Opportunities & Events
Evaluator - How Ya Doing? Sut Mae'n Mynd?
Location: Remote | Start Date: 5/11/2021
Summary:
WAHWN is seeking to appoint an evaluator for its new How Ya Doing? Artist Well-being programme, funded by the Arts Council of Wales. How Ya Doing? November 2021 – May 2022.
Mae WAHWN yn dymuno penodi gwerthuswr i’w raglen Llesiant Artistiaid newydd, Sut Mae’n Mynd? a gyllidir gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Sut Mae’n Mynd? Tachwedd 2021 – Mai 2022.
Content:
Through How Ya Doing? WAHWN seeks to:-
- support the well-being and resilience of Wales-based freelance artists/practitioners to recover from the COVID-19 pandemic
- tackle the challenges and needs of freelance artists/practitioners through an iterative co-produced programme of workshops and activities in response to sector consultation around need, which may include creative reflective practice sessions, peer activity, supervision, workshops and creative activity
- evaluate the well-being benefits with our intended beneficiaries/collaborators with a view to securing longer term funding
Fee: £5000
Tender submission requirements:
Please provide a CV and a tender that includes the following information, in not more than 2,000 words:
Why you are interested in this contract and how your previous experience equips you to do this piece of work.
An outline of your approach to the evaluation.
An outline of timescales and key milestones in respect of the evaluation.
A summary of two similar evaluations which you have conducted.
Evidence of your skills, knowledge and experience in respect of an evaluation of this type.
Contact details for two individuals who can provide references for similar work.
Your completed tender and CV should be returned by email to Tracy Breathnach, How Ya Doing? Programme Manager programmes@wahwn.cymru by no later than Sunday 31st October 2021.
Please use How Ya Doing? in the email subject line.
Interviews will take place via Zoom on the morning of Wednesday 3 November.
Please email Tracy Breathnach at programmes@wahwn.cymru if you would like further information about this work.
How Ya Doing Evaluator Brief English
Drwy Sut Mae’n Mynd? nod WAHWN yw:-
- cefnogi llesiant a gwydnwch artistiaid/ymarferwyr llawrydd yng Nghymru i adfer ar ôl pandemig COVID-19
- mynd i’r afael â heriau ac anghenion artistiaid/ymarferwyr llawrydd drwy raglen iteraidd o weithdai a gweithgareddau a gyd-gynhyrchir mewn ymateb i ymgynghoriad â’r sector ynghylch angen, a allai gynnwys sesiynau ymarfer adfyfyriol, gweithgaredd cymheiriaid, goruchwylio, gweithdai a gweithgaredd creadigol
- gwerthuso’r buddion o ran llesiant gyda’n buddiolwyr/cydweithwyr arfaethedig gyda golwg ar sicrhau cyllid tymor hirach
Ffi: £5000
Gofynion cyflwyno tendr:
Anfonwch CV a thendr sy’n cynnwys yr wybodaeth ganlynol heb fod dros 2,000 o eiriau:
Pam fod gennych chi ddiddordeb yn y contract a sut mae eich profiad blaenorol yn eich cymhwyso i wneud y gwaith hwn.
Amlinelliad o’ch ymagwedd at y gwerthusiad.
Amlinelliad o amserlenni a cherrig milltir allweddol y gwerthusiad.
Crynodeb o ddau werthusiad tebyg rydych chi wedi’u cynnal.
Tystiolaeth o’ch sgiliau, gwybodaeth a phrofiad mewn perthynas â gwerthusiad o’r math hwn.
Manylion cyswllt dau unigolyn a all gynnig geirda am waith tebyg.
Dylech ddychwelyd eich tendr wedi’i gwblhau a CV drwy ebost i Tracy Breathnach, Rheolwr Rhaglen Sut Mae’n Mynd? programmes@wahwn.cymru erbyn 31 Hydref 2021.
Defnyddiwch Sut Mae’n Mynd? yn llinell testun yr ebost.
Cynhelir cyfweliadau dros Zoom 3 Tachwedd2021.
Ebostiwch Tracy Breathnach: programmes@wahwn.cymru os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y gwaith.
How Ya Doing Evaluator Brief Cymraeg