Opportunities & Events

Music & Movement // Symudiad a Cherddoriaeth

Location: Beics Antur Caernarfon LL55 1RN | Start Date: 04th October, 9.30am - 4pm

Summary:

This practical workshop will interweave music and movement to help children learn, develop and thrive.

Content:

BOOK YOUR TICKETS HERE

 

During this practical workshop, Manon Llwyd and Leisa Mererid will interweave music and movement to help children learn, develop and thrive. There will be an opportunity to receive training led by Leisa and Manon in the morning and time to trial ideas in the afternoon, concluding with a sharing and discussion session.

Yoga and mindfulness inextricably go hand in hand. By using the body and working on the breath in a playful way, it is possible to develop life skills such as self-awareness and self-control, namely managing emotions, improving co-ordination, balance and physical and mental flexibility.

Music is a magical medium that enables children to express themselves physically, verbally, through colour, emotion and is a constructive source to release creativity.

This will be a fun, practical course with real techniques and skills to inspire in the classroom.

About the facilitators:
Leisa Mererid

I have a keen interest in the Expressive Arts and I love creating! I trained at Manchester School of Theatre before specializing in physical theater at Jacques LeCoq International College in Paris. Following a successful career as a stage, television, film and radio actor I have now trained as a Yoga teacher and have specialized in teaching Yoga and mindfulness to children. I’m also a storyteller and have published two books for children namely ‘Y Goeden Ioga’ and ‘Wariar Bach’ and a new book is on the way! I love combining my skills as a performer and Yoga teacher with the aim of igniting creativity, self-confidence, self-worth and nurturing and transferring skills to help others relax and deal with anxiety.

Manon Llwyd

A harp graduate of the RNCM, Manon strongly believes in bringing music of all genres into the lives of children and young people in a variety of ways and has had the privilege of working closely with schools and teachers as a peripatetic harp teacher, composer and as a music practitioner within the LCS Wales Education Programme, working with all key stages as Wales launches its new curriculum. She has also played a key part in creating and delivering music training aspects of learning through the arts for nursery, foundation and KS1years throughout Wales.

Manon is also now a part time CPD and Training Manager at Charanga Cymru promoting music both in the classroom and at an individual level. Manon still provides individual lessons and mentors musicians into the profession as teachers, performers and also musicians in arts, health and well-being as well as working as a composer, working on a variety of commissions.

--------------------------------------------------------------------------------------------

Yn ystod y gweithdy ymarferol yma, bydd Manon Llwyd a Leisa Mererid yn plethu cerddoriaeth a symudiad er mwyn helpu plant i ddysgu, datblygu a ffynnu. Bydd cyfle i gael hyfforddiant dan arweiniad Leisa a Manon yn y bore a chyfle i dreialu syniadau yn y prynhawn gan gloi gyda sesiwn rhannu a thrafod.

Yn annatod, mae ioga a meddylgarwch yn mynd law yn llaw. Drwy ddefnyddio’r corff a gweithio ar yr anadl mewn ffordd chwareus, mae modd meithrin sgiliau bywyd megis hunanymwybyddiaeth a hunan-reolaeth sef rheoli emosiynnau, gwella cydsymyd, cydbwysedd a hyblygrwydd corfforol a meddyliol.

Mae cerddoriaeth yn gyfrwng hudolus sydd yn galluogi plant i fedru mynegi eu hunain yn gorfforol, geiriol, drwy liw, emosiwn ac sydd yn ffynhonnell adeiladol i ryddhau creadigrwydd.

Bydd hwn yn gwrs hwyliog, ymarferol gyda thechnegau a sgiliau real i’ch ysbrydoli ar lawr y dosbarth.

Ynglŷn â'r Cyflwynwyr:
Leisa Mererid

Mae gen i ddiddordeb brwd yn y Celfyddydau Mynegiannol ac rwyf wrth fy modd yn creu! Cefais fy hyfforddi yng Ngholeg Drama Manceinion cyn arbenigo mewn theatr gorfforol yng Ngholeg Rhyngwladol Jacques LeCoq ym Mharis. Yn dilyn gyrfa lwyddiannus fel actores lwyfan, teledu, ffilm a radio rwyf bellach wedi hyfforddi fel athrawes Ioga ac wedi arbenigo mewn dysgu Ioga a meddylgarwch i blant. ‘Dwi hefyd yn storiwraig ac wedi cael y fraint o gyhoeddi dau lyfr i blant sef ‘Y Goeden Ioga’ a’r ‘Wariar Bach’ ac mae llyfr newydd a’r y gweill! Rwyf wrth fy modd yn cyfuno fy sgiliau fel perfformwraig ac athrawes Ioga gyda’r nod o ennyn creadigrwydd, hunan hyder, hunan werth a meithrin a trosglwyddo sgiliau i helpu eraill i ymlacio ac ymdrin a phryder.

Manon Llwyd

Yn raddedig fel telynores o’r RNCM, mae Manon yn credu’n gryf mewn dod â cherddoriaeth o bob genre i fywydau plant a phobl ifanc a hynny mewn amrywiaeth o ffyrdd ac mae wedi cael y fraint o weithio’n agos gydag ysgolion ac athrawon fel athrawes deithiol telyn, cyfansoddwraig ac fel ymarferydd cerdd o fewn Rhaglen

Addysg YCA Cymru, gan weithio gyda phob cyfnod allweddol wrth i Gymru lansio ei chwricwlwm newydd. Mae hi hefyd wedi bod yn rhan allweddol o greu a chyflwyno agweddau hyfforddiant cerddoriaeth o ddysgu drwy’r celfyddydau ar gyfer meithrin, sylfaen a CA1 ledled Cymru.

Bellach mae egni Manon yn mynd fel Rheolwr DPP a Hyfforddiant Charanga Cymru rhan amser er mwyn hybu cerddoriaeth yn y maes addysg dosbarth ac unigol. Mae Manon yn dal i roi gwersi unigol ac yn mentora cerddorion i’r proffesiwn fel athrawon, perfformwyr a hefyd cerddorion yn y celfyddydau, iechyd a lles yn ogystal a gweithio fel cyfansoddwraig, gan dderbyn comisiynau o bob math.

Search