Opportunities & Events
Cyfarfod Rhwydwaith WAHWN Mis Gorffenaf 2026
Location: Arlein | Start Date: Dydd Iau 23 Mis Gorffenaf
Summary:
Ymunwch â ni ar gyfer ein Cyfarfod Rhwydwaith ym mis Gorffennaf sy'n archwilio prosiectau Cymraeg sy'n cefnogi galar a salwch cronig.

Content:
Dydd Iau 23ain Gorffennaf
10am – 11.30am
Ymunwch â ni yn ein Cyfarfod Rhwydwaith ar gyfer mis Gorffennaf, pan fyddwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd mynediad at ymyriadau yn y Gymraeg, yn dysgu am Gonsortiwm y Gymraeg ac yn bwrw golwg ar ddau brosiect gwych sy’n rhoi lle canolog i’r Gymraeg.
Ein cyfranwyr yw:-
Iola Ynyr – aelod o Gonsortiwm y Gymraeg Cyngor Celfyddydau Cymru a hwylusydd creadigol, mae’n angerddol am hyrwyddo llesiant unigolion a chymunedau drwy greadigrwydd a thrwy gysylltu â'r byd naturiol. Sefydlwyd y Consortiwm gan Ysgogydd y Gymraeg Cyngor Celfyddydau Cymru yn 2022 i archwilio a llywio strategaethau creadigol a fyddai’n cyfrannu at gynnydd mewn defnydd a pherchnogaeth iaith ar draws sector y celfyddydau. Mae’r Consortiwm yn gweithio'n greadigol, yn agored, ac yn arbrofol i gynnig syniadau ac arbenigedd i Gyngor Celfyddydau Cymru fel rhan o’r gwaith o gyflawni cynlluniau’r Gymraeg a’r Celfyddydau 2024-34.
Bydd Manon Gwynant a Buddug Roberts yn rhannu Troedio Tonnau – prosiect i bobl ifanc sy’n archwilio galar drwy ymarfer creadigol. Bydd Mared Huws o Blas, Pontio, yn ymuno â’r cyfarfod hefyd i rannu crynodeb o brosiect Blas, Pontio yn ehangach.
Bydd Mared Roberts, Llenyddiaeth Cymru yn sôn am Fenywod Cronig – prosiect sy’n dathlu artistiaid a beirdd benywaidd sy’n siarad Cymraeg ac yn byw gyda salwch cronig drwy ysgrifennu creadigol a barddoniaeth.
