Opportunities & Events

​Y Gelf o Weld ein Hunain

Location: Sefydliad y Glowyr Coed Duon | Start Date: 11/05/2026

Summary:

Cyfle yn agor ar gyfer Ymarferwyr Creadigol a Lles ar lwybyr yr Hyfforddwyr - https://www.cynefin.org/cy/trainerpathway Gellir bwcio eich lle fan hyn - https://luma.com/3pznmz27

Content:

Y Gelf o Weld ein Hunain Ymunwch â ni am brofiad trawsnewidiol! ​3 diwrnod ​Dydd Llun 11fed Fai 10:00–17:30 Dydd Mawrth 12fed Fai 10:00–17:30 Dydd Mercher 13fed Fai 10:00–17:30 ​Mae’r hyfforddiant dwys tridiau hwn yn gyflwyniad i’r Celfyddydau Gyd-destunnol (Context Oriented Arts). Mae CoArts yn sail i’r rhaglen ymwybyddiaeth greadigol arloesol newydd, Dod nôl at ein Coed (Coming to Our Senses). ​Cafodd Dod nôl at ein Coed ei beilotio gyda staff y GIG yn chwech bwrdd iechyd yng Nghymru, a dangosodd effaith sylweddol ar fesurau llesiant i’r rhai a gymerodd ran. ​Mae’r cwrs hwn ar gyfer ymarferwyr sydd â diddordeb mewn dysgu sut y gall y celfyddydau gyfuno ag arferion meddwlgarwch i helpu i wella ein hiechyd meddwl. ​Dyma hefyd gam cyntaf Llwybr yr Hyfforddwr i gymhwyso i gyflwyno’r cwrs Dod nôl at ein Coed. I wneud cais i Lwybr yr Hyfforddwr, cliciwch yma. ​Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Dod nôl at ein Coed yma: https://www.cynefin.org/cy/coming-to-our-senses ar Lwybr yr Hyfforddwyr yma - https://www.cynefin.org/cy/trainerpathway ​Cefnogir y prosiect hwn gan Grant Loteri Celfyddydau, Iechyd a Llesiant Cyngor Celfyddydau Cymru.

Search