Newyddion WAHWN
Gweithlu Natur Cymru, Arolwg 2025
Mae Gweinidogion Cymru wedi cydnabod ei bod yn argyfwng natur ac wedi ymrwymo i warchod a rheoli’n effeithiol 30% o amgylchedd y môr a 30% o amgylchedd y tir yng Nghymru erbyn 2030. Mae’r rheini sy’n gweithio ym maes adfer natur, y ‘gweithlu natur’ fel maen nhw’n cael eu galw, yn hanfodol i daro’r targed uchelgeisiol.
Ond mae Llywodraeth Cymru’n brin o wybodaeth, felly rydyn ni am gynnal arolwg i ddeall y bobl (eu swyddi, sgiliau, cymwysterau, oed, niferoedd ac ati) a’r sefydliadau sy’n ffurfio’r ‘gweithlu natur’ yng Nghymru. Nid oes gennym ddiffiniad pendant o ‘weithlu natur’ eto gan nad ydyn ni’n gwybod digon am yr amrywiaeth o bobl, sefydliadau a swyddi sy’n rhan ohono.
Felly, rydyn ni am ofyn i chi benderfynu. Gallwch fod yn weithiwr amser llawn, rhan-amser, am dâl, heb dâl (gwirfoddolwr), yn y sector cyhoeddus, di-elw, academaidd neu breifat neu’r trydydd sector.
Os ydych chi’n meddwl eich bod yn cyfrannu at warchod neu adfer natur, am dâl neu fel gwirfoddolwr, atebwch yr holiadur hwn.
Os ydych chi’n gwybod am bobl eraill allai fod o ddiddordeb i ni a’i bod yn briodol gwneud hynny, anfonwch y neges hon atyn nhw.