Opportunities & Events
Grant Cynhwysiant Digidol Cymru
Location: Cymru
Summary:
Bydd Grant Cynhwysiant Digidol Cymru newydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau sy'n helpu pobl i oresgyn rhwystrau i ddefnyddio technoleg ddigidol drwy wella sgiliau digidol sylfaenol, magu hyder, a sicrhau bod ganddynt yr offer a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar lefel leol.
Content:
Mae'r grantiau'n cefnogi prosiectau sy'n:
- ymwreiddio cynhwysiant digidol yn eich sefydliad
- annog cydweithio traws-sector
- helpu pobl i oresgyn rhwystrau i allgáu digidol
- cryfhau neu’n creu partneriaethau i gefnogi anghenion lleol
Gall cyllid gynnwys costau staff lle bo angen i ryddhau capasiti i helpu i gefnogi pobl.
Pwy?
Mae Grant Cynhwysiant Digidol Cymru, Craidd ac Arloesi, yn agored i bob sector, gan gynnwys:
- grwpiau cymunedol
- mentrau cymdeithasol
- y trydydd sector
- grwpiau ffydd
- sefydliadau yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus
Os ydych chi'n gwneud cais fel partneriaeth/cydweithrediad, dylech enwi sefydliad arweiniol fel deiliad y grant a'r rheolwr data. Dylech hefyd gynnwys enw arweinydd o bob sefydliad partner.
Mae dau fath o grant.
Grant Craidd (hyd at 3 blynedd)
- Ar gael ar gyfer prosiectau sy'n seiliedig ar anghenion lleol a nodwyd.
- Cyfanswm y cyllid: £360,000 o refeniw a £30,000 o gyfalaf y flwyddyn.
- Cais nodweddiadol: hyd at £40,000 o refeniw a £3,500 o gyfalaf y flwyddyn.
Uchafswm ar gyfer cais dros 3 blynedd: £120,000 o refeniw a £10,500 o gyfalaf.
Grant Arloesi (hyd at 12 mis)
- Ar gael ar gyfer ffyrdd arloesol o helpu pobl i ymgysylltu mwy â thechnoleg ddigidol yn annibynnol.
- Cyfanswm y cyllid: £40,000 o refeniw ac £20,000 o gyfalaf y flwyddyn.
- Cais nodweddiadol: hyd at £10,000 o refeniw a £5,000 o gyfalaf.
