Opportunities & Events

Hapus: Dechrau Sgwrs Genedlaethol ar Les Meddyliol

Summary:

Gwahoddir chi i agoriad 'Sgwrs Genedlaethol Hapus' ar les meddwl ar Gorffennaf 

Content:

Hapus: Dechrau Sgwrs Genedlaethol ar Les Meddyliol 

Dyddiad ac Amser:  Dydd Llun 8 Gorffennaf 1:30pm-4:00pm  

Ymunwch â ni ar gyfer agoriad 'Sgwrs Genedlaethol Hapus' ar les meddwl. 
Mae hybu lles meddwl yn flaenoriaeth uchel yng Nghymru gyda Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles 10 mlynedd newydd i Gymru yn cynnwys ffocws penodol ar ddiogelu a gwella lles meddwl.  

Mae Hapus yn cael ei hwyluso gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i nod yw cychwyn a chynnal sgwrs genedlaethol sy’n annog unigolion a chymunedau i flaenoriaethu eu lles meddyliol ac i ymgysylltu â gweithgareddau sy’n amddiffyn a hyrwyddo lles meddwl. 
 
Ymunwch â ni i ddysgu am les meddwl, beth ydyw a beth sy’n dylanwadu arno a sut y gallwch gefnogi’r sgwrs genedlaethol. 

Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgaredd hybu lles, i helpu'ch lles meddyliol eich hun. 

Cofrestrwch yma.

Search