Opportunities & Events

COMMUNITY PRODUCTION WELLBEING FACILITATOR / HWYLUSYDD LLES CYNHYRCHIAD CYMUNEDOL

Location: Sherman Theatre, Cardiff | Start Date: Mid July

Summary:

We require a Wellbeing Facilitator to deliver a programme of workshops and act as support to our community participants during July and August. Rydym yn chwilio am Hwylusydd Lles i gyflwyno rhaglen o weithdai a chynnig cymorth i’n cyfranogwyr cymunedol yn ystod Gorffennaf ac Awst.

Content:

We require a skilled Wellbeing Facilitator to deliver a programme of workshops and act as an additional support to our community participants during July and August. Ideally, the workshops will cover a range of strategies and exercises to promote wellbeing amongst our community cast and help to prepare them for performance. The Wellbeing Facilitator will also be on hand during the final rehearsals, w/c August 14th, and the performance days, to provide additional support to anyone involved with the production who would benefit. You might have a therapeutic arts background, work specifically in wellbeing, or be a theatre practitioner who has developed the additional skills required for this role. The actual programme and approach will be discussed and devised with the successful candidate. This role will involve working with children and vulnerable adults and therefore applicants will need to provide evidence of a recent DBS Certificate. We are looking to add to the diversity of our workforce and would therefore particularly welcome applications from communities who are currently under-represented in our team. Our building is accessible both Front of House and backstage. For Welsh or English application packs, please visit www.shermantheatre.co.uk/jobs. Sherman Theatre is funded by Arts Council of Wales. We are committed to Equal Opportunities and a Registered Charity. Rydym yn chwilio am Hwylusydd Lles medrus i gyflwyno rhaglen o weithdai a chynnig cymorth ychwanegol i’n cyfranogwyr cymunedol yn ystod Gorffennaf ac Awst. Yn ddelfrydol, bydd y gweithdai yn ymdrin ag ystod o strategaethau ac ymarferion i hyrwyddo lles ymhlith ein cast cymunedol a helpu i'w paratoi ar gyfer perfformio. Bydd yr Hwylusydd Lles hefyd wrth law yn ystod yr ymarferion terfynol, ar yr wythnos sy’n dechrau ar Awst 14eg, a’r diwrnodau perfformio, i roi cymorth ychwanegol i unrhyw un sy’n ymwneud â’r cynhyrchiad a fyddai’n elwa o’r gefnogaeth. Efallai bod gennych chi gefndir mewn therapi celfyddydol, yn gweithio’n benodol ym maes lles, neu’n ymarferydd theatr sydd wedi datblygu’r sgiliau ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer y rôl hon. Bydd y rhaglen a'r dull o weithredu yn cael eu trafod a'u dyfeisio gyda'r ymgeisydd llwyddiannus. Bydd y rôl hon yn cynnwys gweithio gyda phlant ac oedolion bregus ac felly bydd angen i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o Dystysgrif DBS diweddar. Rydym am ychwanegu at amrywiaeth ein gweithlu ac felly byddem yn croesawu’n arbennig geisiadau gan gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein tîm ar hyn o bryd. Mae ein hadeilad yn hygyrch ym Mlaen y Tŷ a chefn llwyfan. I gael pecyn cais Cymraeg neu Saesneg, ewch i www.shermantheatre.co.uk/swyddi. Ariennir Theatr y Sherman gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydym yn ymroddedig i Gyfleoedd Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig.

Search