Opportunities & Events
Dylunydd a Gwneuthurwr-Propiau ar gyfer Prosiect Theatr Celfyddydau mewn Iechyd angen ar frys
Location: Gogledd Cymru | Start Date: Mis Rhagfyr
Summary:
Rydym yn chwilio am ddylunydd a gwneuthurwr propiau profiadol i weithio gyda dynion sy'n byw mewn uned ddiogel, i hwyluso ac ymgysylltu â nhw ar ddylunio theatr a gwneud propiau ar gyfer perfformio drama.
Content:
Crynodeb
Mae Celfyddydau a Meddyliau yn rhaglen 3 blynedd sy'n canolbwyntio ar iechyd meddwl drwy weithgareddau creadigol mewn Byrddau Iechyd dros Gymru gyfan. Yng Ngogledd Cymru, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn gweithio â chleifion a staff mewn uned iechyd meddwl i ddynion sy'n oedolion. Ar gyfer trydedd flwyddyn y prosiect, rydym yn defnyddio ysgrifennu creadigol, datblygu sgriptiau, ffilm, cerddoriaeth a dylunio i gynnal digwyddiad rhannu byw fel uchafbwynt i gyfnod ariannu'r prosiect. Rydym yn chwilio am ddylunydd a gwneuthurwr propiau profiadol i weithio gyda dynion sy'n byw mewn uned ddiogel, i hwyluso ac ymgysylltu â nhw ar ddylunio theatr a gwneud propiau ar gyfer perfformio drama. Rydym yn chwilio am rywun ar gyfer y rôl hon ar frys oherwydd absenoldeb hirdymor sy'n effeithio ar gyflawni’r prosiect.
Brîff y prosiect
Mae iechyd meddwl a llesiant meddyliol yn parhau i fod yn ganolbwynt ar draws y Bwrdd Iechyd a Chymru, gyda mwy o gyfeiriadau at wasanaethau iechyd meddwl yn cael eu gwneud yn genedlaethol. Mae llawer o dystiolaeth ynghylch y celfyddydau ac iechyd meddwl a'r celfyddydau mewn carchardai (gweler Ymchwil Celfyddydau Iechyd Cymru – HARP – a Chynghrair Celfyddydau Cyfiawnder Troseddol Cenedlaethol) sy'n dangos effeithiolrwydd gweithgareddau celfyddydol ar draws ystod o ffurfiau creadigol (e.e., celf, cerddoriaeth, theatr, ffilm, dawns, ffasiwn), i bobl yn y carchar, ar brawf ac yn y gymuned. Ariennir y prosiect gan Sefydliad Baring a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi ennill profiad a mewnwelediadau amhrisiadwy drwy’r rhaglen gelfyddydau yn uned diogelwch canolig fforensig, Tŷ Llewelyn. Mae hyn wedi'i lunio gan werthusiadau annibynnol, yn ogystal ag adborth gan staff, artistiaid a chleifion ac mae wedi cynnwys artistiaid preswyl rap a bîtbocsio, animeiddio, celf amgylcheddol, ffotograffiaeth, ysgrifennu creadigol, celf graffiti a chanu.
Ar gyfer trydedd flwyddyn y fenter hon, rydym yn edrych ymlaen at fynd i’r afael â phopeth rydym wedi'i ddysgu, a'i sianelu i gyfres o weithgareddau creadigol sy'n pontio gweithgareddau’r unedau eraill ac yn cyd-fynd â’i gilydd i ffurfio'r seilwaith ar gyfer rhannu byw cymunedol ar y cyd ar ddiwedd y drydedd flwyddyn. Datblygwyd syniad y prosiect hwn mewn partneriaeth â chleifion a staff yr uned, a gyda’n partneriaid i greu cynnig cyffrous ac ysgogol.
Rydym yn chwilio am ddylunydd theatr a gwneuthurwr propiau gyda sgiliau hwyluso. Unigolyn sy’n gallu gweithio’n hyderus mewn uned iechyd meddwl diogelwch canolig gyda chleifion a staff, i annog cyfranogiad yn y prosiect a'i weithgareddau, ymateb i ddiddordeb ac anghenion cleifion, a sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel sy'n cefnogi anghenion y dynion sy'n profi heriau amrywiol o ran eu hiechyd meddwl. Yn anad dim, cyflwyno digwyddiad dathlu byw fel uchafbwynt y prosiect. Bydd y dylunydd/ gwneuthurwr propiau yn ymgysylltu â chleifion a staff yn ystyrlon ac yn eu cynnwys ym mhob agwedd trwy ddull creu theatr - o ysgrifennu sgriptiau i gynhyrchydd llwyfan fel propiau a dylunio golygfeydd, a chyfarwyddo artistig. Bydd y prosiect hwn yn galluogi cyfranogwyr i adeiladu ar eu gwaith tîm a bydd yn fodd i gyfrannu at eu sgiliau, eu creadigrwydd a'u gweledigaeth. Byddant yn gallu mynd i’r afael â llu o weithgareddau celfyddydol, gan gynnwys cerddoriaeth, canu, celfyddydau gweledol, cynhyrchu a pherfformio. Bydd angen iddyn nhw weithio gydag ymarferwyr creadigol eraill sy'n ymwneud â'r prosiect i gydlynu profiad a dysg ar gyfer yr unigolion sy’n cymryd rhan.
Bwriad y rhannu yw dod â’r dysgu ynghyd o bob rhan o'r prosiect, a dathlu cyflawniadau'r dynion, gan godi cydnabyddiaeth o'u hymgysylltiad hyd yma, ac edrych yn ôl ar eu profiad ar draws y prosiect. Y gobaith yw y bydd gweithgareddau creadigol yn dod yn rhan annatod o'r lleoliad, ac felly, mae'r prosiect a'r arddangosfa yn allweddol fel ffordd o ddangos pa mor bwysig yw parhau â’r gweithgareddau yn y dyfodol.
Mae unedau diogelwch canolig yn darparu gofal a thriniaeth effeithiol, gan leihau risg. Maent yn hybu gwellhad ac yn cefnogi cleifion i symud trwy lwybr gofal i lefelau is o ddiogelwch neu er mwyn iddynt ailsefydlu eu hunain yn llwyddiannus yn y gymuned. Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio mewn amgylchedd diogel, gan gadw at y gweithdrefnau a’r protocolau i sicrhau amgylchedd clinigol sy’n ddiogel i bawb.
Bydd angen i’r unigolyn llwyddiannus gyfathrebu’n rheolaidd â staff o’r tîm Celfyddydau ac Iechyd yn ogystal ag aelodau staff o'r uned, er mwyn sicrhau bod arferion gorau yn cael eu dilyn. Bydd angen asesu risg y gweithgareddau a bydd angen i staff yr uned roi eu sêl bendith arnynt ymlaen llaw. Dim ond gyda chymeradwyaeth a gwiriadau ar waith y gellir dod ag unrhyw ddeunyddiau i'r safle.
Yn ystod ei amser yn yr uned, bydd gan y dylunydd/ gwneuthurwr propiau gwmni o leiaf un aelod o staff bob amser, a chaiff y staff sy'n bresennol ochr yn ochr â chleifion eu hannog i gymryd rhan er budd eu lles eu hunain. Sylwch, ni chaniateir ffonau symudol, allweddi nac eitemau personol. Mae loceri ar gael ar gyfer unrhyw eiddo personol. Bydd gan y dylunydd/ gwneuthurwr propiau gysylltiad rheolaidd â thîm y Celfyddydau mewn Iechyd ar gyfer unrhyw gymorth sydd ei angen.
Mae'r prosiect yn cael ei werthuso'n annibynnol, ac felly bydd gofyn i'r artist a ddewisir gyfrannu at y gwerthusiad fel rhan o'r prosiect.
Nodau’r prosiect
-Gweithio mewn partneriaeth i ddarparu prosiect celfyddydol llwyddiannus mewn uned diogelwch canolig
-Sicrhau ymgysylltiad celfyddydol o ansawdd uchel sy'n ymateb i anghenion a diddordebau cleifion
-Hyrwyddo lles, iechyd da ac adferiad drwy’r celfyddydau a chreadigrwydd
-Gwella ansawdd y gwasanaeth
-Ymgysylltu â staff a chleifion
-Defnyddio arfer celfyddydau cyfranogol a chymunedol lle nad yw'r gwaith celf yn therapi, ond gall fod yn therapiwtig, gan gefnogi penderfyniad ehangach ar gyfer iechyd a lles, yn hytrach nag ymyrraeth therapi benodol
Allbynnau disgwyliedig
-ymgysylltiad a phrofiadau datblygedig o'r celfyddydau trwy weithdai i gleifion mewn amrywiaeth o ffurfiau celfyddyd
-Profiad gwell i gleifion trwy feithrin hyder a chyfleoedd, cefnogi eu hwyliau a'u hiechyd, a chyflwyno sgiliau newydd
-Digwyddiad rhannu byw i'w gynnal o fewn yr uned ar gyfer gwesteion gwadd, gan gynnwys aelodau o'r teulu a staff. Pwrpas hyn yw dathlu uchafbwynt y prosiect, y sgiliau a’r dysgu sydd wedi digwydd dros y tair blynedd ddiwethaf.
-Codi hyder a gwybodaeth staff am werth y celfyddydau a chreadigrwydd
-Cefnogi datblygiad artistiaid drwy'r prosiect wrth geisio ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer gweithgareddau creadigol o fewn cyd-destunau iechyd meddwl a'r ffyrdd y gallwn annog a chefnogi artistiaid yn y lleoliad hwn.
Lleoliad
Ysbyty Bryn y Neuadd, Ffordd Aber, Llanfairfechan LL33 0HH
Cyfanswm y gyllideb/ffioedd
Mae'r gyllideb ar gyfer 12 diwrnod o waith rhwng mis Rhagfyr 2025 a mis Mawrth 2026, @£180 y dydd, i'w gytuno gyda'r ymgeisydd llwyddiannus (10 diwrnod o gyflwyno’r gwaith, 2 diwrnod ar gyfer ymweliad â'r safle a chyfarfod/ôl-drafodaeth). Dylai hyn gynnwys gweithdai, y perfformiad a sesiwn adrodd yn ôl. Fel arfer, cynhelir y sesiynau ar ddydd Gwener i fodloni anghenion clinigol ac anghenion eraill, gyda rhywfaint o opsiwn ar gyfer dydd Mawrth a dydd Iau. Dylai’r ymgeisydd ddarparu ei ffioedd gan gynnwys TAW, yr holl gostau teithio, treuliau a deunyddiau, y gwaith paratoi a chyfarfodydd/ymweliadau â’r safle. Noder, mae cyllideb fach ar gael (£1500) ar gyfer propiau a dylunio – yn amodol ar gymeradwyaeth.
Dylai’r artist ddarparu dadansoddiad clir o'i ffioedd yn ôl y gyfradd ddyddiol.
Sylwer efallai y bydd angen derbynebau arnom fel tystiolaeth o ddeunyddiau a brynwyd.
Dulliau/ffyrdd o drin a gofynion
Rydym yn awyddus i benodi artist gyda phrofiad mewn ysgrifennu creadigol, gwneud a hwyluso theatr. Dylai’r artist a benodir fod â phrofiad o weithio gyda phobl sy'n profi heriau iechyd meddwl, yn arbennig profiad sy'n berthnasol ar gyfer gweithio gyda chleifion mewn uned ddiogel. Bydd yr artist yn gweithio’n agos gyda staff yr uned, tîm y celfyddydau mewn iechyd, a phartneriaid/artistiaid celfyddydol eraill i ddarparu gweithgareddau celfyddydol/creadigol fel sydd wedi’u hamlinellu yn y brîff. Mae’n bosibl y bydd gofyn i’r artist gymryd rhan mewn gwerthusiad, ymarfer ystyriol, hyfforddiant neu ddatblygiad arall fel y cynghorir ym mrîff y prosiect.
Diogelu data a chyfrinachedd
Bydd y prosiect yn cydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau perthnasol BIPBC.
Er mwyn sicrhau diogelwch holl gyfranogwyr a phartneriaid y prosiect gan gynnwys yr ymgeisydd, efallai y bydd gofyn i'r artist gytuno i gytundeb diogelu data a chyfrinachedd. At ddiben y prosiect, a phe bai’r dylunydd/ gwneuthurwr propiau yn cydsynio, mae’n bosibl y gofynnir iddynt lofnodi ffurflen(ni) caniatâd i dynnu lluniau neu recordio ar fideo. Bydd y dylunydd/ gwneuthurwr propiau yn rhoi sicrwydd i dîm y prosiect bod y safonau ansawdd uchaf ar gyfer y dulliau a ddefnyddir yn cael eu bodloni, gan gynnwys unrhyw nodau allweddol a gyflawnir. O bryd i’w gilydd gall y tîm ofyn i’r dylunydd/ gwneuthurwr propiau ddiwygio neu archwilio dulliau eraill i’w trafod o fewn cylch gorchwyl y prosiect.
Asesiad risg
Mae’n bosibl y bydd gofyn i artistiaid ddarparu asesiad risg ar gyfer unrhyw weithgaredd a wneir gan gynnwys deunyddiau a ddefnyddir a/neu gellir gofyn iddynt gyfrannu at asesiad risg tîm neu wasanaeth ar gyfer y gweithgareddau. Mae’n bosibl y bydd angen i’r ymgeisydd addasu’r deunyddiau a ddefnyddir neu’r gweithgareddau, yn dibynnu ar y grŵp o gyfranogwyr a/neu’r lleoliad ac efallai y bydd angen iddynt gydymffurfio â phrotocolau lleol (e.e. rheoli heintiau, meddyginiaeth neu ofynion meddygol eraill).
Disgwyliadau
· 10 diwrnod o waith y dylid eu teilwra i'r cyfranogwyr, lleoliad a gofynion y prosiect
· 2 diwrnod ar gyfer ymweliad â'r safle a chyfarfodydd/ôl-drafodaeth
· Darparu gweithgareddau gan ddefnyddio dylunio theatr a gwneud propiau i ddatblygu gwaith sgript a wnaed yn flaenorol gan gyfranogwyr ac ymgorffori sgiliau o sesiynau eraill i ddatblygu a gwella profiad y cyfranogwr
· Darparu gweithgareddau sy'n meithrin hyder cyfranogwyr yn ystyrlon, yn gwella eu hwyliau, ac yn rhoi cyfle iddynt ddysgu sgiliau newydd. Yn ogystal â datblygu gwybodaeth artistig, a darparu mwynhad a datblygiad mewn celfyddydau a chreadigrwydd
· Gweithio tuag at ddigwyddiad rhannu byw sy'n cyfoethogi profiad y cyfranogwr gyda'r prosiect hyd yma
Annog ymgysylltiad staff a chleifion
Darparu gwybodaeth amserol a diweddariadau ar y gweithgareddau fydd yn cael eu cynnal i dîm y prosiect a thrafod unrhyw newidiadau
Llinell amser y prosiect
Ceir llinell amser ar gyfer y broses ymgeisio ac amserlen prosiect arfaethedig isod
Amserlen y cais a’r prosiect:
Carreg filltir
Dyddiad
Rhannu’r galwad agored
12/11/25
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynigion
26/11/25 am 5 pm GMT
Llunio rhestr fer a phenderfynu
27-28/11/25
Contractio
1/12/25
Cyflawni’r prosiect gan gynnwys ymweliadau safle ac unrhyw hyfforddiant neu werthusiad gofynnol
01/12/25 (yn amodol ar gytundeb ar gyfer dyddiadau ac wythnosau penodol)
gweithdai Rhagfyr 2025- Mawrth 2026
arddangosfa 27 Mawrth 2026 (i’w gadarnhau)
Cymhwysedd
Mae hon yn alwad agored i artistiaid sy'n gallu bodloni brîff y prosiect, yr hyn sydd i’w gyflawni, a'r amserlen. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon.
Mae’r gallu i weithio mewn lleoliad diogelwch canolig yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Gofynnir i’r artist ddarparu tystiolaeth o’i statws DBS ac yswiriant atebolrwydd cyhoeddus.
Sut i wneud cais
· Anfonwch eich datganiad o ddiddordeb i: BCU.ArtsInHealth@wales.nhs.uk cyn 5pm GMT ar 26/11/25
Byddwch yn cael gwybod am ganlyniad eich cais erbyn y dyddiad yn y llinell amser uchod
Rydym yn rhagweld y bydd y prosiect yn dechrau fel y nodir yn y llinell amser uchod
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r alwad agored, cysylltwch â ni drwy e-bost: BCU.ArtsInHealth@wales.nhs.uk Bydd tîm Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC yn ymdrechu i ymateb i'r ymholiadau hyn o fewn 3-4 diwrnod gwaith.
Dylai eich Datganiad o Ddiddordeb gynnwys:
· Datganiad byr yn nodi pam fod gennych ddiddordeb yn y cyfle hwn (500 gair ar y mwyaf), a'ch dulliau gweithredu cychwynnol
· 2 enghraifft o waith perthnasol yn y maes hwn, gallwch gynnwys dolenni i enghreifftiau ar-lein
· 2 argymhelliad (gallai hyn gynnwys dyfyniad byr neu fanylion cyswllt ond dylai ddatgan yn glir y gydberthynas rhyngoch chi a’r sawl sy’n eich cymeradwyo a’u gwybodaeth am eich gwaith chi)
· Dyfynbris ar bapur pennawd yn rhoi gwybod am eich costau
- Dylai’r uchod gynnwys cyfanswm o bedair tudalen ar y mwyaf neu ddewis cyfatebol arall ar ffurf sain/fideo
Dewisol:
· Eich CV
Asesu ceisiadau
Bydd eich cais yn cael ei asesu gan dîm partneriaeth y prosiect. Asesir cryfder y ceisiadau yn ôl y meini prawf isod:
Y cais – cwrdd â brîff y prosiect
· Pa mor dda mae'r cais yn ateb y brîff
· Pa mor dda mae'r cais yn cyfleu'r gallu i gyflawni'r holl ofynion a chyflawniadau
Cyllideb
· Dichonoldeb yn seiliedig ar y gyllideb a gyflwynwyd (os oes angen)
· Gwerth am arian
Tîm y prosiect
· Gallu’r artist i roi sicrwydd ynghylch eu sefydlogrwydd a'u hyfywedd trwy gydol y prosiect
· Gallu'r artist i ddangos ei allu i weithio mewn partneriaeth ac i weithio gyda chyfranogwyr sy'n profi ystod o heriau iechyd meddwl a heriau iechyd eraill sy'n effeithio ar eu hiechyd meddwl a'u lles
Diogelu Data a Chydymffurfiaeth Risg
· Gallu'r artist i sicrhau cydymffurfiaeth data a chyfrinachedd
· Gallu'r artist i sicrhau prosesau asesu risg priodol
Arweiniad pellach
Mae tîm y prosiect yn cadw’r hawl, gan weithredu’n rhesymol, i:
· Terfynu’r broses ddyfarnu os na cheir ceisiadau priodol;
· Newid yr amserlen ar gyfer caffael y Contract, ac mewn amgylchiadau o'r fath bydd Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC yn hysbysu pob ymgeisydd o unrhyw newid yn y modd cyflymaf posibl;
· Terfynu trafodaethau gydag artistiaid sy'n ymgeisio;
· Terfynu'r drefn sy'n arwain at ddyfarnu'r Contract;
· Peidio â dyfarnu unrhyw Gontract o gwbl o ganlyniad i'r broses hon
Ni fydd Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC o dan unrhyw amgylchiadau yn atebol mewn unrhyw fodd o ran unrhyw un o'r gweithredoedd hyn.
Ni chaniateir unrhyw gyhoeddusrwydd ynglŷn â'r prosiect hyd nes y bydd Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig penodol i hynny ddigwydd. Ni ellir gwneud unrhyw ddatganiadau i unrhyw ran o’r cyfryngau ynglŷn â natur y cais hwn, ei gynnwys nac unrhyw gynigion, sy’n ymwneud â’r cais, heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan bartneriaid y prosiect.
Ni fydd Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC yn ad-dalu unrhyw gostau yr eir iddynt gan artistiaid wrth baratoi eu ceisiadau.
Os nad ydych yn sicr o ystyr cwestiwn neu unrhyw beth yn y gwahoddiad hwn i dendro yna cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw gofyn i Gelfyddydau mewn Iechyd BIPBC i egluro yn ysgrifenedig drwy e-bost.
Bydd BIPBC yn ymdrechu i ymateb i unrhyw ymholiadau o fewn 3-4 diwrnod gwaith. Gall Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC hefyd wrthod ateb cwestiwn os yw'n ystyried bod y cwestiwn yn amhriodol. Os na fydd Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC yn gallu ateb cwestiwn, bydd hyn yn cael ei gyfleu.
· Mae Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC yn croesawu gofynion penodol ar gyfer cefnogi mynediad artistiaid i ymgymryd â chyflogaeth yn unol â chylch gorchwyl y prosiect a bydd yn cynnig cefnogaeth a goruchwyliaeth berthnasol fel sy'n briodol i'r prosiect.
*diwedd y ddogfen*
