Opportunities & Events

Rheolwr Prosiect Live Music Now Cymru

Location: Caerdydd | Start Date: 7 Gorffennaf

Summary:

Swydd: Rheolwr Prosiect, Live Music Now Cymru Graddfa Gyflog: £21,000 (y flwyddyn) Math o swydd: Rhan amser, 3.5 diwrnod, 26.25 awr yr wythnos.

Dyddiad cau: 18 Mai Hysbysebu am y rhestr fer: w/c: 25 Mai Cyfweliadau: 2 a 3 Mehefin, ar-lein dros zoom.

Content:

Lleoliad Yn bennaf yn swyddfa Live Music Now Cymru, Connie’s of Cardiff, Caerdydd ar hyn o bryd gydag opsiwn i weithio diwrnod yr wythnos o gartref. Bydd oriau gwaith yn cynnwys oriau craidd, 10am-3pm a chytunir ar hyn â’r Rheolwr Llinell. Efallai y bydd eich angen ar gyfer digwyddiadau a drefnir ar draws yr wythnos ac, adegau prin, dros y penwythnos (tua dwywaith y flwyddyn). I Wneud Cais Uwchlwythwch eich CV a llythyr esboniadol yn nodi sut rydych chi’n bodloni’r meini prawf i’r ddolen hon https://www.surveymonkey.com/r/projectmanager2026 erbyn 12 yp (canol dydd) ar 18 Mai 2026. Nodwch enwau a manylion cyswllt dau ganolwr sydd mewn sefyllfa i roi sylwadau ar eich gwaith yn broffesiynol, gan nodi’n gryno am ba mor hir a sut y maen nhw’n eich adnabod (ni chysylltir â chanolwyr cyn cyfweliad). Hysbysu Yn anffodus ni allwn roi adborth onid ydych chi ar y rhestr fer.Byddwn yn rhoi gwybod i chi p’un a ydych chi ar y rhestr fer ai peidio. Mae Live Music Now’n ymrwymedig i fod yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac o ganlyniad rydym yn annog ceisiadau gan bobl sydd heb eu cynrychioli’n ddigonol yn y sector diwylliannol ac yn ein sefydliad, gan gynnwys pobl sy’n wynebu rhwystrau o anabledd neu sydd wedi profi hiliaeth. Caiff pob ymgeisydd Anabl sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol gyfweliad. Caiff ymgeiswyr ar y rhestr fer gyfle i drafod eu gofynion mynediad ar gyfer y cyfarfod. Croesewir darpar ymgeiswyr i alw’r Rheolwr Llinell sy’n recriwtio, Cyfarwyddwr Live Music Now Cymru, Jen Abell, gydag unrhyw ymholiadau am y rôl hon cyn gwneud cais, neu os hoffech gyflwyno’ch ymatebion mewn fformat gwahanol. Ffoniwch ar 07549 341 316 neu e-bostiwch jennifer.abell@livemusicnow.org.uk

 

Search