BLOG Y CYFARWYDDWR - Haf 2023
29/07/2023 | Author: Angela
Annwyl gydweithwyr,
Daeth gwyliau’r haf ac i lawer bydd hynny’n golygu mwy o jyglo gofal plant, neu efallai fwy o amser i orffwys neu fynd ar antur! Bydd mis Awst yn dawelach i’n tîm ni gan y bydd llawer ohonom yn cael seibiant haeddiannol ac yn treulio amser gyda’n teuluoedd. Felly fyddwn ni ddim yn anfon cylchlythyr arall tan fis Medi.
Rydym ni wrth ein bodd yn rhannu ein cylchlythyr ar ei newydd wedd gyda chi gyda diweddariadau gwych ar y wefan. Os oes gennych chi sylwadau ar hyn byddem ni’n falch i glywed gennych chi - ebostiwch info@wahwn.cymru. Os hoffech ychwanegu digwyddiadau neu gyfleoedd i’r wefan, cofrestrwch fel aelod ar www.wahwn.cymru, ychwanegwch Broffil Aelod a gallwch ychwanegu Cyfleoedd a Digwyddiadau i’r wefan fel ffordd o rannu eich gwaith gyda’r rhwydwaith.
Gan edrych ymlaen at yr hydref byddwn yn lansio ail raglen llesiant artistiaid Sut Mae’n Mynd? ym mis Medi. Diolch i gyllid gan Sefydliad Baring, rydym ni’n trefnu rhaglen 2 flynedd i ddatblygu cynnig llesiant i artistiaid, yn enwedig o gwmpas darpariaeth iechyd meddwl. Ymunwch â ni ar 21 Medi yn ein Cyfarfod Rhwydwaith i glywed mwy am hyn. Cadwch eich lle yma.
Byddwn yn cynnal y gynhadledd Celfyddydau ac Iechyd Meddwl gyntaf yng Nghasnewydd ar 4 Hydref. Mae’r galw am docynnau’n enfawr! Rydyn ni wedi rhyddhau rhagor o docynnau ac ehangu’r rhaglen, ac rydym ni hefyd yn bwriadu ffrydio’r prif ddigwyddiadau panel yn fyw ar y dydd. Felly os ydych chi wedi colli’r cyfle i gael tocyn y tro hwn, cadwch olwg ar y cyfryngau cymdeithasol i gael gwybodaeth am y ddolen ffrydio byw.
Rydym ni’n falch i gyhoeddi ein bod wedi llwyddo gyda’n cais diweddar am grant i Gronfa Loteri y Celfyddydau ac Iechyd Cyngor Celfyddydau Cymru am brosiect cwmpasu ar anghenion hyfforddiant a mentora artistiaid, yn enwedig ynghylch iechyd meddwl – angen sydd wedi’i fynegi i ni gan lawer o artistiaid, sefydliadau celfyddydau a byrddau iechyd dros y chwe mis diwethaf.
Bydd y cylch nesaf ar gyfer Cronfa Loteri y Celfyddydau ac Iechyd Cyngor y Celfyddydau’n agor ar 16 Awst ac yn cau ar 20 Medi. Erbyn hyn mae’r gronfa’n cynnwys blaenoriaeth o gwmpas natur greadigol. Rhagor o wybodaeth yma.
Mae rhai Grantiau Micro Mynd i Weld yn dal i fod ar gael – os oes gennych chi syniad am ymweliad neu hyfforddiant a fydd yn cefnogi eich ymarfer yn y Celfyddydau ac Iechyd, yn enwedig os oes thema neu ffocws amgylcheddol, anfonwch eich ceisiadau atom. Rhagor o wybodaeth yma.
Rydym ni’n cynnal arolwg ciplun i’n haelodau dros yr haf i glywed am bwy rydych chi’n eu cefnogi gyda’ch rhaglenni celfyddydau. Dim ond ychydig funudau fydd yr arolwg yn ei gymryd i’w gwblhau, a bydd yn ein helpu i fynegi’r angen am gyllid yn y dyfodol er mwyn i ni allu parhau i gefnogi ein haelodau. Cliciwch yma i’w gwblhau.
Gan ddymuno dyddiau arafach i chi y mis hwn ac edrych ymlaen at gysylltu unwaith eto ym mis Medi.
Ymlaen,
Angela