Directors Blog - September 2023 | Blog y Cyfarwyddwr - Medi 2023

26/09/2023 | Author: Angela Rogers

Angela recaps a busy month in the sector with new projects, national awards and partnerships and looks forward to an exciting and active October. - Mae Angela'n crynhoi mis prysur yn y sector gyda phrosiectau newydd, gwobrau a phartneriaethau cenedlaethol ac yn edrych ymlaen at fis Hydref cyffrous a phrysur.

Category:Art Well-being Legislation 

I hope everyone has been able to take some time out this summer to recharge their batteries and enjoy some of the late summer sunshine. 

As I write this blog I’m just travelling back from Manchester, (still with the remnants of my glittery eyeshadow!) for the HSJ Patient Safety Awards  - celebrating Swansea Bay UHB’s nomination for Staff Wellbeing Initiative for their Sharing Hope Arts & Minds programme.  This comes on the back of being a finalist for the Nursing Times Workforce Summit Awards and the LOVAwards.  Massive congratulations to Johan and his incredible team.  It’s equally warming to hear that WAHWN board member and ABUHB’s Sarah Goodey was nominated as one of the South Wales Argus 2023 Health & Care 'Workforce and Wellbeing Team of the Year' team.

I am mindful that many of you will have received an ACW investment review decision by the time you read this. Sadly, not all of us will have received positive news.   I welcomed Wales Culture Alliance call to action on how we support each other as a sector following the decision.

September has been a busy month for WAHWN, ramping up for our inaugural Weave/Gwehyddu conference on 4th October. With nearly 90 people on a reserve list, we’re delighted that you can now join us via our livestream offer.

As interest in arts, health and wellbeing continues to grow in Wales, it's important that we find new ways to inspire and nurture artists to work in health and community wellbeing settings. Our sector is a rapidly developing one, with many potential career opportunities for artists from all disciplines to make a real difference to people and communities. Through our Creative Pathways scoping we are asking how artists acquire the confidence and skills to work effectively and safely in this sector.  We invite you to take a few minutes to complete our freelancers survey and/or commissioners survey to help us develop long term support to grow and sustain the sector.  Join us too for our October Network Meeting to share your views and help us identify the gaps and barriers.

We were delighted to launch our second phase of How Ya Doing? in our September Network meeting. How Ya Doing? focuses on supporting artists wellbeing by directly providing Creative Reflective Practice sessions and considering the wider infrastructure of how the sector is supporting freelance artists. We are inspired by the work our colleagues are doing in England (Arts & Health Hub) and Ireland (https://mindingcreativeminds.ie), and look forward to sharing more as the project develops over the next 2 years with thanks to funding form the Baring Foundation.

Our popular in person Market Places get underway this season with a Cardiff Market Place at the Grange Pavilion on 17th October and Powys Market Place at Celf o Gwmpas, Llandrindod Wells on 21st November.  Join team WAHWN and colleagues from arts, health and the third sector to connect and network in your local area to improve referrals, creative prescribing and collaborations across arts and health in the local region. 

I was moved and inspired by environmental sound artist and composer Cheryl Beer’s presentation at the Cultural Freelancers Wales Freelancers and the Climate Crisis session last week, when she shared how becoming suddenly hearing impaired, with hearing loss, tinnitus and hyperacusis, shaped her creative practice and the way in which she now composes with nature.   Do take a moment to listen to her ‘tree-led’ music recordings which are extraordinary! WAHWN’s Project Coordinator Becca May Collins will join freelancers at Pontio this month for CFW freelancers conference networking day. 

It was sobering to hear Eluned Morgan, Health Minister share her concerns at the recent Welsh NHS Confederation conference ‘Health on the Edge – What Needs to Change?’ when she warned of the ‘difficult choices’ government and health boards will face to tackle the massive NHS overspend.  On the day of the conference, WAHWN and over 30 other organisations in Wales supported the Welsh NHS Confederation call for a cross-government and cross-sector public conversation on the future of health and care services and the population’s health and wellbeing. We believe it is for all government departments, ministers and sectors to ask what they can do to support the health and wellbeing of people now and in the future. The health and wellbeing of the population is everyone’s business, so all sectors and government departments must work together to co-produce services and engage with the public as part of this vital conversation.

Access to healthcare only accounts for around 10 per cent of a population’s health, with the rest shaped by socio-economic factors. In such economically challenging times, we must ensure we do not cut spending on preventative measures, which would inevitably lead to a greater cost down the line. Fair work, housing, transport, access to green spaces, leisure and the arts help us stay well. Everything affects our health and wellbeing.” (Darren Hughes, Director, Welsh NHS Confederation)

WAHWN continues to values its joined up working with the Welsh NHS Confederation.   “WAHWN provides a key role in sharing best practice and evidences how legislation and policy is being implemented in practice by the arts, health and wellbeing sector.”  (Nesta Lloyd-Jones, Deputy Director, Welsh NHS Confederation)

Onwards and upwards! 

 

-

 

Gobeithio bod pawb wedi gallu manteisio ar y cyfle yn ystod yr haf i dreulio ychydig o amser yn ymlacio ac yn mwynhau haul diwedd yr haf.

Wrth i mi ysgrifennu’r blog hwn rwy’n teithio’n ôl o Fanceinion (yn dal gyda gweddillion fy ngholur disglair!) yn dilyn Gwobrau Diogelwch Cleifion HSJ – yn dathlu enwebiad BIP Bae Abertawe ar gyfer Menter Llesiant Staff am eu rhaglen Celfyddydau a Meddyliau Rhannu Gobaith. Daw hyn ar ôl bod yn y rownd derfynol ar gyfer Gwobrau Workforce Summit y Nursing Times a Gwobrau LOV.  Llongyfarchiadau enfawr i Johan a’i dîm anhygoel. Mae’r un mor braf clywed bod Sarah Goodey o BIPAB ac aelod bwrdd WHAWN wedi’i henwebu fel un o  ‘Dîm Gweithlu a Llesiant y Flwyddyn’ Iechyd a Gofal y South Wales Argus 2023.

Fe wn y bydd llawer ohonoch chi wedi derbyn penderfyniad adolygiad buddsoddi CCC erbyn y byddwch yn darllen hwn. Yn anffodus, ni fydd pawb wedi derbyn newyddion cadarnhaol. Roeddwn i’n croesawu galwad Cynghrair Diwylliant Cymru i weithredu ar y ffordd rydyn ni’n ein cefnogi ein gilydd fel sector yn dilyn y penderfyniad.

Bu mis Medi yn brysur i WAHWN, wrth edrych ymlaen at ein cynhadledd Weave/Gwehyddu gyntaf ar 4 Hydref. Gydag yn agos i 90 o bobl ar y rhestr wrth gefn, rydyn ni wrth ein bodd y byddwch yn gallu ymuno drwy ffrydio byw.  

Wrth i’r diddordeb yn y celfyddydau, iechyd a llesiant barhau i dyfu yng Nghymru, mae’n bwysig ein bod yn dod o hyd i ffyrdd newydd i ysbrydoli a meithrin artistiaid i weithio mewn lleoliadau iechyd a chymunedol. Mae ein sector yn datblygu’n gyflym, gyda llawer o gyfleoedd gyrfa posibl i artistiaid o bob disgyblaeth wneud gwahaniaeth go iawn i bobl a chymunedau. Drwy ein gwaith cwmpasu Creative Pathways rydyn ni’n holi sut mae artistiaid yn sicrhau’r hyder a’r sgiliau i weithio’n effeithiol ac yn ddiogel yn y sector. Fe’ch gwahoddwn i dreulio rhai munudau’n cwblhau arolwg i bobl lawrydd a/neu’r arolwg i gomisiynwyr i’n helpu i ddatblygu cefnogaeth hirdymor i dyfu a chynnal y sector. Ymunwch â ni hefyd yn ein Cyfarfod Rhwydwaith mis Hydref i rannu eich barn a nodi’r bylchau a’r rhwystrau.

Roedd yn bleser lansio ail gam Sut Mae’n Mynd? yn ein cyfarfod Rhwydwaith ym mis Medi. Mae Sut Mae’n Mynd? yn canolbwyntio ar gefnogi llesiant artistiaid drwy ddarparu sesiynau Ymarfer Myfyriol Creadigol yn uniongyrchol ac ystyried seilwaith ehangach y sector o ran y ffordd y mae’n cefnogi artistiaid llawrydd. Fe’n hysbrydolwyd gan waith ein cydweithwyr yn Lloegr (Arts & Health Hub) ac Iwerddon (https://mindingcreativeminds.ie/), ac edrychwn ymlaen at rannu mwy wrth i’r prosiect ddatblygu dros y ddwy flynedd nesaf diolch i gyllid gan Sefydliad Baring.

Bydd ein Marchnadoedd wyneb yn wyneb poblogaidd yn dechrau’r tymor hwn gyda Marchnad Caerdydd ym Mhafiliwn Grange ar 17 Hydref a Marchnad Powys yn Celf o Gwmpas, Llandrindod ar 21 Tachwedd.  Ymunwch â thîm WAHWN a chydweithwyr o’r celfyddydau, iechyd a’r trydydd sector i gysylltu a rhwydweithio yn eich ardal leol i wella atgyfeirio, rhagnodi creadigol a chydweithio ar draws y celfyddydau ac iechyd yn y rhanbarth lleol.

Cefais fy ysbrydoli’n emosiynol gan gyflwyniad yr artist a chyfansoddwr sain amgylcheddol Cheryl Beer yn sesiwn Llawryddion ac Argyfwng yr Hinsawdd Llawryddion Diwylliannol Cymru yr wythnos ddiwethaf pan soniodd sut y ffurfiwyd ei harfer creadigol a’r ffordd y mae bellach yn cyfansoddi gyda natur gan nam sydyn ar ei chlyw, colli clyw, tinnitus a hyperacusis. Sbariwch funud i wrando ar ei recordiadau cerddoriaeth ‘dan arweiniad y coed’ sy’n rhyfeddol! Bydd Cydlynydd Prosiectau WAHWN Becca May Collins yn ymuno â gweithwyr llawrydd yn Pontio y mis hwn ar gyfer diwrnod rhwydweithio cynhadledd y llawryddion. 

Cawsom ein sobri wrth glywed y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan yn rhannu ei phryderon yng Nghynhadledd diweddar Conffederasiwn GIG Cymru ‘'Iechyd ar y Dibyn - Beth Sydd Angen Newid?' gyda rhybudd am y ‘dewisiadau anodd’ y bydd y llywodraeth a byrddau iechyd yn eu hwynebu wrth fynd i’r afael â gorwariant enfawr y GIG.  Ar ddiwrnod y gynhadledd, cefnogodd WAHWN a thros 30 sefydliad arall alwad Conffederasiwn GIG Cymru am sgwrs gyhoeddus draws-lywodraethol a thraws-sector ar ddyfodol gwasanaethau iechyd a gofal ac iechyd a llesiant y boblogaeth. Credwn fod angen i bob adran lywodraethol, gweinidog a sector holi beth y gallen nhw ei wneud i gefnogi iechyd a llesiant pobl nawr ac yn y dyfodol. Mae iechyd a llesiant y boblogaeth yn fusnes i bawb, felly rhaid i bob sector ac adran lywodraethol gydweithio i gyd-gynhyrchu gwasanaethau ac ymgysylltu â’r cyhoedd fel rhan o’r sgwrs hanfodol hon.

“Dim ond o ddeutu 10 y cant o iechyd y boblogaeth sy’n ymwneud â mynediad at ofal iechyd, gyda’r gweddill yn cael ei ffurfio gan ffactorau economaidd-gymdeithasol. Mewn cyfnod sydd mor heriol yn economaidd, rhaid i ni sicrhau nad ydym yn torri gwariant ar fesurau ataliol, a fyddai’n anochel yn arwain at gostau uwch yn ddiweddarach.  Mae gwaith teg, tai, trafnidiaeth, mannau gwyrdd, hamdden a’r celfyddydau yn ein helpu i gadw’n iach. Mae popeth yn effeithio ar ein hiechyd a’n llesiant.” (Darren Hughes, Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru)

Mae WAHWN yn parhau i werthfawrogi pwysigrwydd cydweithio gyda Chonffederasiwn GIG Cymru. “Mae WAHWN yn darparu rôl allweddol drwy rannu arfer gorau a thystio i’r ffordd y mae deddfwriaeth a pholisi’n cael eu rhoi ar waith yn ymarferol gan sector y celfyddydau, iechyd a llesiant.”  (Nesta Lloyd-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru)

Ymlaen! 

Previous Article

Next Article

Directors Blog - September 2023 | Blog y Cyfarwyddwr - Medi 2023
Menu
Search