Newyddion WAHWN
Gwell atal na gwella: ‘Annog Llywodraeth Cymru i ddiogelu cyllid y celfyddydau er mwyn lleddfu straen ar y GIG’
Mae sector y celfyddydau yng Nghymru’n annog Llywodraeth Cymru i gefnogi sefydliadau celfyddydol sy’n cyflenwi rhaglenni iechyd a llesiant yn ei Chyllideb newydd, ymhlith galwadau cynyddol gan arweinwyr y GIG am fwy o ffocws ar ofal ataliol.
Ceir corff cynyddol o dystiolaeth sy’n tynnu sylw at y rôl bwysig sydd i’r celfyddydau wrth hyrwyddo iechyd da ac atal a rheoli salwch, yn ogystal â’r buddion economaidd a ddaw yn sgil rhaglenni celfyddydau ac iechyd. Mae tystiolaeth yn dangos fod buddsoddi mewn rhaglenni ataliol yn golygu gwerth gwych am arian, yn cadw pobl yn fwy iach ac yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
Wrth i Aelodau o’r Senedd baratoi i gytuno ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-2026, mae Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru (WAHWN) yn galw am y canlynol:
· Buddsoddi hirdymor mewn sefydliadau celfyddydol yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar iechyd a llesiant nawr i gefnogi gofal ataliol ac arbed costau a phwysau ar y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol yn ddiweddarach.
· Clustnodi cyllid ataliol ym mhob cyllideb yn y dyfodol
“Rydyn ni’n croesawu galwad diweddar y Gweinidog Iechyd am ddull ataliol wrth ymwneud â gofal iechyd, a all helpu’r galw yn y dyfodol a lleihau baich y system gofal iechyd,” dywedodd Angela Rogers, Prif Swyddog Gweithredol WAHWN. “Mae rôl hanfodol i’r celfyddydau wrth gefnogi iechyd a llesiant cleifion, cymunedau a’r gweithlu iechyd. Mae partneriaethau celfyddydau ac iechyd yn helpu i leihau gorbryder, mynd i’r afael ag unigrwydd, poen cronig a chefnogi’r nifer cynyddol o blant a phobl ifanc ar restrau aros CAHMS. Maen nhw’n gysylltiedig â phobl yn byw bywydau hirach, hapusach ac iachach yn ogystal â lleihau apwyntiadau meddygon teulu, arosiadau mewn ysbytai ac ymweliadau ag adrannau brys.
“Hefyd amcangyfrifir bod yr enillion a ddaw yn sgil buddsoddi mewn cynlluniau celfyddydau ar bresgripsiwn yn £2.30 am bob £1 a gaiff ei gwario – felly mae’n gwneud synnwyr busnes hefyd. Bydd buddsoddi nawr yn arbed costau’r GIG a gofal cymdeithasol yn ddiweddarach.”
Mae sectorau celfyddydau ac iechyd Cymru wedi bod yn cydweithio ers dros ddegawd i drawsnewid iechyd, llesiant a gwydnwch unigolion, cymunedau a systemau gofal iechyd ledled y wlad. Mae’r Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Chonffederasiwn GIG Cymru, sydd bellach yn ei bumed flwyddyn, wedi’i gydnabod fel un o’r ychydig ymrwymiadau cadarn i bolisi celfyddydau ac iechyd yn fyd-eang[1].
Bellach, mae bron i bob un o fyrddau iechyd Cymru, ynghyd ag Ymddiriedolaeth GIG Felindre, wedi cyd-ariannu cydlynwyr celfyddydau ac iechyd sy’n ymdrin â blaenoriaethau iechyd lleol. Mae Cronfa Loteri Celfyddydau, Iechyd a Llesiant Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd yn hyrwyddo cydweithio rhwng sefydliadau iechyd, trydydd sector a chelfyddydol, megis rhaglen canu ac anadlu Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, Lles gyda WNO, a grëwyd yn wreiddiol i bobl oedd yn byw gyda COVID hir; hon bellach yw rhaglen bresgripsiynu cymdeithasol genedlaethol gyntaf Cymru, ac mae ar gael ledled Cymru fel gwasanaeth adfer ar gyfer cyflyrau iechyd eraill.
“Mae sectorau’r celfyddydau ac iechyd yng Nghymru wedi creu sylfaen ar gyfer y gwaith trawsnewidiol hwn sy’n cefnogi rhai o ddeddfau pwysicaf a mwyaf arloesol y wlad, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol,” dywed Ms Rogers.
“Drwy sicrhau cyllid pwrpasol a chymorth polisi hirdymor, gall Cymru barhau i arwain y ffordd i integreiddio’r celfyddydau mewn strategaethau iechyd a llesiant er mwyn sicrhau Cymru Iachach.”
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch ag Angela Rogers, Cyfarwyddwr Gweithredol WAHWN: info@wahwn.cymru.
Nodiadau i olygyddion:
Nodiadau ychwanegol
· Mae grŵp trawsbleidiol ar y celfyddydau ac iechyd, dan gadeiryddiaeth Heledd Fychan AS, yn gweithio i godi ymwybyddiaeth ASau o waith ar y celfyddydau ac iechyd, gan feithrin grym gwleidyddol a dylanwadu ar bolisi.
· Mae corff cynyddol o dystiolaeth yn dangos effaith y celfyddydau ar iechyd a llesiant gan gynnwys:
- Mae The Lancet Public Health yn amlygu’r Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Chonffederasiwn GIG Cymru fel ymrwymiad sylweddol i leihau anghydraddoldebau iechyd a chyfoethogi cyfalaf cymdeithasol.
- Mae ymchwil gan Goleg Prifysgol Llundain (UCL) yn cysylltu cyfranogi yn y celfyddydau a diwylliant â bywydau hirach, mwy iach.
- Mae adroddiadau gan y Ganolfan Iechyd Creadigol Genedlaethol a’r Academi Genedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol yn dangos gwerth – meintiol ac ansoddol – y celfyddydau ac iechyd ar fodelau presgripsiynu.
· Mae WAHWN a’r sector yn ehangach yn eiriol dros fodel cymdeithasol o iechyd sy’n ymdrin â phenderfynyddion cymdeithasol iechyd. Mae’r dull hwn yn:
- Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a achosir gan anghydraddoldebau cymdeithasol
- Hyrwyddo golwg gyfannol ar iechyd, sy’n canolbwyntio ar ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ochr yn ochr â thriniaethau meddygol.
Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru (WAHWN)
· WAHWN yw’r corff sector cenedlaethol ar gyfer y celfyddydau ac iechyd yng Nghymru, sy’n cydweithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, Conffederasiwn GIG Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
· Mae’n cefnogi sefydliadau ac ymarferwyr llawrydd i gynyddu eu gwydnwch a’u gallu i gefnogi deilliannau iechyd drwy rwydweithio, hyfforddiant ac eiriolaeth.
· Mae’r canlynol ymhlith y gweithgareddau allweddol:
- Cefnogi sefydliadau ac ymarferwyr llawrydd i gynyddu eu gwydnwch a’u gallu i gefnogi deilliannau iechyd drwy rwydweithio, hyfforddiant ac eiriolaeth.
- Eiriol dros wreiddio’r celfyddydau mewn ymgynghoriadau a strategaethau allweddol Llywodraeth Cymru, megis y Fframwaith Presgripsiynu Cymdeithasol Cenedlaethol a’r Strategaeth Iechyd Meddwl.
- Trefnu cynhadledd gyntaf GWEHYDDU yn 2023, a ddaeth â thros 100 o weithwyr iechyd a gofal, artistiaid a sefydliadau celfyddydol, llunwyr polisïau ac academyddion ynghyd i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac iechyd meddwl.
[1] Fel y nodwyd yn the Lancet a the Creative Health Review.