Opportunities & Events
Gweithiwch gyda Rubicon Dance: Ymarferydd Dan Hyfforddiant DanceforHealth
Location: Wedi'i lleoli yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg | Start Date: Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10yb, dydd Mawrth 7 Ebrill 2026
Summary:
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddatblygu sgiliau arbenigol wrth gyflwyno gweithgareddau dawns o ansawdd uchel ar draws lleoliadau iechyd a chymunedol. Mae’r hyfforddeiaeth hon wedi’i chynllunio ar gyfer ymarferydd dawns sydd â phrofiad o ddawns gymunedol ac sy’n barod i ddyfnhau ei sgiliau o fewn cyd-destunau iechyd a lles.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10yb, dydd Mawrth 7 Ebrill 2026
Content:
Teitl y Swydd: Ymarferydd Dan Hyfforddiant DanceforHealth
Rhan-amser (21 awr yr wythnos, cyfnod penodol o 4 mis)
Dyddiadau’r rôl: 4 Mai 2026 – 29 Awst 2026
Wedi'i lleoli yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg
Cyflog: £24,479.00 y flwyddyn pro rata (sy’n cyfateb i £13.45 yr awr, Cyflog Byw Go Iawn)
Bydd yr Ymarferydd Dan Hyfforddiant DanceforHealth yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol profiadol DanceforHealth Rubicon Dance i ddatblygu’r wybodaeth a'r sgiliau arbenigol sydd eu hangen i hwyluso sesiynau dawns mewn lleoliadau gofal iechyd. Byddant yn cefnogi’r gwaith o greu a chyflwyno gweithgareddau dawns sy’n darparu gweithdai ysbrydoledig i gyfranogwyr, wedi’u teilwra i weddu i alluoedd corfforol a gwybyddol unigol, gan ystyried lles ac anghenion cymorth eraill yn ôl yr angen. Byddant hefyd yn cymryd rhan mewn hyfforddiant arbenigol, mentora ac ymarfer myfyriol i’w paratoi ar gyfer gyrfa yn y sector cyffrous a chynyddol o ddawns er iechyd.
Mae’r hyfforddeiaeth hon wedi’i chynllunio ar gyfer ymarferydd dawns sydd â phrofiad o ddawns gymunedol ac sy’n barod i ddyfnhau ei sgiliau o fewn cyd-destunau iechyd a lles. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
- Arsylwi ar ac yn cefnogi ymarferwyr DanceforHealth profiadol wrth gyflwyno sesiynau i ystod eang o gyfranogwyr.
- Ennill profiad ymarferol mewn lleoliadau’r GIG, gofal cymdeithasol a chymunedol.
- Cymryd rhan mewn dysgu strwythuredig, myfyrio, mentora ac ymarfer dan oruchwyliaeth.
- Ymgymryd â hyfforddiant arbenigol i adeiladu gwybodaeth am gyflyrau iechyd perthnasol, ymarfer diogel, cyflwyno cynhwysol, a dulliau sy'n benodol i’r sector.
Mae hon yn rôl ddatblygiadol, wedi’i chynllunio i ehangu a datblygu gweithlu arbenigwyr DanceforHealth
Sut i wneud cais: anfonwch CV a llythyr eglurhaol at info@rubicondance.co.uk
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10yb, dydd Mawrth 7 Ebrill 2026
Cyfweliadau: 16 Ebrill 2026
