Opportunities & Events
Galwad agored am werthuswyr annibynnol: BIPBC
Location: BIPBC | Start Date: Dyddiad Cau: 31 Mis Mawrth
Summary:
Galwad agored am werthuswyr annibynnol: gwerthusiad o brosiect llesiant creadigol ar gyfer plant a phobl ifanc a'u teuluoedd yng Nghonwy a Sir Ddinbych
Content:
Crynodeb
Ariennir Celfyddydau a Chrebwyll gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring. Yn yr ail gyfnod, mae Byrddau Iechyd ledled Cymru yn defnyddio celfyddydau a chreadigrwydd gyda phlant a phobl ifanc sy'n ymwneud â Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) gyda'r nod o wella eu llesiant meddyliol. Bydd y cyllid yn para am gyfnod o dair blynedd (yn amodol ar gais llwyddiannus).
Yn ystod y flwyddyn gyntaf yng Ngogledd Cymru, mae tîm Celfyddydau mewn Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn gweithio gyda Chelfyddydau Hamdden Sir Ddinbych Cyf a thîm Cymorth Cynnar CAMHS i ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar ac atal trwy gynlluniau mewngymorth i ysgolion, gan weithio gydag ysgolion lleol yn ardal Sir Ddinbych. Rydym hefyd yn gweithio gyda chanolfannau teulu yn ardal Conwy, i gefnogi rhieni trwy greadigrwydd er eu lles nhw a lles eu plant/person ifanc.
Rydym am benodi gwerthuswr annibynnol i werthuso effaith y prosiect ar gyfranogwyr o ran cefnogi neu o bosibl, gwella eu llesiant.
Cyfanswm y gyllideb werthuso
£3,500 (gan gynnwys TAW) a’r holl gostau ar gyfer dylunio, darparu ac adrodd
Llinell amser y prosiect
Gweler isod linell amser ar gyfer y broses ymgeisio a llinell amser arfaethedig ar gyfer y prosiect
Amserlen ar gyfer y cais a’r prosiect:
Galwad agored: 18 Mawrth 2026
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais: Dydd Mawrth 31 Mawrth 2026 4 pm BST
Llunio rhestr fer a phenderfynu: 1-2 Ebrill 2026
Contractio: 7 – 10 Ebrill 2026
Cychwyn y prosiect: 13 Ebrill 2026
Diweddariadau/adroddiadau interim: Diwedd Mai 2026, Gorffennaf 2026
Adroddiad terfynol y prosiect: 25 Medi 2026
Cymhwysedd
Mae'r alwad hon yn agored i werthuswyr sy'n gallu bodloni briff y prosiect, yr hyn sydd angen ei gyflawni, a'r amserlen. Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Gwneud cais
Anfonwch eich datganiad o ddiddordeb at: BCU.ArtsInHealth@wales.nhs.uk erbyn 4pm Dydd Mawrth 31 Mawrth 2026
Byddwch yn cael gwybod y canlyniad erbyn Dydd Mawrth 7 Ebrill 2026
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r alwad agored hon, cysylltwch â ni drwy e-bost ar BCU.ArtsInHealth@wales.nhs.uk . Bydd tîm Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC yn ymdrechu i ateb unrhyw ymholiadau o fewn 3-4 diwrnod gwaith
