Newyddion WAHWN
Datganiad gwrth-hiliaeth
Yn dilyn yr achosion erchyll o hiliaeth a thrais a welwyd yn ddiweddar yn y DU, rydym ni wedi bod yn myfyrio ar ein hymateb fel sefydliad sy’n cefnogi’r sector.
Gwahoddwn ein haelodau i gysylltu â ni os hoffech gael unrhyw hyfforddiant neu gymorth i ddatblygu eich polisïau a’ch gweithdrefnau gwrth-hiliaeth i sicrhau ein bod yn gweithio gyda’n gilydd mewn ffordd sy’n gwrthod goddef hiliaeth yn ein sector yng Nghymru.*
Mae WAHWN yn gosod tegwch, urddas a pharch, cydraddoldeb a chynhwysiant pob unigolyn wrth galon y sefydliad, mewn perthynas â chyflenwi gwasanaethau, cyflogi staff, gwirfoddolwyr, ymddiriedolwyr, cyflenwyr, gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd.
Rydym ni’n ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliaeth. Rydym ni’n cydnabod realiti gwahaniaethu hiliol a’i effaith sylweddol yn ein sefydliad ac yn sector y celfyddydau ac iechyd a wasanaethwn. O ganlyniad, rydym ni’n ymrwymo i safiad sy’n gwrthod goddef hiliaeth, gan fynd ati i’w herio a’i drin ym mhob ffurf, ac ar yr un pryd rydym ni’n gwerthuso ac yn gwella ein prosesau, polisïau, gweithdrefnau ac ymddygiadau’n barhaus i sicrhau cydraddoldeb a chynhwysiant.
Wrth i ni weithio i amrywio’r sector i sicrhau bod ymarferwyr iechyd creadigol o’r mwyafrif byd-eang yn cael eu cynrychioli’n deg drwy ein rhaglen Camu i Mewn a mentrau eraill, rydym ni’n falch i rannu y bydd ffocws ein Cyfarfod Rhwydwaith nesaf yn ymwneud â rhannu rhywfaint o’r gwaith iechyd creadigol gwych sy’n digwydd yng Nghymru gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Byddwn yn clywed gan:
Helen Tower, Rheolwr Prosiect – Perthyn, y Sefydliad Iechyd Meddwl. Bydd Helen yn trafod dau brosiect maen nhw wedi bod yn eu rhedeg: ‘Perthyn’ mewn partneriaeth gyda Dinas Noddfa’r DU, a’u gwaith mwy diweddar Pontydd at Berthyn (Gallwch ddarllen Gwerthusiad Perthyn yma)
Laura Bradshaw, Côr Un Byd Oasis. Laura Bydd Laura’n rhannu gwybodaeth am eu prosiect newydd: Teithiau Cerdded Canu, sy’n bartneriaeth gyda Gweithredu dros Iechyd Meddwl Caerdydd a’r Fro fydd yn profi effaith Teithiau Cerdded Canu ar lesiant pobl sy’n ceisio lloches.
Gwyliwch ein tudalen Eventbrite am y ddolen yn fuan. Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni.
* I gael rhagor o wybodaeth am hyfforddiant neu gefnogaeth i ddatblygu neu wella eich polisïau a gweithdrefnau gwrth-hiliaeth, ebostiwch Tracy: programmes@wahwn.cymru