Opportunities & Events
Stepping In : Galw am Fentoreion
Location: Gogledd Cymru | Start Date: Dyddiad Cau: am hanner dydd, 18 Mawrth 2026
Summary:
Rhaglen hyfforddi a mentora yw Camu i Mewn i alluogi ymarfewyr o gymunedau Cymraeg eu hiaith a rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yng ngogledd Cymru i gamu i fyd y celfyddydau ac iechyd.
Dyddiad Cau: am hanner dydd, 18 Mawrth 2026

Content:
Camu i Mewn : Amrywio Gweithlu’r Celfyddydau Creadigol ac Iechyd
Rhaglen hyfforddi a mentora yw Camu i Mewn i alluogi ymarfewyr o gymunedau Cymraeg eu hiaith a rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yng ngogledd Cymru i gamu i fyd y celfyddydau ac iechyd. Gan adeiladu ar lwyddiant ein cynllun peilot gyda phedwar ymarferydd, mae’r fenter yn mynd i’r afael â’r angen dybryd i amrywio ac ehangu’r garfan o ymarferwyr sy’n gweithio yn y celfyddydau ac iechyd. Mae galw am ymyriadau yn y celfyddydau ac iechyd yn debygol o godi, ond mae’r sector yn dibynnu ar gronfa fach o hwyluswyr sy’n cael eu gorymestyn. Mae’r gronfa o siaradwyr Cymraeg yn fach. Mae’r rhaglen hon yn ymateb i’r her honno drwy fuddsoddi mewn talentau newydd a chwalu rhwystrau mynediad. Bydd Camu i Mewn 2026 yn cefnogi carfan newydd o hyd at 12 o ymarferwyr yng ngogledd Cymru.
Galw am Fentoreion
- Ydych chi’n ymarferydd creadigol yng ngogledd Cymru (unrhyw ffurf gelfyddydol) a/neu yn ymarferydd yn gweithio mewn lleoliad iechyd?
- Ydych chi’n angerddol ynghylch defnyddio eich sgiliau i gefnogi iechyd a llesiant pobl drwy ymgysylltu creadigol?
- Ydych chi’n siarad Cymraeg yn rhugl?
- Oes gennych chi brofiad byw o un neu fwy o’r canlynol: hunaniaeth mwyafrif byd-eang, iechyd meddwl gwael, anabledd, b/Byddar a niwroamrywiol, LHDTCA+
- Oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn rhaglen gyda chefnogaeth sydd wedi’i hanelu at amrywio’r gweithlu celfyddydau ac iechyd?
- Hoffech chi weithio a chael profiad gyda chorff celfyddydau ac iechyd yng ngogledd Cymru?
Os yw o leiaf 5 o’r rhain yn berthnasol i chi, gallai Camu i Mewn fod yn iawn i chi!
Partneriaid y Project
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Fran Wen
- Pontio, Blas
- Hamdden Sir Ddinbych Ltd
- Theatr Cymru
- Canolfan Gerdd William Mathias
Beth fydd y rhaglen yn ei gynnwys?
- Sesiwn gyflwyno ar-lein ym mis Ebrill gyda phartneriaid y prosiect
- Wythnos lawn o hyfforddiant dwys yn Nyth, Ffordd Garth, Bangor, Gwynedd LL57 2RW ; Pum diwrnod llawn dydd Llun 11 – dydd Gwener 15 Mai 2026
- Cysgodi ymarferydd / tîm / sefydliad celfyddydau ac iechyd profiadol ar brosiect byw mewn lleoliad iechyd neu gymunedol rhwng mis Mehefin a mis Hydref 2026
- O leiaf ddwy sesiwn mentora gyda hwylusydd profiadol
- Cymryd rhan mewn sesiynau rhannu a gwerthuso gyda chymheiriaid
Bydd cysgodi prosiectau byw yn digwydd yn un o’r siroedd canlynol a bydd mentoreion yn cael eu gosod gyda sefydliadau partner: Sir Ddinbych neu Gwynedd
Bydd mentoreion yn cael cynnig:
- Bwrsariaeth
- Cymorth gan gymheiriaid
- Cymorth llesiant
- Costau mynediad
Sut i wneud cais:
I wneud cais, anfonwch y canlynol atom ni:
- CV, dim mwy na 2 dudalen (ar ffurf dogfen Word neu PDF)
- Un ochr o destun A4 (ar ffurf dogfen Word neu PDF) neu ffeil fideo/sain heb fod yn hirach na 3 munud o hyd. Anfonwch y canlynol atom ni:
- Rhywfaint o wybodaeth amdanoch chi eich hun fel ymarferydd creadigol / ymarferydd iechyd ac unrhyw brofiad sydd gennych chi o hwyluso gweithdai.
- Pam fod gennych chi ddiddordeb, a’r hyn rydych chi’n gobeithio ei gael o’r profiad.
- Cadarnhewch y byddech chi ar gael ar gyfer wythnos y rhaglen hyfforddi 11 – 15 Mai.
- Ble’r ydych chi yng ngogledd Cymru.
Ebostiwch hwn at Rebecca Hardy-Griffith, Rheolwr Rhaglen Camu i Mewn, stepping@wahwn.cymru erbyn 18 Mawrth 2026, am hanner dydd.
Cofiwch gwblhau'r Ffurflen Monitro Amrywiaeth a Chydraddoldeb hefyd.
Llinell amser:
- Dyddiad cau ceisiadau: 18 Mawrth 2026, am hanner dydd
- Caiff rhestr fer ei llunio a chynhelir cyfweliadau ar-lein ddydd Llun 30 a dydd Mawrth 31 o Fawrth.
- Caiff ymgeiswyr llwyddiannus eu hysbysu erbyn 2 Ebrill.
Os hoffech drafod unrhyw beth yn benodol am y rhaglen neu’r broses ymgeisio, cysylltwch â Rebecca Hardy-Griffith : stepping@wahwn.cymru
Camu I Mewn Galwad Agored 2026 - Cymraeg - PDF
Camu I Mewn Galwad Agored 2026 - Llyfryn Hawdd i Ddeal
Camu I Mewn Galwad Agored - BSL:
