Opportunities & Events

Ffocws ar Gelfyddydau, Iechyd a Lles

Location: Ar lein | Start Date: 18 Mis Mawrth 2026

Summary:

Yn y sesiwn hon, byddwn yn cyflwyno'r tîm Celfyddydau, Iechyd a Llesiant, ac yn cynnig gwybodaeth am y canllawiau, y cymhwysedd a'r broses ddethol ar gyfer ein cronfa Loteri Celfyddydau, Iechyd a Lles, sy'n agor ar gyfer ceisiadau o ddydd Mercher 1 Ebrill i ddydd Mercher 27 Mai.

Archebwch eich lle yma

Content:

Dyddiad: Dydd Mercher 18 Mawrth 2026, 12:00-13:00

Pris: Am ddim

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn eich croesawu i'r sesiwn Ffocws ar y Celfyddydau, Iechyd a Lles cyntaf.

Mae'r sesiynau hyn yn arbennig o berthnasol i bobl sydd â diddordeb mewn gwneud cais am gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn y maes hwn, neu ddysgu mwy am y celfyddydau, iechyd a llesiant yng Nghymru.

Yn y sesiwn hon, byddwn yn cyflwyno'r tîm Celfyddydau, Iechyd a Llesiant, ac yn cynnig gwybodaeth am y canllawiau, y cymhwysedd a'r broses ddethol ar gyfer ein cronfa Loteri Celfyddydau, Iechyd a Lles, sy'n agor ar gyfer ceisiadau o ddydd Mercher 1 Ebrill i ddydd Mercher 27 Mai.

Byddwn yn siarad am yr hyn sy'n gwneud cais grant da ac yn rhannu rhai awgrymiadau ac adnoddau gwych i'ch helpu i ddatblygu eich syniadau. Gallwn hefyd ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Cysylltwch â celfyddydauaciechyd@celf.cymru i gadarnhau unrhyw ofynion hygyrchedd erbyn 4ydd Mawrth 2026, os gwelwch yn dda.

Archebwch eich lle yma

Search