Opportunities & Events

Go & See Micro Grants for Arts, Health & Wellbeing Practitioners

Location: Wales | Start Date: 22/11/2022

Summary:

NEW Go & See Micro Grants available for artists and professionals working in the Arts, Health & Wellbeing sector

NEWYDD Grantiau Micro Mynd i Weld ar gyfer Ymarferwyr Celfyddydau, Iechyd a Lles

Content:

WAHWN is pleased to be able to offer a small number of bursaries to artists and professionals working across Arts, Health & Wellbeing to ‘Go & See’ other projects, spaces of interest, meet with new partners and collaborators, support training costs,  attend arts and health conferences or festivals. 

Who this is for: 

  • Individual participatory artists working in health and wellbeing settings/projects who want to visit or invite other artists to health and social care projects
  • Participatory arts organisations who want to visit or invite other participatory arts organisations or health and social care projects (priority will be given to organisations who are not in receipt of ACW core funding)

How Much?

Up to £200 per application – please only apply for the costs you need covered rather than ‘bulking up’ to meet the maximum amount. This will enable a fairer spread of the pot.

What does it cover?

  • Travel costs 
  • Accommodation costs
  • Subsistence costs
  • Attendance tickets
  • Costs of providing ‘cover’ staff
  • Training costs to support your practice
  • Personal access costs
  • Any other relevant costs to enable your visit
     

What is involved in accepting a micro grant?

  • This is a rolling programme – you can make your application at any point up to 28th February. Grants will be administered on a first come first served basis, and therefore once the fund has been fully allocated, we will announce that applications are closed. 
  • Successful applicants will be notified within 2 weeks of their application. 
  • You will need to spend the micro grant before 14 March 2022. 
  • Payments will be made within two weeks of submission of invoices.
  • You will need to complete a short feedback form describing the grant activity and how it has benefitted your work, including photographic documentation if relevant. Responses from all micro grant recipients will be collated to create a report for our funder, ACW. 
  • We would love it if you could write a short blog (max 500 words) or create a vlog about your visit, which we can share with our funders and WAHWN members. Further information about this will be provided upon receipt of your micro grant. 
  • Any unspent grants will need to be paid back within 14 days.

How to apply

Please submit up to 1 A4 page with the following information: 

  • Name
  • Organisation (if relevant)
  • Job title
  • What/Who do you want to Go & See?
  • When will this take place?
  • What benefits will you or your organisation gain from this visit?
  • How is this visit additional to your usual work? 
  • Provide an outline budget of how will you spend the money
  • Email your application to Tracy Breathnach, Programme Manager, WAHWN: programmes@wahwn.cymru

For all enquiries contact: Tracy Breathnach, Programme Manager, WAHWN: programmes@wahwn.cymru

..................................................................................................................................

Mae’n bleser gan WAHWN allu cynnig nifer fach o fwrsariaethau er mwyn i artistiaid a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y Celfyddydau, Iechyd a Lles gael ‘Mynd i Weld’ prosiectau eraill, mannau o ddiddordeb, cyfarfod â phartneriaid a chydweithwyr newydd, cefnogi costau hyfforddiant, mynychu cynadleddau neu wyliau celfyddydau ac iechyd.

Mae’r rhain ar gyfer:

●       Artistiaid cyfranogol unigol sy’n gweithio mewn lleoliadau/prosiectau iechyd a llesiant sy’n dymuno ymweld neu wahodd artistiaid eraill i brosiectau iechyd a gofal cymdeithasol

●       Sefydliadau celfyddydau cyfranogol sy’n dymuno ymweld neu wahodd sefydliadau celfyddydau cyfranogol eraill neu brosiectau iechyd a gofal cymdeithasol (rhoddir blaenoriaeth i sefydliadau nad ydynt yn derbyn cyllid craidd CCC)

 

Faint?

●       Hyd at £200 fesul cais - dylech ymgeisio am y costau sy’n angenrheidiol yn unig yn hytrach na chwilio am wariant i gyrraedd yr uchafswm. Bydd hyn yn caniatáu i ni ddosbarthu’r gronfa’n fwy teg.

 

Beth mae’n ei dalu?

●       Costau teithio

●       Costau llety

●       Costau cynhaliaeth

●       Tocynnau mynediad

●       Costau darparu staff cyflenwi

●       Costau hyfforddi i gefnogi eich ymarfer

●       Costau mynediad personol

●       Unrhyw gostau perthnasol eraill i alluogi eich ymweliad

 

Maeth mae derbyn grant micro’n ei olygu?

●        Rhaglen dreigl yw hon – gallwch gyflwyno cais unrhyw bryd tan 28 Chwefror. Caiff grantiau eu gweinyddu ar sail y cyntaf i’r felin, ac felly unwaith y bydd y gronfa wedi’i dyrannu’n llawn, byddwn yn cyhoeddi bod ceisiadau ar gau.

●        Caiff ymgeiswyr llwyddiannus eu hysbysu o fewn 2 wythnos i’w cais.

●        Bydd angen i chi wario’r grant micro cyn 14 Mawrth 2023.

●        Caiff taliadau eu gwneud o fewn pythefnos i gyflwyno anfonebau.

●        Bydd angen i chi gwblhau ffurflen adborth fer yn disgrifio’r gweithgaredd grant a sut mae wedi bod o fudd i’ch gwaith, gan gynnwys dogfennaeth ffotograffig os yw’n berthnasol. Caiff ymatebion yr holl dderbynwyr grant micro eu cyfuno i lunio adroddiad i’n cyllidwr, CCC.

●        Hoffem pe bai modd i chi lunio blog byr (uchafswm 500 gair) neu greu vlog am eich ymweliad, y gallwn ei rannu gyda’n cyllidwyr ac aelodau WAHWN. Cewch ragor o wybodaeth am hyn pan fyddwch yn derbyn eich grant micro.

●        Rhaid ad-dalu unrhyw arian grant nad yw wedi’i wario o fewn 14 diwrnod.

 

Sut i ymgeisio

Cyflwynwch 1 dudalen A4 gyda’r wybodaeth ganlynol:

●       Enw

●       Sefydliad (os yw’n berthnasol)

●       Teitl swydd

●       Beth/Pwy ydych chi’n meddwl Mynd i’w Weld?

●       Pryd fydd hyn yn digwydd?

●       Sut fyddwch chi neu eich sefydliad yn elwa o’r ymweliad?

●       Sut mae’r ymweliad hwn yn ychwanegol i’ch gwaith arferol?

●       Darparwch gyllideb amlinellol yn dangos sut y byddwch yn gwario’r arian.

 

Ebostiwch eich cais i Tracy Breathnach, Rheolwr Rhaglen, WAHWN: programmes@wahwn.cymru

Search