Newyddion WAHWN

Pennaeth Celfyddydau, Iechyd a Lles newydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn rhannu ei gweledigaeth

Mae Rosie Dow, Pennaeth Celfyddydau, Iechyd a Lles newydd Cyngor Celfyddydau Cymru, wedi disgrifio ei mis cyntaf yn y swydd fel “pleser pur” gan ddweud ei bod hi’n “fraint” ymgymryd â’r rôl.

Ar ôl mis yn unig yn y swydd, dywedodd Rosie - sydd â chefndir mewn rolau arweinyddiaeth uwch o fewn y sectorau celfyddydol, iechyd a chymunedol – ei bod yn “fraint aruthrol” cael adeiladu ar y sylfeini a osodwyd gan ei rhagflaenydd Sally Lewis.
“Mae’n sector gwych i weithio ynddo, mae’n wlad wych i weithio ynddi,” dywedodd Rosie wrth WAHWN mewn cyfweliad ecsgliwsif yn gynharach y mis hwn, gan ychwanegu na all fod “yn ddim byd ond yn gyffrous ac yn hapus i fod yn y rôl”.

Mae Rosie, a arferai arwain rhaglen arloesedd celfyddydau ac iechyd gyda Nesta, Prifysgol Caerdydd, Cyngor Celfyddydau Cymru a holl Fyrddau Iechyd Cymru o’r enw HARP (Iechyd, Celfyddydau, Ymchwil, Pobl), wedi gorfod bwrw ati ar unwaith yn ystod cyfnod prysur i'r sector, gyda phenderfyniadau pwysig yn ofynnol ar unwaith ynglŷn â chyllid drwy Gronfa Celfyddydau, Iechyd a Lles y Loteri – rhaglen fwyaf y Cyngor Celfyddydau sy’n cefnogi’r sector.

“Rydyn ni wedi dyfarnu 11 grant yn ystod yr wythnosau diwethaf,” dywedodd, gan gefnogi prosiectau newydd a gwaith mwy sefydledig sy'n bwriadu ehangu.

Blaenoriaeth allweddol, eglurodd, yw parhau i adrodd stori’r celfyddydau ac iechyd mewn ffordd sy'n dangos nad yw'n ymylol: “Nid yw'r gwaith hwn ar gyrion sector y celfyddydau’n unig, nid yw ar gyrion y sector iechyd yn unig – mae’n ganolog.”

Mae Rosie, a oedd yn arfer arwain rhaglenni strategaeth, ymgysylltu ac effaith ar gyfer y Grŵp Ymchwil Bioymddygiadol Cymdeithasol yng Ngholeg Prifysgol Llundain, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer y Celfyddydau ac Iechyd, yn awyddus i gryfhau'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y celfyddydau ac iechyd, yn ogystal â hyder ymarferwyr yn y ffordd orau o'i defnyddio.

Mae ei chyfweliad, sydd ar gael i’w wylio nawr ar sianel YouTube WAHWN, hefyd yn sôn am gynaliadwyedd a chynhwysiant y gweithlu, yn ogystal â'i huchelgeisiau i sicrhau bod gwaith Cymru ym maes y celfyddydau, iechyd a lles yn magu mwy o gydnabyddiaeth y tu hwnt i'w ffiniau.

Mae gallu gweiddi mwy am yr hyn sy'n digwydd yn y sector celfyddydau ac iechyd yng Nghymru yn hanfodol, meddai, i helpu i sicrhau bod gwleidyddion ac arweinwyr iechyd yn deall ac yn sylwi ar ei effaith.

Gwyliwch y cyfweliad llawn i glywed mwy am flaenoriaethau Rosie a’i gobeithion ar gyfer dyfodol y celfyddydau, iechyd a lles yng Nghymru.

Search