Newyddion WAHWN
Ymunwch â WAHWN fel Cyfarwyddwr-Ymddiriedolwr yn 2025
Oes gennych chi angerdd ynghylch pŵer creadigrwydd i drawsnewid iechyd a llesiant? Ydych chi’n meddu ar y sgiliau, profiad neu frwdfrydedd sydd eu hangen i gyfrannu at sector celfyddydau ac iechyd bywiog a chynhwysol yng Nghymru? Os felly, mae gennym ni gyfle cyffrous i chi.
Mae Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru (WAHWN) yn chwilio am o leiaf dri Chyfarwyddwr-Ymddiriedolwr deinamig ac ymroddgar i ymuno â’r Bwrdd. Dyma eich cyfle i helpu i ffurfio dyfodol y celfyddydau ac iechyd yng Nghymru, ysgogi newid fydd yn cael effaith a hyrwyddo cyfranogi creadigol drwy ein holl gymunedau.
Pam WAHWN?
WAHWN yw’r corff sector cenedlaethol ar gyfer y celfyddydau, iechyd a llesiant ac mae wrth galon mudiad sy’n cysylltu, yn ysbrydoli ac yn grymuso gweithwyr proffesiynol ledled sectorau’r celfyddydau, iechyd ac addysg uwch.
Dyma pam fod ymuno ag WAHWN yn bwysig:
Sail lewyrchus o aelodau: Mae’r rhwydwaith yn tyfu’n gyflym, gydag yn agos i 1,000 o aelodau’n cynrychioli ystod amrywiol o ffurfiau ac arferion celf mewn lleoliadau gofal iechyd, cymunedol a thu hwnt.
Effaith strategol: Mae gennym ran hanfodol i’w chwarae mewn gwaith yn y celfyddydau ac iechyd yng Nghymru ar y lefelau uchaf.
Ymrwymiad i gynhwysiant: Rydyn ni’n mynd ati i feithrin sector sy’n gynrychioliadol, yn amrywiol ac yn gynhwysol, sy’n sicrhau bod creadigrwydd ar gael i bawb.
Am bwy ydyn ni’n chwilio?
Mae angen pobl sy’n gallu dod â sgiliau, gwybodaeth a safbwyntiau newydd i’r Bwrdd.
Mae gennym ni ddiddordeb penodol mewn pobl sydd â phrofiad neu sgiliau yn y meysydd hyn:
· Ymarfer Clinigol yn enwedig Iechyd Meddwl
· Cyllid ac Adnoddau Dynol
· Codi Arian
· Yr Amgylchedd/Natur (gan gynnwys cynaladwyedd)
Nid yw’r gweithlu a’r arweinyddiaeth gyfredol yn adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau’n llawn. Rydyn ni wir yn annog ceisiadau gan bobl nad yw eu treftadaeth, hunaniaeth neu safbwyntiau yn derbyn cynrychiolaeth ddigonol yn sectorau’r celfyddydau, iechyd a diwylliant – yn enwedig rhai o gefndiroedd mwyafrif byd-eang.
Pam ddylech chi ymuno
Fel Ymddiriedolwr, byddwch yn:
Rhan o sefydliad sy’n ysgogi newid cadarnhaol ar gyfer y celfyddydau ac iechyd yng Nghymru.
Cael dealltwriaeth unigryw o groestoriadedd creadigrwydd, iechyd a datblygu cymunedol.
Gweithio gyda thîm bach angerddol sy’n ymroi i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Manylion allweddol:
Dyddiad cau ymgeisio: 15 Ionawr 2025
Sgyrsiau gydag Ymgeiswyr: Diwedd mis Ionawr 2025
Cadarnhau Penodiadau: Erbyn mis Mawrth 2025
Dysgwch fwy yn ein hadran 'cyfleoedd'.