Newyddion WAHWN
Cynllun peilot arloesol i gyfeirio cleifion ifanc i'r celfyddydau – Stiwdio Lles, Cynllun Celf ar Bresgripsiwn
Bydd cynllun peilot newydd ym Mangor yn cynnig 'presgripsiwn celfyddydol' unigryw i bobl ifanc rhwng 16-30 oed diolch i bartneriaeth newydd rhwng Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd, cwmni theatr Frân Wen, Meddygfa Bodnant Bangor ac Adran Llesiant Myfyrwyr Prifysgol Bangor.
Bydd Stiwdio Lles yn ffocysu ar llesiant drwy gynnig sesiynau celfyddydol sy’n darparu ymyliad ataliol i bobl ifanc rhwng 16-30 oed. Trwy’r feddygfa a’r Brifysgol bydd unigolion yn cael eu cyfeirio at amrywiaeth o sesiynau galw heibio a sesiynau dwys wedi eu teilwra at anghenion y cleifion.
Bydd yr unigolion yn ymuno mewn sesiynau sydd yn defnyddio’r celfyddydau i helpu gyda phwysau gorbryder, diffyg hyder, anhawster cymdeithasu ac unigrwydd. Bydd y sesiynau i gyd yn digwydd yn Nyth, cartref Frân Wen ym Mangor. Fel gofod creadigol ac ysbrydoledig yng nghalon Bangor mae Nyth yn cynnig y lleoliad perffaith a diogel i'r prosiect.
Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Adran Economi a Chymuned: “Rydw i’n falch o rôl y Cyngor gyda’r cynllun blaengar hwn. Mae’n beth da fod unigolion a sefydliadau yn gallu siarad yn agored am broblemau iechyd meddwl ac mae’n gyffroes clywed am y ffyrdd creadigol gall pawb ddod at ei gilydd er mwyn helpu rheini sy’n cael eu heffeithio.”
Meddai Elgan Rhys, Pennaeth Ymgysylltu Frân Wen: "Rydym yn falch o'r cyfle i gydweithio gyda'n partneriaid i gynnal y prosiect Y Stiwdio Lles fydd yn gyfle i ni brofi pwer trawsnewidiol y celfyddydau i fywydau oedolion ifanc sy'n profi heriau a hyrwyddo Nyth fel hafan sy'n meithrin a ac annog llesiant iach."
CYFEIRIO CLEIFION
Meddygfa Bodnant ym Mangor yw'r feddygfa fydd yn cyfeirio'r bobl ifanc i'r gwasanaeth newydd.
Mae'r meddygfa yn falch iawn o allu cydweithio hefo Frân Wen, Cyngor Gwynedd a’r Brifysgol ar y cynllun arbennig hwn, meddai Dr Nia Hughes, Meddygfa Bodnant ac Arweinydd Clinigol Arfon, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Yr ydym yn croesawu y cyfle i fedri cefnogi pobl ifanc sydd yn dioddef hefo cyflyrau iechyd meddwl yn ein cymuned mewn modd amgen a chreadigol."
GALW AM ARTISTIAID
Bydd pedwar artist sydd â phrofiad ym maes theatr yn cael eu dethol i dderbyn hyfforddiant gan arbenigwyr yn y maes cwnsela a chelf i alluogi sesiynau addas a gwerthfawr i bawb sy’n cymryd rhan cyn rhoi'r cynllun ar waith dros gyfnod o 6 mis.
Dyddiad cau ar gyfer ymgeisio ydy Ionawr 10fed 2025.
Mae’r cynllun peilot yma yn edrych ar gynnig cyfleoedd amrywiol celfyddydol i bobl ifanc yn ogystal â datblygu a hyfforddi mwy o artistiaid o Wynedd i allu ymgymryd mewn gwaith celfyddydau a llesiant.
Bydd y prosiect yn cael ei werthuso'n llawn gyda ffocws ar fesur gwerth cymdeithasol yr ymyrriad ar y cyfranogwyr.
Am wybodaeth pellach, cysylltwch a Elgan Rhys elgan@franwen.com neu ewch i www.franwen.com.
Ariannwyd y cynllun yma drwy Cronfa Loteri Celfyddydau, Iechyd a Llesiant Cyngor Celfyddydau Cymru.