Director’s Blog - November 2023 / Blog y Cyfarwyddwr - Tachwedd 2023

29/11/2023 | Author: Angela Rogers

November recap from Angela

Category:Art Well-being Legislation 

 

Dear WAHWN members,

It’s been another busy month for Team WAHWN, connecting with our members; UK and international colleagues, and planning a wide range of programmes and events for the coming year. 

It was such a pleasure to join colleagues from Wales and Belgium for the recent Flanders Art Institute online (Re) Connect event and to have the opportunity to share the collaborative partnership approach our arts and health sector enjoys in Wales.  

A key event in our sector’s December diary is the launch of the new National Framework for Social Prescribing on 7th December.  Earlier in the year WAHWN and our members responded to the draft Framework, calling for clearer signposting to creative prescribing activities across the framework, and more clarity about how arts engagement can help tackle mental health and wellbeing.  This virtual event will introduce the new framework, share social prescribing developments, and outline next steps.   We also await details of the forthcoming consultation on the Welsh Government’s new Mental Health Strategy.  Along with mental health leads at Public Health Wales, WAHWN is looking at how we can ensure the voices of those with lived experience are included in the feedback. 

It was great to welcome back Emily Van De Venter, Public Health Wales and Lexi Ireland, Strategic Lead for Health Inequalities, Coventry and Warwickshire Partnership Trust to our November Network meeting to continue the discussion around the arts and mental health inequalities, and broader health outcomes. It was inspiring to hear about the Cultural Inclusion Network and how members from grassroots organisations are having their voices heard and valued. 

A key priority for WAHWN going forward is finding ways to grow, nurture and support a more diverse arts and health workforce. Thank you to everyone who completed our survey and took part in our Creative Pathways forum meetings.  Our freelance consultants Rosie Dow and Damian Hebron have compiled the learning from this scoping exercise and made a series of recommendations on how WAHWN can move forward.  We will share more on this in due course.    

Following our Weave conference last month, we are now delighted to share a short film created by film maker Simon Huntley highlighting feedback from the day.  The recordings of the live panel discussions are still available and can be viewed here. We are excited to learn that there is a growing appetite for further Weaves, and we are now in discussion with funders and partners to scope a Weave for 2024 in North Wales.  We will share more information in the new year.    

Last week we hosted our first Powys Market Place in partnership with PAVO, bringing health, third sector and arts colleagues together in person to connect, collaborate and increase referral pathways.  We’re delighted that we’ve been successful in securing National Lottery Community Fund Awards for All funding to deliver six pan-Wales Market Places from January in Pembrokeshire, Carmarthenshire, Denbighshire, Gwynedd, Rhondda Cynon Taf and Swansea.   We hope to get a chance to meet you in person at one of these events over the coming year. 

Through our How Ya Doing? wellbeing programme, funded by the Baring Foundation, we’re pleased to be supporting practitioners through creative reflective sessions with exceptional practitioners Jain Boon and Alison O’Connor and our Welsh language offer with Cai Tomos. These sessions have sold out, but if you’ve missed out this time, be assured that we will be offering more sessions in 2024.    Alongside these we are pleased to be offering our exclusive new strategic well-being course from January aimed at supporting senior staff and trustees to embed best well-being practice within your organisation through developing an action plan.  This two half-day online training course will be delivered by Justine Wheatley who brings a wealth of practical experience about how to creatively support delivery teams in arts and health contexts. The course will take place on 30th January and 6th February.  Organisations can also apply for some follow-up peer-learning sessions enabling you to implement your ideas. Early booking is recommended. 

Over the coming months, we are looking forward to working in partnership with Swansea Bay UHB on the ‘Space for Birth’ project, creatively enhancing the environment of the Birth Centre at Neath Port Talbot Hospital, with funding from the ACW Arts and Health Lottery fund.  

It’s inspiring to see a rapidly growing number of arts and health partnership projects emerging through this funding stream, and more projects joining the WAHWN bi-monthly peer learning sessions enabling peers to share challenges and achievements, overcome barriers and grow and scale their work.  The next round opens on 29th November 2023 and closes on 17th January 2024.  Arts projects aiming to improve people’s health and wellbeing by connecting them with nature are an additional, new priority for Arts Council of Wales’ Arts, Health and Wellbeing lottery funding, alongside mental health, staff wellbeing, physical health and health inequalities.   

Finally, we hope you can join us for our final network meeting of 2023, where we’ll be joined by our Wales 64 Million Artists Creativity Champions, Ffion, Sian, Sally and Claire who will be offering some festive creative wellbeing cheer to get you in the mood for Christmas and highlight the upcoming January Challenge.  Further details about our January – March network meetings will follow in our shorter December bulletin, and will include an international arts and health theme and Sam Rodgers from the NHS Race and Health Observatory.

 

Do keep sharing your news, opportunities, case studies and other resources with us so we can help tell your story and continue building this incredible arts, health and wellbeing movement in Wales!

Wishing you all a creative and healthy Christmas and New Year

Onwards and upwards!

Angela

 

-

 

Annwyl aelodau WAHWN,

Bu’n fis prysur arall i dîm WAHWN, yn cysylltu gyda’n haelodau; cydweithwyr yn y DU a rhyngwladol, a chynllunio ystod eang o raglenni a digwyddiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Roedd yn bleser ymuno â chydweithwyr o Gymru a Gwlad Belg ar gyfer digwyddiad ar-lein diweddar Sefydliad Celf Fflandrys (Re) Connect a chael cyfle i rannu’r ymagwedd partneriaeth gydweithredol y mae'r sector celfyddydau  ac iechyd yn ei mwynhau yng Nghymru.

Digwyddiad allweddol yn y dyddiadur ym mis Rhagfyr yw lansio’r Fframwaith Cenedlaethol newydd ar gyfer Rhagnodi Cymdeithasol ar 7 Rhagfyr. Yn gynharach yn y flwyddyn ymatebodd WAHWN a’n haelodau i’r Fframwaith drafft, gan alw am arwyddo cliriach at weithgareddau rhagnodi creadigol ar draws y fframwaith a rhagor o eglurder ar y ffordd y gall ymgysylltu â’r celfyddydau helpu i ddelio gydag iechyd meddwl a llesiant. Bydd y digwyddiad rhithwir yn cyflwyno’r fframwaith newydd, yn rhannu datblygiadau ar ragnodi cymdeithasol ac yn  egluro’r camau nesaf. Rydym ni hefyd yn aros am fanylion yr ymgynghoriad arfaethedig ar Strategaeth Iechyd Meddwl newydd Llywodraeth Cymru. Ynghyd â’r arweinwyr iechyd meddwl yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae WAHWN yn edrych ar sut y gallwn sicrhau bod lleisiau’r rheini sydd â phrofiad bywyd yn rhan o’r adborth.

Roedd yn wych cael croesawu Emily Van De Venter, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Lexi Ireland, Arweinydd Strategol Anghydraddoldebau Iechyd, Ymddiriedolaeth Partneriaeth Coventry a Warwickshire, yn ôl i’r cyfarfod rhwydwaith ym mis Tachwedd i barhau â’r sgwrs am y celfyddydau ac anghydraddoldebau iechyd meddwl, a chanlyniadau iechyd ehangach. Roedd yn ysbrydoledig i glywed am y  Rhwydwaith Cynhwysiant Digidol a sut mae lleisiau aelodau sefydliadau llawr gwlad yn cael eu clywed a’u gwerthfawrogi. 

Blaenoriaeth allweddol i WAHWN wrth symud ymlaen yw dod o hyd i ffyrdd i dyfu, meithrin a chefnogi gweithlu celfyddydau ac iechyd mwy amrywiol. Diolch i bawb a gwblhaodd yr arolwg ac a gymerodd ran yn ein cyfarfodydd fforwm Llwybrau Creadigol. Mae’r ymgynghorwyr llawrydd  Rosie Dow a Damian Hebron wedi crynhoi’r gwersi o’r ymarfer cwmpasu ac wedi gwneud cyfres o argymhellion ar sut y gall WAHWN symud ymlaen. Byddwn yn rhannu mwy am hyn maes o law.

Yn dilyn cynhadledd Gwehyddu fis diwethaf, rydyn ni bellach yn falch i rannu ffilm fer a grëwyd gan y gwneuthurwr ffilmiau Simon Huntley sy’n amlygu adborth ar y dydd. Mae’r recordiadau o’r trafodaethau panel byw yn dal ar gael i’w gwylio yma.  Mae’n gyffrous clywed bod archwaeth cynyddol i weld Gwehyddu eto ac rydyn ni wrthi’n trafod gyda chyllidwyr a phartneriaid i gwmpasu Gwehyddu ar gyfer 2024 yng ngogledd Cymru. Byddwn ni’n rhannu rhagor o wybodaeth yn flwyddyn newydd.

Yr wythnos ddiwethaf cynhaliwyd ein Marchnad gyntaf ym Mhowys mewn partneriaeth gyda PAVO, gan ddod â chydweithwyr iechyd, trydydd sector a’r celfyddydau at ei gilydd wyneb yn wyneb i gysylltu, cydweithio a chynnyddu llwybrau atgyfeirio. Rydym ni’n falch iawn ein bod wedi llwyddo i sicrhau cyllid Cronfa Gymunedol Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol i ddarparu chwe Marchnad ledled Cymru o fis Ionawr yn siroedd Penfro, Caerfyrddin, Dinbych, Gwynedd, Rhondda Cynon Taf ac Abertawe. Gobeithio y gallwn ni gwrdd â chi wyneb yn wyneb yn un o’r digwyddiadau hyn dros y flwyddyn nesaf.

Drwy raglen Sut Mae’n Mynd? a gyllidir gan Sefydliad Baring rydyn ni’n falch i fod yn cefnogi ymarferwyr drwy sesiynau myfyrio creadigol gyda’r ymarferwyr rhagorol Jain Boon ac Alison O’Connor a’r arlwy Cymraeg gyda Cai Tomos. Mae’r sesiynau hyn yn llawn, ond os na lwyddoch chi i gael lle y tro hwn, gallwn sicrhau y byddwn yn cynnig rhagor o sesiynau yn 2024.  Ochr yn ochr â’r rhain rydyn ni’n falch i gynnig ein cwrs llesiant strategol o fis Ionawr sydd wedi’i anelu at gefnogi staff uwch ac ymddiriedolwyr i wreiddio ymarfer llesiant yn eich sefydliad drwy ddatblygu cynllun gweithredu. Justine Wheatley fydd yn cyflwyno’r cwrs hyfforddi ar-lein dros ddau hanner diwrnod gan ddod â chyfoeth o brofiad ymarferol o gefnogi timau cyflwyno yn greadigol mewn cyd-destunau celfyddydau ac iechyd. Cynhelir y cwrs ar 30 Ionawr a 6 Chwefror.  Gall sefydliadau hefyd ymgeisio am sesiynau dysgu cymheiriaid dilynol i’ch galluogi i roi eich syniadau ar waith. Argymhellir eich bod yn archebu lle’n gynnar.

Dros y misoedd nesaf, rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth gyda BIP Bae Abertawe ar y prosiect ‘Space for Birth’ sy’n cyfoethogi amgylchedd y Ganolfan Geni yn Ysbyty Castell Nedd Port Talbot, gyda chyllid gan gronfa Loteri Celfyddydau ac Iechyd CCC.

Mae’n ysbrydoledig gweld nifer cynyddol o brosiectau partneriaeth celfyddydau ac iechyd yn ymddangos drwy’r ffrwd cyllido hwn, a rhagor o brosiectau’n ymuno â sesiynau dysgu cymheiriaid deufisol WAHWN sy’n galluogi cymheiriaid i rannu heriau a llwyddiannau, goresgyn rhwystrau a thyfu ac ehangu eu gwaith.  Mae’r cylch nesaf yn agor ar 29 Tachwedd 2023 ac yn cau ar 17 Ionawr 2024.  Mae prosiectau celfyddydol â’r nod o wella iechyd a llesiant pobl drwy eu cysylltu â natur yn flaenoriaeth newydd, ychwanegol i gyllid loteri Iechyd a Llesiant Cyngor Celfyddydau Cymru, ochr yn ochr ag iechyd meddwl, llesiant staff, iechyd corfforol ac anghydraddoldebau iechyd.

Yn olaf, gobeithio y gallwch ymuno â ni ar gyfer cyfarfod rhwydwaith olaf 2023, lle bydd Hyrwyddwyr Creadigrwydd Cymru sy’n rhan o gynllun 64 Miliwn o Artistiaid, Ffion, Sian, Sally a Claire, yn ymuno â ni i gynnig hwyl lesol creadigol tymhorol i godi eich hwyliau Nadoligaidd a thynnu sylw at Her Mis Ionawr sydd ar ddod. Bydd rhagor o fanylion am ein cyfarfodydd rhwydwaith Ionawr – Mawrth yn dilyn yn ein bwletin byrrach ym mis Rhagfyr, a fydd yn cynnwys thema celfyddydau ac iechyd rhyngwladol a Sam Rodgers o Arsyllfa Hil ac Iechyd y GIG.

 

Parhewch i rannu eich newyddion, cyfleoedd, astudiaethau achos ac adnoddau eraill gyda ni er mwyn i ni allu helpu i ddweud eich stori a pharhau i adeiladu’r mudiad celfyddydau, iechyd a llesiant anhygoel hwn yng Nghymru!

Gan ddymuno Nadolig a Blwyddyn Newydd creadigol ac iach i bob un

Ymlaen!

Angela

Previous Article

Next Article

Director’s Blog - November 2023 / Blog y Cyfarwyddwr - Tachwedd 2023
Menu
Search