Newyddion WAHWN
Bwrsariaethau Micro Mynd i Weld 2025-26: Cefnogi Cysylltiad, Dysgu a Thwf Creadigol
Yn ystod 2025-26, dyfarnodd WAHWN 12 o ‘Fwrsariaethau Micro Mynd i Weld’ i artistiaid yn gweithio ledled sector y celfyddydau, iechyd a llesiant. Roedd y grantiau bach hyn yn galluogi’r deiliaid i archwilio syniadau newydd, dwysau eu hymarfer a meithrin cysylltiadau ystyrlon drwy ymweld â phrosiectau, derbyn hyfforddiant ac ymgysylltu â’u cymheiriaid ledled Cymru a thu hwnt.
Bu’r bwrsariaethau’n cefnogi ystod eang o weithgareddau – o fynd i gynadleddau a gwyliau i hyfforddi, cwrdd â chydweithredwyr ac ymweld â phrosiectau ysbrydoledig. Yn hollbwysig, roedd y cylch hwn yn cynnwys cefnogaeth benodol i ymarferwyr iaith Gymraeg, mwyafrif byd-eang a Byddar/Anabl, i helpu i fynd i’r afael â’r diffyg cynrychiolaeth mewn ceisiadau hyd yma. Disgrifiodd bron pob un y profiad yn un buddiol iawn, oedd yn helpu i feithrin hyder, datblygu sgiliau newydd a ffurfio eu cyfeiriad proffesiynol. I lawer – yn enwedig gweithwyr llawrydd – helpodd y fwrsariaeth hefyd i leddfu pwysau costau teithio a hyfforddi, a all fod yn rhwystr gwirioneddol yn aml.
Roedd y cyfranogwyr yn pwysleisio’n gyson pa mor werthfawr oedd cysylltu ag eraill, datblygu eu sgiliau a chael amser i fyfyrio. Drwy ymweliadau, hyfforddiant a digwyddiadau, roedd cyfle i gwrdd â phobl newydd, ysgogi cydweithio a dysgu dulliau a syniadau newydd i gryfhau eu gwaith yn y celfyddydau, iechyd a llesiant. Yr un mor bwysig roedd y bwrsariaethau’n cynnig cyfle i gamu’n ôl o’u bywyd dydd i ddydd gan gynnig amser i ailosod, cael eu hysbrydoli a meddwl yn wahanol am eu hymarfer.
Nododd y deiliaid:
- Partneriaethau a pherthnasoedd proffesiynol newydd
- Gwahoddiadau i gyfrannu at brosiectau ymchwil a chynadleddau
- Cynnydd yn eu hyder wrth gyflwyno gweithdai a rhaglenni
- Gallu cefnogi cymunedau amrywiol yn well
- Syniadau a dulliau newydd yn cael eu hymgorffori mewn gwaith parhaus
Gallwch ddarllen mwy am sut y defnyddiodd y cyfranogwyr unigol eu bwrsariaethau yn eu blogiau:
- Ymweliad Presgripsiynu Cymdeithasol yn Wrecsam – Gina Mollett
- Symposiwm Cwiaredd mewn Natur – Jess Tanner
- Jessica Ostroqicz yn Amgueddfa Discover Bucks – Marion Cheung
- Hyfforddiant Down to Earth – Katie Keeble
- Taith Ymchwil Anabledd – Menna Buss
- Gweithdy Collage gyda Hazel Pitt – Sarah Merton
- Cwrs Byr ar y Celfyddydau mewn Iechyd – Lisa Phillips / Stiwdio Mam
Caiff y rhaglen Bwrsariaethau Micro Mynd i Weld saib yn 2026-27 tra bo WAHWN yn canolbwyntio ar feysydd cymorth hanfodol eraill, gan gynnwys rhaglen amrywio’r gweithlu Camu i Mewn, prosiect Rhwydwaith Polisi Co Lab 'Cynefin' a chynllunio cylch o hyfforddiant ar egwyddorion ansawdd yn yr hydref.
