Training Events

Hyfforddiant Am Ddim: DEEP, Hydref - Rhagfyr 2025

Location:

Ar Lein

Cost:

Am ddim

Summary:

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) ac yn cynnig ystod o y cyfleoedd dysgu a datblygu ar-lein hyn yn rhad ac am ddim rhwng mis Hydref ac mis Rhagfyr. Ar wahân i’r cwrs Catalydd, gellir mynychu’r holl sesiynau fel digwyddiadau unigol.

Content:

Beth yw DEEP?

Mae DEEP yn ddull cyd-gynhyrchu o gasglu, archwilio a defnyddio mathau amrywiol o dystiolaeth (tystiolaeth ymchwil, doethineb ymarferwyr a safbwyntiau pobl â phrofiad o fyw) mewn dysgu a datblygu trwy ddefnyddio dulliau stori a deialog.

Mae Fframwaith Perfformiad a Gwella Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a’u partneriaid ddangos sut y maent yn defnyddio tystiolaeth wrth ymarfer, cynllunio a llunio polisïau a mynd y tu hwnt i ddangosyddion perfformiad i archwilio profiad a chanlyniadau’r bobl y maent yn eu cefnogi.

Gall defnyddio dulliau DEEP gefnogi pobl sy’n gweithio ar draws gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol gyda’r ddealltwriaeth a’r offer i ddarparu gofal a chymorth sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd.

 

I archebu’r cwrs Catalydd ac unrhyw un o’r sesiynau isod, defnyddiwch y ddolen hon: https://www.eventbrite.com/cc/deep-3116749 

 

-

 

Cwrs Catalydd DEEP

Dysgwch am yr egwyddorion a dulliau gweithredu DEEP a sut i ddefnyddio offer ymarferol ar gyfer dysgu ar y cyd

7fed mis Hydref – 19eg mis Rhagfyr

 

Casglu a defnyddio tystiolaeth yn ymarferol: egwyddorion DEEP

Archwiliwch yr 8 egwyddor sy’n sail i’r dull DEEP sy’n canolbwyntio ar bobl o ddefnyddio tystiolaeth mewn dysgu a datblygu

9fed mis Hydref

 

Gwneud penderfyniadau ar y cyd

Dysgwch am wneud penderfyniadau consensws a sut mae defnyddio’r dull hwn yn helpu dod o hyd i gamau gweithredu a/neu atebion y mae pawb yn eu cefnogi neu’n gallu byw gyda nhw

14eg mis Hydref

 

Gofal sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd: y fframwaith Synhwyrau

Dysgwch am ofal sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd a llesiant rhyngddibynnol drwy archwilio’r chwe ‘Synnwyr’

16eg mis Hydref

 

Rhannu tystiolaeth: Gyda ffocws ar rhifau

Dysgwch sut i rannu tystiolaeth mewn ffordd sy’n ennyn diddordeb calonnau a meddyliau trwy ddefnyddio straeon delweddau a dulliau creadigol eraill

21ain mis Hydref

 

Arfer adlewyrchol a chydgynhyrchu: Cymuned ymholi

Dysgwch sut i gefnogi pobl i archwilio pynciau mewn ffordd gwerthfawrogi ac yn cefnogi anghytundeb myfyriol

23ain mis Hydref

 

Casglu a defnyddio tystiolaeth yn ymarferol: Gwahanol ffyrdd o archwilio straeon

Dysgwch wahanol ffyrdd o archwilio straeon. Rhennir ystod o ddulliau gan gynnwys dadansoddi cynnwys a thematig

4ydd mis Tachwedd

 

Ymarfer a dysgu myfyriol: Eiliadau hud ac Eiliadau trasig

Deall sut i gasglu ‘eiliadau hud’ ac ‘eiliadau trasig’ pobl a sut y gellir defnyddio’r straeon hyn fel catalydd ar gyfer dysgu a datblygu’n ymarferol

6ed mis Tachwedd

 

Arfer adfyfyriol a gwerthuso: Newid Mwyaf Arwyddocaol

Dysgwch egwyddorion a hanfodion casglu ac archwilio straeon gyda’r dull Newid Mwyaf Arwyddocaol

20fed mis Tachwedd

 

Ymarfer adfyfyriol a chydgynhyrch Pwyntiau siarad

Dysgwch sut i ddefnyddio ‘datganiadau pryfoclyd’, a sgwrs archwiliadol i gael deialog gyfoethog am dystiolaeth a materion ymarfer a all fod yn sail i gydgynhyrchu

4ydd mis Rhagfyr

 

Gwerthuso gofal sy’n canolbwyntio ar y person: Cyflwyniad i arolwg PERCCI

Archwilio themâu allweddol gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a sut y datblygwyd offeryn arolwg PERCCI a sut y gellir ei ddefnyddio’n ymarferol

18fed mis Rhagfyr

Search