Opportunities & Events
Gwahoddiad i gynnig: Cefnogaeth i Brosiect Diwylliant a Chenhadaeth yr Iaith Gymraeg
Start Date: Dyddiad Cau: 12 Ionawr
Summary:
Mae Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn chwilio am gynigion ar gyfer gweithiwr llawrydd creadigol i ddarparu cefnogaeth prosiect i gynorthwyo cyflawni Cenhadaeth Diwylliant a’r Iaith Gymraeg.
Content:
Fel Gweithiwr Llawrydd Prosiect ar gyfer y Genhadaeth Diwylliant a’r Iaith Gymraeg, byddwch yn helpu i wireddu ein cenhadaeth drwy gydlynu prosiectau effeithiol, trefnu digwyddiadau, a chreu cyfathrebiadau deniadol.
Disgwylir i chi ymgysylltu’n ystyrlon â gweithwyr llawrydd wrth gyflawni eu gwaith.
Gan weithio’n agos gyda’r tîm a’n partneriaid, byddwch yn codi ymwybyddiaeth o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a phwysigrwydd llesiant diwylliannol i gefnogi pobl i ysgogi newid ystyrlon ledled Cymru.
Amserlen
6 Ionawr 2026 – Dyddiad cau ar gyfer ymholiadau
12 Ionawr 2026 – Dyddiad cau’r cynnig
15 Ionawr 2026 – Dyfarnu’r cynnig
26 Ionawr 2026 – Dyddiad cychwyn y contract
