Director's Blog - January 2024 | Blog y Cyfarwyddwr - Ionawr 2024

30/01/2024 | Author: Angela Rogers

We are looking forward to supporting, connecting and collaborating with you over the coming year! | Rydym ni’n edrych ymlaen at gefnogi, cysylltu a chydweithio gyda chi dros y flwyddyn nesaf!   

Category:Art Well-being Legislation 

I want to wish all our WAHWN members a very happy and healthy new year.  

Following a nourishing and restful break, team WAHWN have begun to plan our rich calendar of upcoming events and programmes. We are looking forward to supporting, connecting and collaborating with you over the coming year!   

WAHWN is sad to hear that Arts Health South West will cease its operations in March. They have been pioneers of exemplary arts and health practice for many years. In their full statement, AHSW acknowledge the sadness but are also focused on making this a good ending and celebrating all that AHSW has achieved. 

We will all have been jolted by the announcement of the Welsh Government budget cuts for 2024 which will impact all sectors and services. The 10.5% cut to Arts Council Wales will undoubtedly have implications for all our work. As ACW CEO Dafydd Rhys has highlighted “This significant new cut of 10.5% will make it even more challenging to ensure that high quality arts activity is available across Wales for all our communities.”  Campaign for the Arts acknowledges the blow to artists and arts organisations, and all who benefit from their work. Although culture has not been singled out for cuts, we know that public investment in the arts directly enriches our health and wellbeing, our communities, the economy and reduced investment will be felt across Wales. The rapidly expanding evidence base demonstrates how the arts are not just a ‘nice to have’ but how they are linked to longevity and health outcomes across different life stages. 

Despite this gloomy forecast, let’s focus on and acknowledge the continued value of collaboration and learning between and across organisations and freelancers working in our sector. Take a minute to reflect on how far our sector has come in the last 10 years.  Wales continues to attract international interest in our partnership approaches in Wales, including the MOU between Welsh NHS Confederation and ACW, and as Lord Howarth of Newport in the Creative Health Review highlights “where integration of creative health with policies across Government has proceeded admirably”.  In February, ACW and WAHWN will host a delegation from Hong Kong, and in March artists, policy makers and academics from Flanders will join us in North Wales to learn about policy and practice, building on our connection made through their (ReConnect) programme, in which WAHWN recently presented.     

WAHWN looks forward to connecting with you at one of our many networking and training events this year. We are delighted that our How Ya Doing? Strategies for Wellbeing training with WAHWN Chair, Justine Wheatley has sold out. Due to popular demand, Justine will be repeating the training in May.   Bookings are also coming in thick and fast for our Reflective Practice Facilitator training with Alison O’Connor in April. We are grateful to the Baring Foundation for their 2-year support of How Ya Doing? with a growing recognition of the value of wellbeing facilitation support, it is great to see the introduction of Cult Cymru Wellbeing Facilitation Pilot grants for production companies to support the mental health and wellbeing of crew and production teams. WAHWN will be guest contributor at a forthcoming Cult Café ‘Time to Talk’ on 1st February alongside Time to Change Wales, who are striving to end the stigma of mental health in Wales.   

We hope you can join us for our February meeting where we will hear from Sam Rodger, Assistant Director, Policy and Strategy, NHS Race and Health Observatory about Mental Health Inequalities, along with a number of Wales-based artists and projects. With funding from the National Lottery Community Fund we are also delighted to be offering 6 Market Places across Wales for colleagues in the arts, health and the third sector who want to improve connections and referral pathways into creative projects. We’re kicking off in Bridgend on 29th February at Carnegie House. 

A group of adults gather into groups and chat. Some people are smiling. The tables and chairs are colourful and it is sunny outside.

Image: Cardiff Marketplace, 2023

Following the success of Weave in 2023, there is a growing appetite for a second WEAVE conference. We are in process of exploring the feasibility of a 2024 WEAVE and will keep you posted on developments.   

In the meantime, please do continue to share your news, opportunities and resources and check out Becca’s video which will help guide you through the process of uploading your information.  It’s so inspiring to see the recent flurry of case studies coming into our Knowledge Bank.   

Onwards and upwards!  

 

-

 

Hoffwn ddymuno blwyddyn newydd hapus ac iachus i aelodau WAHWN. 

Yn dilyn saib maethlon a thawel, mae tîm WAHWN wedi dechrau cynllunio ein calendr llawn o ddigwyddiadau a rhaglenni sydd ar y gweill. Rydym ni’n edrych ymlaen at gefnogi, cysylltu a chydweithio gyda chi dros y flwyddyn nesaf!   

Roedd WAHWN yn drist i glywed bod Arts Health South West yn rhoi’r gorau i’w gweithrediadau ym mis Mawrth. Maen nhw wedi arloesi gydag arfer celfyddydau ac iechyd rhagorol ers blynyddoedd lawer. Yn eu datganiad llawn maen nhw’n cydnabod y tristwch ond hefyd yn canolbwyntio ar sicrhau y bydd hwn yn ddiwedd da gan ddathlu popeth mae AHSW wedi’i gyflawni. 

Cawsom i gyd ein syfrdanu gyda chyhoeddiad Llywodraeth Cymru o doriadau cyllid ar gyfer 2024 fydd yn effeithio ar bob sector a gwasanaeth. Heb os bydd goblygiadau i’n gwaith ni i gyd yn sgil y toriad o 10.5% i Gyngor Celfyddydau Cymru.  Fel y nododd Prif Weithredwr CCC Dafydd Rhys “Bydd y toriad sylweddol newydd hwn o 10.5% yn ei gwneud hi'n anos fyth sicrhau bod gwaith celfyddydol o safon ar gael ledled Cymru ar gyfer ein holl gymunedau.” Mae Campaign for the Arts yn cydnabod yr ergyd i artistiaid a sefydliadau celfyddydol a phawb sy’n elwa o’u gwaith. Er nad yw diwylliant yn cael mwy o doriadau na neb arall, fe wyddom fod buddsoddiad cyhoeddus yn y celfyddydau’n cyfoethogi ein hiechyd a’n llesiant, ein cymunedau a’r economi’n uniongyrchol a bydd y toriad mewn buddsoddi i’w deimlo ledled Cymru. Mae’r sail tystiolaeth gynyddol yn dangos bod y celfyddydau’n fwy na rhywbeth sy’n ‘braf i’w cael’ ond eu bod yn gysylltiedig â hirhoedledd a chanlyniadau iechyd ar draws gwahanol gyfnodau bywyd.

Er gwaethaf y rhagolwg digalon hwn, gadewch i ni ganolbwyntio a chydnabod gwerth parhaus cydweithio a dysgu rhwng ac ar draws sefydliadau a gweithwyr llawrydd yn y sector. Meddyliwch am funud pa mor bell mae ein sector wedi dod dros y deng mlynedd ddiwethaf. Mae Cymru’n parhau i ddenu ddiddordeb rhyngwladol yn ein dulliau partneriaeth, gan gynnwys y memorandwm o gyd-ddealltwriaeth rhwng Conffederasiwn GIG Cymru a CCC, ac fel y noda’r Arglwydd Howarth o Gasnewydd yn yr Adolygiad o Iechyd Creadigol “lle mae integreiddio iechyd creadigol gyda pholisïau ar draws Llywodraeth wedi parhau’n gampus”.  Ym mis Chwefror bydd CCC a WAHWN yn croesawu dirprwyaeth o Hong Kong, ac ym mis Mawrth bydd artistiaid, llunwyr polisïau ac academyddion o Fflandrys yn ymuno â ni yn y gogledd i ddysgu am bolisi ac ymarfer, gan adeiladu ar y cysylltiad a wnaed drwy eu rhaglen (ReConnect), y bu WAHWN yn cyflwyno ynddi yn ddiweddar.     

Mae WAHWN yn edrych ymlaen at gysylltu gyda chi yn un o’n digwyddiadau rhwydweithio a hyfforddi niferus eleni. Rydyn ni wrth ein bodd fod pob lle ar yr hyfforddiant Strategaethau ar gyfer Llesiant gyda Chadeirydd WAHWN, Justine Wheatley wedi’i archebu. Mewn ymateb i’r galw, bydd Justine yn ailadrodd yr hyfforddiant ym mis Mai. Mae archebion yn llifo hefyd ar gyfer yr hyfforddiant Hwyluswyr Ymarfer Myfyriol gydag Alison O’Connor ym mis Ebrill. Rydym ni’n ddiolchgar i Sefydliad Baring am eu cefnogaeth dros ddwy flynedd i Sut Mae’n Mynd? gyda chydnabyddiaeth gynyddol i werth cymorth hwyluso llesiant, mae’n wych cael croesawu grantiau Cynllun Peilot Hwyluso Llesiant Cult Cymru i gwmnïau cynhyrchu gefnogi iechyd meddwl a llesiant eu criwiau a’u timau cynhyrchu. Bydd WAHWN yn gyfrannwr gwadd yn  'Amser i Siarad' Cult Café ar 1 Chwefror gydag Amser i Newid Cymru, sy’n ceisio dileu stigma iechyd meddwl yng Nghymru.

Gobeithio y byddwch yn gallu ymuno â ni yng nghyfarfod mis Chwefror lle byddwn ni’n clywed gan Sam Rodger, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Polisi a Strategaeth, Arsyllfa Hil ac Iechyd y GIG ynghylch Anghydraddoldebau Iechyd Meddwl, ynghyd â nifer o artistiaid a phrosiectau o Gymru. Gyda chyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol rydym ni hefyd yn hapus iawn i gynnig 6 Marchnad ar draws Cymru i gydweithwyr yn y celfyddydau, iechyd a’r trydydd sector sy’n dymuno gwella cysylltiadau a llwybrau cyfeirio i mewn i brosiectau creadigol. Byddwn yn dechrau ar 29 Chwefror yn Nhŷ Carnegie ym Mhen-y-bont.  

Image: Farchnadoedd Caerdydd, 2023.

Yn dilyn llwyddiant GWEHYDDU yn 2023,mae pawb yn dechrau edrych ymlaen at ail gynhadledd GWEHYDDU. Rydym ni’n edrych ar ddichonoldeb GWEHYDDU 2024 ac fe wnawn ni eich diweddaru gydag unrhyw ddatblygiadau.

Yn y cyfamser, parhewch i rannu eich newyddion, cyfleoedd ac adnoddau ac edrychwch ar fideo Becca fydd yn helpu i’ch llywio drwy’r broses o uwchlwytho eich gwybodaeth. Mae’n ysbrydoliaeth i weld y nifer dda o astudiaethau achos sydd wedi cyrraedd y Banc Gwybodaeth yn ddiweddar.

Ymlaen!

Previous Article

Next Article

Director's Blog - January 2024 | Blog y Cyfarwyddwr - Ionawr 2024
Menu
Search