Opportunities & Events
Dweud eich dweud - Diogelu, hyrwyddo a hybu diwylliant ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru
Location: Ar-lein
Summary:
Caiff ei gydnabod yn gynyddol bod angen gwneud mwy i gefnogi diwylliant yng Nghymru, yn unol â chanfyddiadau diweddar Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol 2025 a galwadau am Fil Diwylliant, mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol wedi gofyn i The Audience Agency ymchwilio i opsiynau ar gyfer diogelu, hyrwyddo a hybu diwylliant ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Dweud eich dweud!
Content:
Caiff ei gydnabod yn gynyddol bod angen gwneud mwy i gefnogi diwylliant yng Nghymru, yn unol â chanfyddiadau diweddar Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol 2025 a galwadau am Fil Diwylliant, mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol wedi gofyn i The Audience Agency ymchwilio i opsiynau ar gyfer diogelu, hyrwyddo a hybu diwylliant ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Nod y gwaith hwn yw archwilio rôl cyrff cyhoeddus i wneud newid cadarnhaol, nodi'r risgiau o beidio â gweithredu, ac ail-ddehongli egwyddorion a mecanweithiau hawliau diwylliannol a pholisi cyhoeddus unigol a chyfunol yng Nghymru yn y dyfodol.
Rydym eisiau clywed gan amrywiaeth o bobl sydd â diddordeb yn y dyfodol hwnnw... P'un ai ydych chi'n ystyried eich hun fel rhywun sy'n ymwneud â 'diwylliant' - ai peidio. P'un ai ydych chi'n gweithio'n broffesiynol gyda chreadigrwydd neu ddiwylliant - ai peidio. P'un ai oes gennych rôl mewn corff cyhoeddus neu'n darparu gwasanaethau cyhoeddus - ai peidio.
Mae croeso i bob barn ac rydym yn gwerthfawrogi'n fawr eich bod yn neilltuo amser i gyfrannu. Y dyddiad cau ar gyfer cyfraniadau yw dydd Gwener 31 Hydref.
Dewch eich dweud yma.
