Opportunities & Events
DEEP: Gwneud penderfyniadau ar y cyd
Location: Arlein | Start Date: 13 Mis Rhagfyr
Summary:
Mae 24 o leoedd ar gael yn y sesiwn hon. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin gaiff falu.
Content:
Gwneud penderfyniadau ar y cyd
13 Ionawr 09.30-12.30 (ar-lein) Am ddim
Mae 24 o leoedd ar gael yn y sesiwn hon. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin gaiff falu.
Beth yw DEEP?
Mae DEEP yn ddull cydgynhyrchu o gasglu, archwilio, a defnyddio mathau amrywiol o dystiolaeth mewn dysgu a datblygu gan ddefnyddio dulliau stori a deialog.
Her cydgynhyrchu
Er bod cydgynhyrchu’n cael ei hyrwyddo’n eang, gall ei wneud yn realiti fod yn heriol. Rydyn ni i gyd yn gweld y byd yn wahanol a gall dod â phobl â bwriadau da at ei gilydd i siarad yn y pen draw adael pawb yn rhwystredig os nad yw'r sgyrsiau'n mynd yn dda.
Mae gwneud penderfyniadau consensws yn ddull o wneud penderfyniad ar y cyd.
Mae gwneud penderfyniadau consensws yn ceisio dod o hyd i gamau gweithredu a/neu atebion y mae pawb yn eu cefnogi neu o leiaf yn gallu byw gyda nhw. Gall hwn fod yn ddull delfrydol ar gyfer penderfynu ar y cyd sut y bydd tystiolaeth yn cael ei defnyddio yn ymarferol neu a ddylid cyflwyno arloesedd. Gall manteision y dull hwn gynnwys meithrin perthnasoedd, cefnogi deialog barchus, a dod i benderfyniadau gwell.
Y sesiwn
Bydd y sesiwn hon yn archwilio lle mae gwneud penderfyniadau consensws yn ffitio yn y prosesau ehangach o ymchwil, datblygu ymarfer ac arloesi. Bydd yn ymdrin â beth yw penderfyniadau consensws a sut i wneud hynny. Byddwn yn ceisio cynnig ymdeimlad o sut beth yw bod yn rhan o'r broses. Mae'r sesiwn hefyd yn gyfle i archwilio atebion ar gyfer heriau cyffredin wrth geisio penderfyniadau ar y cyd.
Pwy allai elwa o'r sesiwn?
Bydd y sesiwn o fudd i unrhyw un sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol sydd â diddordeb mewn cydgynhyrchu neu sy'n ceisio gwneud penderfyniadau ar y cyd. Bydd hefyd o ddiddordeb i hyfforddwyr, arweinwyr tîm, ac arweinwyr polisi sydd am helpu pobl i gymryd rhan mewn dulliau cydgynhyrchu.
Rhagor o wybodaeth am y sesiwn.
Os hoffech wybod mwy am y sesiwn, cysylltwch â Gill Toms ar: g.toms@bangor.ac.uk
Os hoffech gael copi o'r sleidiau cyn y sesiwn i gynorthwyo gyda chymryd nodiadau, cysylltwch â Gill Toms yn: g.toms@bangor.ac.uk
Drwy lenwi’r ffurflen hon, rydych yn cadarnhau eich bod yn ymwybodol o’n hysbysiad preifatrwydd: https://gofalcymdeithasol.cymru/hysbysiad-preifatrwydd
