Opportunities & Events

Cronfa Cyfleoedd Rhyngwladol, Cyngor Celfyddydau Cymru

Summary:

Mae’r Gronfa’n cefnogi prif flaenoriaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, sef ‘meithrin potensial artistig, creadigol a diwylliannol rhyngwladol Cymru mewn ffordd sy’n deg i bobl ac i’r blaned’.

Mwy o wybodaeth yma

Content:

Drwy weithgaredd wyneb yn wyneb sy’n digwydd y tu allan i Gymru a’r DU, mae’r Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol yn ceisio cynnal a chyfoethogi ymarfer artistig yng Nghymru er mwyn:

  • galluogi datblygiad cynaliadwy perthnasoedd, cydweithio a rhwydweithiau rhwng artistiaid a sefydliadau celfyddydol Cymru a’u partneriaid rhyngwladol
  • cefnogi cyfleoedd i rannu profiadau a sgiliau drwy’r celfyddydau mewn cyd-destun rhyngwladol ac mewn ffordd deg a chynaliadwy
  • meithrin cydweithio rhyngwladol ystyrlon, sydd o fudd i’r ddwy ochr, sy’n archwilio ffyrdd newydd o gydweithio, ac sy’n ymateb yn fwyaf arbennig i faterion cynwysoldeb, cydweithio teg a chyfiawnder hinsawdd.

Gallwn dderbyn cais unrhyw bryd tra mae’r gronfa ar agor i’r ceisiadau sy’n ymwneud â’r gweithgaredd a ganlyn:

  • Cydweithredu rhyngwladol a datblygu partneriaeth
  • Rhwydweithiau a digwyddiadau rhyngwladol
  • Cyflwyno gwaith yn rhyngwladol

Rhaid i chi ganiatau o leiaf 10 wythnos rhwng cyflwyno cais a dyddiad cychwyn eich prosiect neu ymweliad. 

Mwy o wybodaeth yma

Search