Newyddion WAHWN
WAHWN yn penodi rheolwr rhaglen Camu i Mewn
Mae Tom Bevan wedi’i benodi’n rheolwr rhaglen ar raglen amrywiaeth gweithlu newydd WAHWN, Camu i Mewn.
Bydd Tom, sy’n gynhyrchydd theatr a digwyddiadau byw llawrydd o Gaerdydd, yn arwain y rhaglen hyfforddi a mentora i bedwar mentai, a gyllidir gan Loteri Celfyddydau Iechyd a Llesiant Cyngor Celfyddydau Cymru ac a gyflwynir mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda; PeopleSpeakUp, Datblygu Celfyddydau Cyngor Bwrdeistref Sir Caerffili, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Choleg Celf Caerdydd.
“Rwyf i wrth fy modd i fod yn gweithio gyda WAHWN ar brosiect Camu i Mewn, gan ddod â sgiliau a phrofiad fel Cynhyrchydd a Rheolwr Prosiect yn sector y theatr a chelfyddydau byw,” dywedodd Tom, sy’n angerddol dros y theatr.
“Rydyn ni ar daith gyffrous iawn yn y celfyddydau yng Nghymru, ac rwy’n ei theimlo’n anrhydedd i fod yn dal lle ar y rhaglen hanfodol hon a gallu dysgu o waith rhagorol tîm WAHWN a’r holl aelodau.”
Cynlluniwyd Camu i Mewn mewn ymateb i ddiffyg amrywiaeth yng ngweithlu creadigol y celfyddydau ac iechyd. Y nod yw meithrin carfan o ymarferwyr i gyflenwi prosiectau mewn lleoliadau gofal iechyd sy’n rhannu profiad byw pobl o gymunedau lleiafrifedig. Daw Tom â chyfoeth o brofiad mewn amrywiaeth a chynhwysiant, gan gynnwys rheoli Codi Cymry Creadigol cwmni Fio - cwrs hyfforddi i bobl greadigol sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y celfyddydau yng Nghymru.
“Rydyn ni wrth ein bodd yn cael Tom yn rhan o’r tîm wrth i ni roi cychwyn ar y cyntaf o’r hyn rydyn ni’n gobeithio fydd yn llawer o iteriadau o’r rhaglen,” dywedodd Angela Rogers, Cyfarwyddwr Gweithredol WAWHN. “Rydyn ni’n credu mewn sector sy’n gweithio i bawb ac yn ymrwymo i chwarae rôl yn ehangu mynediad i weithlu’r celfyddydau ac iechyd. Gyda phrofiad proffesiynol Tom i dynnu arno, rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld beth fydd y menteion yn ei gyflawni.”