Newyddion WAHWN

WAHWN yn penodi Rheolwr Camu i Mewn ar gyfer y cyfnod nesaf

Mae’n bleser gan WAHWN gyhoeddi bod Rebecca Hardy-Griffith wedi’i phenodi yn Rheolwr Rhaglen ar ail gam rhaglen Camu i Mewn.

Rhaglen hyfforddi a mentora i garfan o wyth o fentoreion yw Camu i Mewn, a gyllidir gan Gronfa Loteri Celfyddydau, Iechyd a Llesiant Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae Rebecca yn Guradur Cynorthwyol gydag Artes Mundi a daw â thros 15 mlynedd o brofiad o weithio ar draws sectorau’r celfyddydau a chreadigol. Mae hi’n ymarferydd sy’n siarad Cymraeg ac yn byw yng ngogledd Cymru. Cyn hyn bu’n gweithio gyda thîm celfyddydau, iechyd a llesiant Cyngor Celfyddydau Cymru, gwasanaethodd yn Gadeirydd y rhwydwaith a arweinir gan artistiaid, CARN, ac mae hefyd wedi bod yn aelod o Anabledd Celfyddydau Cymru a Chanolfan Reginal Print Wrecsam. Ochr yn ochr â hyn, mae’n parhau i weithio ar ei hymarfer celf weledol.

Bydd Rebecca yn goruchwylio ail gam y rhaglen, fydd yn parhau tan ddiwedd 2026. Mae’r cam hwn yn ymateb i’r diffyg cynrychiolaeth ddigonol i ymarferwyr Cymraeg eu hiaith a’r rheini sydd â nodweddion gwarchodedig yn y gweithlu creadigol ym maes y celfyddydau ac iechyd. Nod y rhaglen yw meithrin carfan o ymarferwyr sy’n gallu cyflwyno prosiectau mewn lleoliadau gofal iechyd a chymunedol ac sy’n rhannu profiadau byw pobl o gymunedau Cymraeg eu hiaith a lleiafrifiedig.

“Dwi mor falch i fod yn gweithio yn y sector hwn eto, a chael gweld yr effaith ymarferol mae’r prosiectau hyn yn ei gael ar fywydau pobl,” dywedodd. “Maen nhw’n atgyfnerthu gwerth y celfyddydau a diwylliant fel cyfrannwr hanfodol i iechyd a llesiant.

Dwi’n arbennig o awyddus i gydweithio unwaith eto gyda’r holl bartneriaid, a gweithio gyda’n gilydd i ddatblygu’r sector i artistiaid ac ymarferwyr creadigol Cymraeg eu hiaith, a’r rheini sydd â nodweddion gwarchodedig.”

Bydd y rhaglen yn cefnogi cyfranogwyr wrth iddyn nhw gymryd rhan mewn rhaglen hyfforddi ddwys wythnos o hyd, cysgodi artist profiadol ar brosiect byw mewn lleoliad iechyd neu gymunedol am hyd at 10 diwrnod, a derbyn sesiynau mentora, bwrsariaeth a chymorth cofleidiol, gan gynnwys goruchwylio a chymorth cymheiriaid.

Caiff ail gam Camu i Mewn ei gyflwyno mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Fran Wen, Pontio, Theatr Cymru a Hamdden Sir Ddinbych Ltd.

Search