Opportunities & Events

Cynefin 3 – Sut gall y celfyddydau gyfrannu at Atal Afiechyd?

Location: Digwyddiad Wyneb yn Wyneb YMCA New Plaza, Port Talbot | Start Date: Dydd Iau 24 Medi, 10am – 3pm

Summary:

Bydd y digwyddiad Cynefin wyneb yn wyneb hwn yn canolbwyntio ar gyfraniad y celfyddydau a chreadigrwydd i atal afiechyd. Gan ddod ag ymarferwyr, llunwyr polisi a sefydliadau cymunedol ynghyd, byddwn yn edrych ar y dystiolaeth, arferion a chyfleoedd ar gyfer gwreiddio dulliau celfyddydol mewn agendâu atal ac iechyd cyhoeddus yng Nghymru.

Archebwch eich lle yma.

Content:

Digwyddiad Wyneb yn Wyneb

YMCA New Plaza, Port Talbot

Dydd Iau 24 Medi, 10am – 3pm

 

Bydd y digwyddiad Cynefin wyneb yn wyneb hwn yn canolbwyntio ar gyfraniad y celfyddydau a chreadigrwydd i atal afiechyd. Gan ddod ag ymarferwyr, llunwyr polisi a sefydliadau cymunedol ynghyd, byddwn yn edrych ar y dystiolaeth, arferion a chyfleoedd ar gyfer gwreiddio dulliau celfyddydol mewn agendâu atal ac iechyd cyhoeddus yng Nghymru.

Cyhoeddir y rhaglen lawn yn fuan.

 

Cynefin – Rhwydwaith Polisi Co-Lab

Hon yw’r sesiwn gyntaf mewn cyfres o bedair trafodaeth yn edrych ar sut y gallai gwreiddio’r celfyddydau a diwylliant fel gwasanaeth cyhoeddus rheng flaen arwain at newid mawr yn iechyd y boblogaeth yng Nghymru.

Mae’r sesiynau hyn yn rhan o Cynefin, rhaglen aml-bartner a gyflwynir ar y cyd gan Iechyd Cyhoeddus CymruCyngor Celfyddydau CymruSwyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a WAHWN. Y nod yw creu lle ar gyfer meddwl o’r newydd a chyfnewid syniadau ar y celfyddydau ac iechyd.

Gyda’n gilydd byddwn yn clywed y dystiolaeth, yn rhannu dysgu ac yn gwrando ar leisiau sydd â phrofiad byw er mwyn helpu i lunio argymhellion polisi ymarferol.

Caiff rhestr lawn o gyfranwyr i’r weminar ei chadarnhau dros yr wythnosau nesaf.

 

Cyllidir Cynefin drwy Ddyfarniad Rhwydwaith Polisi Co-Lab Cymunedau Creadigol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau UK Research and Innovation.

 

Archebwch eich lle yma.

Search