Training Events

Cyfarfod Rhwydwaith WAHWN Mis Mawrth 2026

Date:

26-03-2026

Location:

Ar lein

Cost:

Am ddim

Summary:

I nodi Diwrnod Presgripsiynu Cymdeithasol Cenedlaethol, ymunwch â ni ar gyfer Cyfarfod Mis Mawrth o Rwydwaith WAHWN, lle bydd Sandy Clubb, Arweinydd Polisi: Ymglymiad, Cydweithio a Diwylliant, yn ymuno â ni yn Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.

Archebwch eich lle yma

Content:

Dydd Iau 26 Mis Mawrth

10yb - 11.30yb


I nodi Diwrnod Cenedlaethol Presgripsiynu Cymdeithasol, ymunwch â ni yng Nghyfarfod Rhwydwaith mis Mawrth WAHWN yng nghwmni Sandy Clubb, Arweinydd Cynnwys, Cydweithredu a Diwylliant, yn  Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.

Gyda’r cyhoeddiad diweddar gan LywodraethCymru bod Sir Ddinbych, Merthyr Tudful a Chastell Nedd Port Talbot yn ymuno â Thorfaen fel ‘Mannau Marmot’ Cydraddoldeb Iechyd newydd byddwn yn ystyried beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol a chyfleoedd i’r sector helpu i fynd i’r afael ag egwyddorion Marmot sy’n canolbwyntio ar degwch, atal a llesiant tymor hir.

Bydd Sandy hefyd yn rhannu trosolwg o “Diwylliant ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol. Deddf Diwylliant i Gymru: Papur Gwyrdd” – dogfen ymgynghori a gomisiynwyd gan Gomisynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru i ystyried a ddylai Cymru gyflwyno Bil Diwylliant a fyddai’n gosod diwylliant ar sail statudol a chryfhau’r ffordd y mae cyrff cyhoeddus yn cefnogi llesiant diwylliannol, sydd yn ymgynghori tan 6 Ebrill 2026, cyn etholiad y Senedd.

 

Archebwch eich lle yma

Search