Wyt ti’n iawn?
05/12/2023 | Author: Dr Susanne Burns
Rhaglen Hyfforddi Cymru Gyfan (WWTP): Wyt ti’n iawn?
Rydw i’n cofio yn iawn gofyn i artist “Beth sydd angen arnat ti?” pan oeddwn i’n arwain menter ArtWorks, wedi’i hariannu gan PHF. Roedd ei ateb yn ysgytwad i mi. “Dyna’r tro cyntaf i unrhyw un ofyn y cwestiwn hwnnw i mi ers imi ddechrau gweithio’n llawrydd.” Yn yr ymchwil rydw i wedi’i gwneud am effaith WWTP ar weithwyr llawrydd, daeth cwestiwn arall gan rywun a gafodd cyfweliad i’m cof. Ar ddechrau’r pandemig, gofynnwyd iddi “Wyt ti’n iawn?” Mae’n ymddangos i mi fod y cwestiynau hyn y tu ôl i ethos a diwylliant y WWTP ac yn llywio ei chanlyniadau sylweddol ac unigryw.
Mae fy ngwaith bob amser wedi cael ei lywio a’i yrru gan awydd i sicrhau bod anghenion artistiaid yn cael eu cwrdd, ac yn 2017 diolch i fy Nghymrodoriaeth Churchill, es i’r UD ac Awstralia i weld sut oedd artistiaid llawrydd yn cael eu cefnogi. Pryd hwnnw, doeddwn i ddim yn sylweddoli bod model unigryw wrth law yng Nghymru a phan des i ar draws Rhaglen Hyfforddiant Cymru Gyfan am y tro cyntaf yn 2019, gwnaeth ffocws y rhaglen ar anghenion yr artistiaid ac ymarferwyr, yr ehangder, yr hygyrchedd ac yn fwyaf pwysig y gofal a gymerwyd wrth ei datblygu a’i gweithredu, argraff arnaf i. Daeth y rhaglen yn rhaff achub yn ystod y pandemig a thyfodd fwyfwy i gwrdd ag anghenion ymarferwyr ac artistiaid llawrydd nad oedden nhw’n “iawn” o gwbl.
Trwy fy ymchwil, gallaf i ddatgan nid yw’n cynnig mynediad at hyfforddiant i ymarferwyr ac artistiaid dawns ledled Cymru yn unig. Mae hefyd yn cynnig cyfleoedd i rwydweithio, sgwrs, deialog a dysgu cymar-i-gymar, ac yn allweddol i’w llwyddiant yw’r ffaith ei bod yn organig, gan ddatblygu wrth i anghenion datblygu, byth yn sefyll yn llonydd. Yn bwysig iawn, mae’n rhoi gallu, gan sicrhau ei bod yn cael ei chyd-greu a’i llywio gan anghenion yr artistiaid ac ymarferwyr eu hun. Mae’r artistiaid a’r ymarferwyr yn teimlo bod eraill yn gwrando arnyn nhw, yn cael eu dilysu a’u chadarnhau. Mae’r rhaglen yn hygyrch a fforddiadwy ac yn cynnig lle diogel i artistiaid ac ymarferwyr i ddysgu a rhannu eu gwybodaeth a sgiliau eu hun.
Mae’n gymuned dysgu wirioneddol ac un sy’n cynnig cymorth hanfodol i weithlu sydd wedi’i ynysu ac yn ariannol ansicr. Mae’r ecoleg dawns yng Nghymru yn rhyng-gysylltiedig a rhyng-ddibynnol ac mae’r WWTP yn adnabod ac yn annog hyn drwy gefnogi’r seilwaith sy’n cynnwys darparwyr dawns gymunedol, gweithwyr llawrydd unigol a sefydliadau eraill sy’n darparu dawns ledled Cymru.
Am fwy o wybodaeth am y rhaglen, cysylltwch a tracey@rubicondance.co.uk
Dr Susanne Burns
susanneburns57@gmail.com