Opportunities & Events
Cyfarwyddwr Theatr Small World
Location: Aberteifi, Gorllewin Cymru | Start Date: Gwneud cais erbyn 17/6/26 – 5pm
Summary:
Mae hwn yn gyfle cyffrous ac unigryw i arwain theatr a lleoliad celfyddydau creadigol arloesol sydd wedi’i wreiddio yn ei chymuned yng Ngorllewin Cymru. Byddwch yn gyfrifol am oruchwylio dylunio a chyflwyno ei rhaglen gyfoethog, gyda chefnogaeth tîm profiadol o staff a Bwrdd Ymddiriedolwyr ymroddedig.
Content:
Lleoliad: Theatr Small World, Aberteifi, Gorllewin Cymru
Cyflog: £35,000 – £40,000 y flwyddyn
Oriau: 37.5 awr yr wythnos, amser llawn
Math o gontract: Parhaol
Gwnewch gais erbyn 17/6/26 – 5pm
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir.
Mae Theatr Small World (SWT) yn gwmni theatr perfformio a sefydliad celfyddydau cymunedol wedi’i leoli mewn adeilad bron sero-garbon yng nghanol Aberteifi, Gorllewin Cymru. Mae gan SWT dreftadaeth gyfoethog mewn cynhyrchu a pherfformio theatr bypedau ar raddfa fawr, cyflwyno prosiectau celfyddydau cymunedol arloesol a digwyddiadau cyfranogol llawn llawenydd. Rydym yn falch o fod yn sefydliad a ariennir am sawl blwyddyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ac yn gweithio gydag artistiaid, crefftwyr, partneriaid a chymunedau ar brosiectau sydd wedi’u gwreiddio mewn cyfiawnder amgylcheddol a chymdeithasol, treftadaeth a’r Gymraeg. O’n lleoliad rydym yn rhedeg Syrcas Byd Bach (ysgol syrcas awyr), ac Amethyst (rhaglen iechyd meddwl ieuenctid); rydym yn cynhyrchu theatr, gorymdeithiau a phypedwaith, yn cyflwyno comisiynau artistig ac yn curadu rhaglen o ddigwyddiadau byw. Mae Theatr Small World yn gwmni cyfyngedig trwy warant ac yn elusen gofrestredig.
Mae SWT wedi cael ei meithrin a’i rhedeg yn ofalus gan y ddau sylfaenydd a thîm profiadol, gyda chefnogaeth Bwrdd yr Ymddiriedolwyr. Bydd y sylfaenwyr yn symud i ffwrdd o redeg y sefydliad i ganolbwyntio ar brosiectau creadigol, gyda’r Cyfarwyddwr newydd yn cymryd yr awenau. Bydd y sylfaenwyr yn hapus i fentora’r ymgeisydd llwyddiannus yn ystod cyfnod trosiannol. Rydym yn gyffrous i groesawu Cyfarwyddwr sydd â’r egni a’r angerdd i ddatblygu a chyflwyno rhaglen greadigol uchelgeisiol, wedi’i gwreiddio yng ngwerthoedd Theatr Small World.
Mwy wybodaeth yma.
