Opportunities & Events

Galwad am Werthuswr: Camu i Mewn #2

Start Date: Dyddiad Cau: 31 Mis Mawrth

Summary:

Mae WAHWN yn awyddus i benodi gwerthuswr allanol i gofnodi effaith y cam hwn yn y rhaglen a helpu i ffurfio dysgu sy’n cefnogi datblygu ymarfer o fewn WAHWN ac ar draws y sector ehangach.

Cyllideb: £3,000

Cyfnod y Gwaith: Ebrill – Rhagfyr 2026

Mwy o wybodaeth yma

 

Content:

Cefndir

'Camu i Mewn', a gyllidir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring, yw prif raglen WAHWN o hyfforddiant, mentora a dysgu ar sail profiad, sy’n cefnogi ymarferwyr heb gynrychiolaeth ddigonol i ‘gamu i mewn’ i faes y celfyddydau, iechyd a llesiant. Mae wedi’i hanelu’n benodol at ymarferwyr gyda phrofiad byw o iechyd meddwl; ymarferwyr Cymraeg eu hiaith a’r rheini o gefndir mwyafrif byd-eang; LHDTC+; B/byddar/anabl, mewn ymateb i’r diffyg amrywiaeth yng ngweithlu creadigol y celfyddydau ac iechyd.

Gan weithio gyda’n partneriaid – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Pontio, Theatr Cymru, Denbighshire Leisure Ltd, Fran Wen, Theatr Clwyd, a Canolfan Gerdd William Mathias, byddwn yn cefnogi 12 o ymarferwyr creadigol drwy wythnos lawn o hyfforddi; cymorth mentora; lleoliad gwaith ar brosiect byw a chymorth llesiant cofleidiol.

Mae WAHWN yn awyddus i benodi gwerthuswr allanol i gofnodi effaith y cam hwn yn y rhaglen a helpu i ffurfio dysgu sy’n cefnogi datblygu ymarfer o fewn WAHWN ac ar draws y sector ehangach.

 

Sgiliau a Phrofiad angenrheidiol

Hanfodol

  • Siaradwr Cymraeg rhugl
  • Gallu cydweithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid ac ymarferwyr
  • Deall polisi diwylliannol neu gyd-destunau’n gysylltiedig â llesiant yng Nghymru
  • Profiad o werthuso rhaglenni aml-bartner
  • Profiad o werthuso celfyddydau ac iechyd neu werthuso cyfranogol
  • Sgiliau synthesis cryf ac adrodd cryno

Dymunol

  • Profiad o hwyluso mannau dysgu myfyriol.

 

Cyllideb ac Amserlen

  • Cyfanswm o £3,000 yn cynnwys paratoi, cyflwyno, teithio ac adroddiad
  • Cynhelir y gwaith Ebrill – Rhagfyr 2026
  • Adroddiad terfynol i’w gyflwyno erbyn canol mis Rhagfyr 2026
     

Sut i wneud cais

Anfonwch gais byr (2-3 tudalen neu gyfatebol) yn amlinellu:

  • Eich dull a’ch methodoleg arfaethedig
  • Profiad perthnasol
  • Sut y byddwch yn cydweithio gyda WAHWN a phartneriaid
  • Dadansoddiad o amserlen/costau
  • Unrhyw enghreifftiau o waith blaenorol (dolenni’n dderbyniol)

Cyfeiriwch at grynodeb y gwerthuswr isod.

Dyddiad cau ceisiadau: Hanner dydd, 31 Mawrth 2026

Anfonwch y cais i Angela Rogers, Prif Swyddog Gweithredol, WAHWN info@wahwn.cymru

 

BrîffGwerthuswr_CamuIMewn2_2026

Search