'Traces Through Time' - 'Mynd i Weld' yn Storyhouse, gyda Nia a Iola

05/12/2023 | Author: Nia Skyrme a Iola Ynyr

Grant Meicro 'Mynd i weld' Wahwn Cymru i fynychu cynhyrchiad Fallen Angels Dance Theatre a New Note Orchestra yn Storyhouse, Caer Tachwedd 1af,2023.hi

Grant Meicro 'Mynd i weld' Wahwn Cymru i fynychu cynhyrchiad Fallen Angels Dance Theatre a New Note Orchestra yn Storyhouse, Caer Tachwedd 1af,2023.hi

Roedd hi'n byrlymu yn Storyhouse wrth ni gyrraedd am y perfformiad. Byrlymu mewn gofod lle roedd yna bobl o bob oed yn sgwrsio yn agored, yn chwerthin yn cysylltu gyda awch am fywyd. Doedd na ddim hunanymwybyddiaeth chwithig cynulleidfa mewn gofod celfyddydol oeraidd. Roedd hwn yn le roedd pobl yn teimlo yn fyw, yn egniol lle roedd yna gynnwrf heintus. A dyma osod cyd-destun perffaith i weledigaeth y ddau gwmni o greu profiad ceflyddydol o ddod â dibyniaeth ac adferiad i'r golwg.

Cychwynnodd y noson gyda ffilm fer yn crynhoi'r prosiect gyda chyfweliadau gyda artistiaid a chyfranogwyr a chip ar y broses ymarfer. Roedd yna onestrwydd am yr heriau ac ymdeimlad cryfach fyth am gefnogaeth y gymuned o adferiad i'w gilydd. Roedd yr awydd i ddatgelu goleuni yn nhywyllwch dibyniaeth yn gyrru'r cynhyrchiad.

Roedd y gerddorfa yn fwy lliwgar eu gwedd na'r un draddodiadol a'r offerynnau yn fwy eclectig ond roedd yna ddisgyblaeth a chynnwrf. I fewn i'r cysgodion symudodd y 10 dawnsiwr, eu presenoldeb yn fygythiol a'u gwisgoedd yn amwys yn perthyn tu hwnt i ffin amser.

Roedd yna aelod o'r gerddorfa yn darllen darn am deimlo 'gormod' am fod eisiau 'mwy' ac roedd ei naturioldeb yn meddalu'r golwg o'r 10 ac yn eu deffro i symud. Roedd hwn yn ddarlleniad bron a bod yn ddi-daro; yn 'normaleiddio'r ' profiad o ddibyniaeth ac yn rhoi urddas.

Ac yna daeth egni'r gitars trydanol ac ystumiau o'r boen corfforol a chaethiwed dibyniaeth i lenwi'r llwyfan. Yr un ymstumiau yn cael eu hail-adrodd yn deffro atgofion o fy nibyniaeth fy hun; yn fy atgoffa o orffwylledd yr yfed yn disgwyl rhyddhad ond yn cyfyngu fwy ar sefyllfa erchyll.

Roedd y delweddau yn anodd eu gwylio ar adegau a'r berthynas hefyd rhwng y dawnswyr proffesiynol oedd yn fwy amlwg a'r cyfranogwyr oedd yn fwy ymylol yn codi cwestiynau am ddemocratiaeth y darn. Yna o fewn eilidau, roedd y ffin artiffisial hwn yn meirioli yn datgelu newid yn y deinameg; yn rhoi cyfranogwr fel cyd-ddawnsiwr yn dangos bod mwy o gyswllt na gwhaniaeth ym mhob profiad bydol.

Cafwyd mwy o ddarlleniadau tawel, gonest a phwerus yna cyhoeddiad o ddiolchgarwch gan y dawnswyr yn ein hatgoffa o'r broses fwy o gyrraedd y perfformiad.

Mewn panel wedi'r sioe cafwyd mwy o rannu profiadau oedd yn tystio i rym y cwmniau, straeon personol pob artist a chyfranogwr a chefnogaeth ffrindiau a theuluoedd yn y gynulleidfa.

Chwalwyd pob ffin; roedd yna gymuned yn dathlu 'torri olion amser' ar y llwyfan ac yn yr awditoriwm. Roedd yna undod ac arbrofi gyda ffurfiau celfyddydol, datgelu profiadau a dathlu bod creadigrwydd yn uno unigolion i deimlo'r cyswllt cymunedol ddim yr arwahanrwydd.

Mewn sgwrs wedi'r perfformiad, trafodwyd sut y gallai Ar y dibyn gyfrannu mewn proses newydd o greu. Fe'n gwahoddwyd i ymuno gyda Fallen Angel yn eu sesiynau cymunedol ar nos Lun yn y Storyhouse. Dyma brofi sut y gall cyswllt ffurfio ar amrantiad pan fo sgwrs onest sydd yn rhannu gweledigaeth am werth creadigrwydd yn y broses o iachau fagu ffrwyth.

Previous Article

Next Article

'Traces Through Time' - 'Mynd i Weld' yn Storyhouse, gyda Nia a Iola
Menu
Search