Newyddion WAHWN
Effaith Economaidd y Celfyddydau ar Iechyd a Gwasanaethau Gofal Iechyd yng Nghymru

Y Ddawnswraig Broffesiynol Amy Dowden, Athrawes Y Rhaglen Iechyd Da-wns yng Nghymru Emma Jenkins a rhai oedd yn cymryd rhan yn y dosbarth. Delweddau gan Wales News Service
Mae'r celfyddydau a chreadigrwydd yn rhoi o leiaf £588 miliwn y flwyddyn mewn manteision iechyd a chynhyrchiant ledled Cymru, yn ôl adroddiad newydd.
Mae 'Asesu Effaith Economaidd y Celfyddydau ar Iechyd a Gwasanaethau Gofal Iechyd Cymru', ymchwil dan arweiniad Prifysgol Bangor, yn tynnu sylw at swyddogaeth rymus y celfyddydau wrth gefnogi iechyd y cyhoedd a lleihau'r pwysau ar wasanaethau hanfodol gan ddarparu manteision lles i bobl o bob oed. Dyma'r asesiad cenedlaethol cyntaf o effaith economaidd ymgysylltu â'r celfyddydau ar iechyd cyhoeddus a gofal cymdeithasol Cymru. Ymhlith y canfyddiadau, amcangyfrifodd ymchwilwyr fod buddsoddiad mewn sefydliadau sy’n cael arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn cynhyrchu enillion o £11.08 am bob £1 a fuddsoddwyd, o ran iechyd, lles a chynhyrchiant.
