Opportunities & Events
Swydd Wag: Gweinyddwr Tîm (Tîm y Celfyddydau ac Iechyd), BiPHD
Location: BIPHD | Start Date: Dyddiad Cau: 12 Awst
Summary:
Bydd Gweinyddwr Tîm y Celfyddydau ac Iechyd yn darparu cymorth gweinyddol a hwyluso hanfodol i Dîm y Celfyddydau ac Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae'r rôl hon yn golygu cydgysylltu ystod eang o weithgareddau sy'n gysylltiedig â'r celfyddydau mewn iechyd, gan gynnwys llesiant y cleifion a'r staff, ymgysylltu â'r gymuned, a phrosiectau cyfalaf.
A ydych yn weinyddwr trefnus, rhagweithiol, sy'n canolbwyntio ar bobl, ac sy'n teimlo'n angerddol ynghylch y celfyddydau a llesiant? Rydym yn chwilio am Weinyddwr Tîm ymroddedig i gefnogi tîm dynamig y Celfyddydau ac Iechyd.
Content:

Yn y rôl amrywiol a gwerth chweil hon, byddwch yn gwneud y canlynol:
- Darparu cymorth gweinyddol o ddydd i ddydd i Bennaeth y Celfyddydau ac Iechyd a'r tîm ehangach
- Cydgysylltu a mynd i gyfarfodydd, digwyddiadau, a phrosiectau creadigol ar draws y Bwrdd Iechyd
- Cyfathrebu ag artistiaid, staff, a phartneriaid cymunedol
- Darparu deunydd marchnata ar gyfer digwyddiadau, a rheoli'r cyfryngau cymdeithasol
- Rheoli cofnodion, prosesu anfonebau, cefnogi prosesau adrodd a gwerthuso, a chefnogi'r gwaith o ddadansoddi da
Bydd arnoch angen y canlynol:
- Profiad mewn amgylchedd swyddfa prysur
- Sgiliau cyfathrebu a threfnu ardderchog
- Hyder wrth ddefnyddio Microsoft Office a chronfeydd data
- Ymagwedd dosturiol a phroffesiynol
Mae hwn yn gyfle gwych i gyfrannu at waith ystyrlon sy'n gwella llesiant trwy greadigrwydd ledled ein cymunedau.
Dyddiad Cau: 12 Awst