Opportunities & Events
The Body Hotel - MenoMove UK
Summary:
Rydym yn falch iawn i gyflwyno MudoMeno – cynllun chwe wythnos newydd sbon rhad ac am ddim i gefnogi pobl sy'n profi'r menopos; trwy symudiad ysgafn, creadigol a chyd-gysylltu mewn grŵp.
Content:
Rydym yn falch iawn i gyflwyno MudoMeno – cynllun chwe wythnos newydd sbon rhad ac am ddim i gefnogi pobl sy'n profi'r menopos; trwy symudiad ysgafn, creadigol a chyd-gysylltu mewn grŵp.
Wedi'i greu gan Body Hotel a'i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre, mae MudoMeno yn cynnig gofod croesawgar a chefnogol er mwyn:
- Hybu bywiogrwydd
- Adeiladu undod a chymuned
- Archwilio dulliau i helpu ymdopi â symptomau
Mae hon yn fwy na rhaglen les - mae MudoMeno hefyd yn brosiect ymchwil sy'n cyfrannu at waith pwysig yn y celfyddydau, iechyd a gofal menopos.
Beth sydd ar y gweill:
- Chwe wythnos o gymysgedd o sesiynau wyneb-yn-wyneb ac ar-lein
- Nid oes angen profiad o ddawnsio – croeso i bob corff a gallu
- Wedi'i seilio ar ymchwil a'i gyflwyno gyda gofal
Dyddiadau:
- Cyfres 1: Yn dechrau Medi 3ydd
- Cyfres 2: Yn dechrau Hydref 22ain
- Cyfres 3 a 4: (ar gyfer pobl sy'n profi menopos oherwydd triniaeth canser, ac ar gyfer dynion traws a phobl anneuaidd): Cofrestrwch eich diddordeb nawr – dyddiadau i'w cadarnhau.
Cofrestrwch neu darganfyddwch fwy yma: https://www.thebodyhotel.com/menomove2025
Os nad yw ein hamserlen yn eich gweddu chi, tybed a oes yna rywrai yn eich rhwydwaith a gall elwa o MudoMeno.
Cwestiynau? E-bostiwch: thebodyhotelteam@gmail.com