Opportunities & Events
Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol
Location: Cyrmru
Summary:
Mae’r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn gynllun grant cyfalaf sy'n cael ei weithredu gan Lywodraeth Cymru.
Content:
Mae’r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn gynllun grant cyfalaf sy'n cael ei weithredu gan Lywodraeth Cymru.
Mae grantiau ar gael ar ddwy lefel;
- grantiau bach dan £25,000
- a grantiau mwy o hyd at £300,000.
Gellir defnyddio’r grantiau i wella cyfleusterau cymunedol sy'n ddefnyddiol i bobl yn y gymuned, ac yn cael eu defnyddio’n helaeth ganddynt.
Mae’r Rhaglen yn agored i fudiadau’r sector gwirfoddol a chymunedol, gan gynnwys mentrau cymdeithasol.
Mae’r Rhaglen yn canolbwyntio ar:
- gynyddu cyfleoedd,
- sicrhau ffyniant i bawb
- a datblygu cymunedau cadarn lle mae pobl yn cael eu cynnwys a’u grymuso.
Mae disgwyl i bob ymgeisydd weithio gyda phartneriaid a all ddod o’r sector cyhoeddus, preifat neu’r trydydd sector.
