Newyddion WAHWN
Arian loteri iechyd a lles y celfyddydau
Mae partneriaethau rhwng sefydliadau celfyddydol, iechyd a natur Cymru ymhlith y rhai sy'n cael eu hannog i wneud cais am un o dair lefel o arian loteri’r Celfyddydau, Iechyd a Llesiant fel rhan o'r Rhaglen Natur Greadigol, cytundeb rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru sy'n anelu at feithrin y berthynas rhwng y celfyddydau a'r amgylchedd naturiol.
Mae Cronfa’r Celfyddydau, Iechyd a Lles yn agored i geisiadau partneriaeth o bob rhan o'r celfyddydau, iechyd, gofal cymdeithasol, natur, sefydliadau amgylcheddol a'r trydydd sector. Mae prosiectau yn gymwys i ymgeisio o fynd i'r afael ag un neu fwy o'r problemau a'r blaenoriaethau iechyd canlynol:
· Natur - prosiectau sy'n anelu at wella iechyd a lles pobl drwy gynyddu eu cysylltiad â byd natur drwy'r celfyddydau
· Iechyd meddwl - gan gynnwys mynd i'r afael ag unigrwydd, ynysu cymdeithasol a phresgripsiynu cymdeithasol sy'n anelu at adeiladu gwytnwch a chefnogi gwell iechyd meddwl
· Anghydraddoldeb iechyd - prosiectau celfyddydol sydd â’r nod o fynd i'r afael â hwn drwy ddod â manteision iechyd a lles i bobl o gefndiroedd mwy amrywiol a heb gynrychiolaeth ddigonol
· Iechyd a lles corfforol – prosiectau celfyddydol sy'n cefnogi gwell iechyd corfforol neu sy’n cadw pobl yn gorfforol weithgar
· Lles staff - yn y gweithlu gofal iechyd a/neu'r celfyddydau
Bydd grantiau rhwng £500 a £50,000 ar gael i ymgeiswyr llwyddiannus gan ddibynnu ar ba gam mae eu prosiect wedi’i gyrraedd. Dyma ragor o wybodaeth am gamau prosiectau a gwybodaeth bwysig am sut i ymgeisio a’n canllawiau llawn: Canllawiau: Celfyddydau, Iechyd a Lles Rhaglen y Loteri | Arts Council of Wales
Ar 16 Awst yr agorodd y gronfa ac am 5pm ar 20 Medi 2023 y bydd yn cau.