyfer Iechyd Meddwl, Iechyd Cyhoeddus Cymru) i'n cyfarfod Rhwydwaith ym mis Tachwedd, ynghyd â'r panelydd Lexi Ireland, Arweinydd Strategol ar gyfer Anghydraddoldebau Iechyd, Coventry and Warwickshire Partnership Trust. Byddant yn ystyried sut y gall y sector creadigol gyfrannu at wella tegwch mewn iechyd meddwl a lles, a chanlyniadau iechyd ehangach, i bobl sy'n cael anawsterau iechyd meddwl. Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma.

Fe wnes i hefyd fwynhau mynychu cynhadledd 3 diwrnod y Gynghrair Diwylliant, Iechyd a Lles y mis hwn -  ‘Making Change’. Eisteddodd Sally Lewis ar banel ‘From The Roots Up’ i ystyried sut mae ein sector yng Nghymru wedi creu'r amodau priodol er mwyn tynnu sylw at iechyd, yn hytrach na gwthio'r celfyddydau. Rhannodd ei barn fod “newid yn symud ar gyfradd ymddiriedolaeth” a phwysleisiodd bwysigrwydd “cymryd amser i adeiladu ymddiriedolaeth gyda chydweithwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol oherwydd cyn gynted ag y bydd hwnnw'n gadarn, gallwn symud yn gyflymach, bod yn feiddgar ac yn uchelgeisiol .”

Mae ein cydweithwyr yn Iwerddon hefyd wedi cynnal eu cynhadledd flynyddol genedlaethol y mis hwn - ‘Making Connections, Check Up Check In' yn Nulyn.  Roedd yn ddiwrnod, wedi ei drefnu gan Réalta, corff cenedlaethol celfyddydau ac iechyd Iwerddon, lle daeth sector y celfyddydau ac iechyd Iwerddon ynghyd. Roedd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ymarferwyr celfyddydol, rheolwyr celfyddydol a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio yn y sector celfyddydau ac iechyd yn bresennol. Gwahoddwyd Tracy Breathnach a minnau i gynnal gweithdy cyfnewid syniadau i hyrwyddo dysgu ar y cyd rhwng y sector iechyd a sector y celfyddydau, oedd yn ddifyr dros ben. Rydym yn gobeithio parhau i ddatblygu ein perthynas â'n cydweithwyr yn Iwerddon yn 2024 a'u gwahodd i Gymru i rannu mwy am sut y trefnir ein rhwydwaith cenedlaethol.

Mae ein cysylltiadau â chydweithwyr Ewropeaidd hefyd wedi ymestyn i Fflandrys. Ym mis Tachwedd, bydd WAHWN yn cyfrannu at drafodaethau panel y celfyddydau a lles Sefydliad Celfyddydau Fflandrys, gan rannu ein seilwaith a'r ffactorau sy’n sbarduno datblygiadau yma yng Nghymru.

Rydym hefyd wedi bod mewn sgwrs gyda chydweithwyr yn Lloegr (Creative Ageing Development Agency), Iwerddon (Age & Opportunity)  a'r Ffindir (Armas Festival) i edrych ar y potensial o gynnal prosiect cydweithredol yn 2024 i rannu dysg gysylltiedig â heneiddio creadigol. Mae hyn yn rhan o'n partneriaeth gydag Age Cymru, sy'n hwyluso Rhwydwaith Heneiddio Creadigol Cymru ar y cyd â ni. Heneiddio Creadigol oedd thema ddiweddar y Grŵp Trawsbleidiol ar gyfer y Celfyddydau ac Iechyd, ac roeddem yn falch iawn o glywed Heather Ferguson, y Pennaeth Polisi a Rhaglenni yn cyflwyno ymgyrch ddiweddaraf Age Cymru i sicrhau bod gweithgareddau artistig a diwylliannol ar gael ym mhob cartref gofal yng Nghymru. Darllenwch fwy yma.

Wrth i'n sector barhau i dyfu, rydym yn ymwybodol iawn o'r diffyg eglurder ynghylch llwybrau mynediad a dilyniant, a diffyg amrywiaeth o fewn ein gweithlu.  Mewn ymateb i hyn, comisiynodd WAHWN, mewn partneriaeth â Hamdden Sir Ddinbych Cyf., Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, yr ymgynghorwyr Rosie Dow a Damian Hebron i ddatblygu Llwybrau Creadigol i gwmpasu'r hyfforddiant, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen ar weithwyr llawrydd i ddechrau a thyfu eu gyrfaoedd yn y sector hwn. Rydym yn ddiolchgar i'r 60+ o ymarferwyr sydd wedi cyfrannu at y gwaith hwn.  Mae'n wych teimlo ein bod yn cael ein cynnwys yn y gwaith o lunio darpariaeth i feithrin talent yn y maes…..Rydw i mor falch o'r hyn sydd gennym ni yma yng Nghymru” (cyfranogwr Llwybrau Creadigol)  

 

Ym mis Tachwedd, bydd ein rhaglen llesiant artistiaid newydd Sut Mae'n Mynd? yn dychwelyd, gan gynnwys cwrs ymarfer myfyriol creadigol  6 wythnos dan arweiniad Jain Boon ac Alison O’Connor. Mae hwn wedi'i anelu at ymarferwyr creadigol sy'n gweithio mewn lleoliadau iechyd meddwl neu'n cefnogi cyfranogwyr sy'n fwy tebygol o brofi problemau iechyd meddwl, gan gynnwys y system cyfiawnder troseddol, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, goroeswyr trais domestig a rhywiol a phobl sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.

Ochr yn ochr â hyn bydd Cai Tomos yn arwain sesiynau Cymraeg yn canolbwyntio ar weithio gyda'r meddwl-corff mewn ffordd sy'n helpu i greu lle o amgylch y themâu neu'r heriau hynny rydych chi'n eu cyflwyno sy'n gysylltiedig â'ch ymarfer, a allai roi mewnwelediad a phersbectif ehangach ichi.

Roedd Marchnad y rhwydwaith ym Mhafiliwn Grange yng Nghaerdydd y mis yma yn gyfle ardderchog i gysylltu gyda'n cydweithwyr yng Nghaerdydd. Rhannodd Eirwen Malin, rheolwr prosiect Sparky Samba ei syniadau am fanteision corfforol a meddyliol samba, a'r mwynhad, i bobl sy'n byw gyda Chlefyd Parkinson’s. Cynhelir ein Marchnad nesaf yn Celf o Gwmpas, Llandrindod ar 21 Tachwedd, mewn partneriaeth â  PAVO. Ymunwch â  chydweithwyr o feysydd y celfyddydau, iechyd a'r trydydd sector i gysylltu a rhwydweithio i wella atgyfeirio, presgripsiynau creadigol a chydweithio ar draws y celfyddydau ac iechyd yn ardal Powys. Archebwch yma.

Wrth i gydnabyddiaeth o werth y celfyddydau ar gyfer iechyd a lles barhau i dyfu, mae'n wych gweld cymaint yn ein sector yn cael eu henwebu a'u gwobrwyo am eu gwaith. Llongyfarchiadau i Eleanor Shaw, Cyfarwyddwr People Speak Up am ei Gwobr Busnes Cymdeithasol Cymru ddiweddar, Hamdden Sir Ddinbych Cyf a enwebwyd ar gyfer y Gwobrau Cymunedau Bywiog; BIP Hywel Dda am ddod yn ail am brosiect Hwb Celf yng ngwobrau cenedlaethol The Patient Experience Network, BIP Bae Abertawe am eu rhaglen Rhannu Gobaith a BIP Aneurin Bevan am eu gwobr gan Iechyd a Gofal De Cymru.  

Mae'r sector yn ffynnu!

Ymlaen â ni!

Previous Article

Next Article

Director’s Blog - October 2023 / Blog y Cyfarwyddwr - Hydref 2023
Menu
Search