Opportunities & Events

Cyfle C&B Cymru

Location: Llandudno | Start Date: Gwanwyn 2026

Summary:

Mae'n bleser gan C&B Cymru eich gwahodd i gyflwyno cynnig i ddyfeisio a chyflwyno prosiect ar gyfer un o'i aelodau busnes.

Content:

Mae Cartrefi Conwy yn dymuno comisiynu prosiect theatr newydd a fydd yn annog plant a’u teuluoedd i ddod yn fwy ymwybodol am beryglon gollwng sbwriel a tipio anghyfreithlon. Bydd y prosiect yn cael ei gyflwyno ar gyfer tri ysgol (2 Cynradd ac 1 Uwchradd) sy’n agos at Ystad Tre Cwm, Llandudno. Y peryglon allweddol i'w hamlygu yw:

· Risgiau Iechyd – lledaenu afiechydon a dod i gysylltiad a gwastraff peryglus.

· Peryglon Diogelwch – yn achosi anafiadau ac yn rhwystro ffyrdd neu lwybrau.

· Niwed Amgylcheddol – yn llygru’r ddaear a niweidio bywyd gwyllt.

· Effaith Gymunedol – creu llanast hyll, yn annog mwy o droseddau ac yn lleihau balchder cymunedol.

· Iechyd Meddwl – yn achosi straen, pryder ac yn lleihau teimlad o ddiogelwch a lles, yn enwedig i blant.

Bydd y sefydliad celf llwyddiannus yn cydweithio â sefydliadau fel yr Heddlu i greu prosiect sydd yn cyrraedd yr amcanion allweddol canlynol ar gyfer Cartrefi Conwy:

· Atgyfnerthu pobl rhag cymryd rhan mewn tipio anghyfreithlon ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

· Annog ailgylchu gwyrdd a taflu gwastraff yn gyfrifol.

· Creu amgylchedd cadarnhaol, glân i bawb ei fwynhau.

· Ysbrydoli pobl ifanc i fod â balchder, parch ac i gymeryd perchnogaeth yn eu cymuned.

Mae'n rhaid i’r prosiect fod yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg). Mae Cartrefi Conwy yn awyddus i archwilio ffyrdd o greu etifeddiaeth ddigidol, megis ffilm fer neu adnodd digidol sy'n ymestyn yr effaith tu hwnt i'r prosiect. Gallai hefyd gynnwys gweithgaredd dilynol flwyddyn yn ddiweddarach i adael i blant adlewyrchu ar yr hyn sydd wedi newid, beth maen nhw wedi sylwi arno a sut mae'n eu gwneud iddynt deimlo.

Dylai'r gweithgareddau gael eu cynnal yn Gwanwyn 2026. Mae Cartrefi Conwy wedi dyrannu cyllideb o £8,000 a byddai disgwyl i'r partner celfyddydol wneud cais i CultureStep C&B Cymru am hyd at £4,000 arall i gryfhau ac ymestyn y bartneriaeth. Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflwyno cynnig, cwblhewch y ffurflen isod a'i ddychwelyd i contactus@aandbcymru.org.uk erbyn 24 o Fedi 2025 fan bellaf. 

Cyfle%20Comisiwn%20Cartrefi%20Conwy (1) 

Search