Opportunities & Events

Cami I Mewn Rheolwr Rhaglen Llawrydd

Location: Cymru | Start Date: Dyddiad Cau: 12 Mis Ionawr

Summary:

Mae WAHWN yn chwilio am Reolwr Rhaglen llawrydd rhagorol yng Nghymru sydd â phrofiad o oruchwylio a chyflenwi prosiectau aml-bartner, hyfforddiant neu raglenni mentora. 

Dyddiad Cau: Hanner dydd, Dydd Llun 12 Ionawr 2026  

Content:

Camu i Mewn  

Rhaglen hyfforddi a mentora i garfan o 8 o fentoreion yw 'Camu i Mewn', a gyllidir gan Loteri Celfyddydau, Iechyd a Llesiant Cyngor Celfyddydau Cymru, a’i chyflwyno mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Fran Wen, Pontio, Theatr Cymru a Denbighshire Leisure Ltd.     

Cynlluniwyd Camu i Mewn mewn ymateb i’r diffyg ymarferwyr Cymraeg eu hiaith a rhai sydd â nodweddion gwarchodedig yng ngweithlu’r celfyddydau ac iechyd creadigol. Y  nod yw meithrin carfan o ymarferwyr i gyflwyno prosiectau mewn lleoliadau gofal iechyd a chymunedol sy’n rhannu profiad byw pobl o gymunedau Cymraeg eu hiaith a lleiafrifiedig.

 

Y Rôl

Mae WAHWN yn chwilio am unigolyn sy’n dod ag arbenigedd ac a all weithio’n gyflym i gefnogi cyflwyno, olrhain ac adrodd effeithiol ar draws rhaglen Camu i Mewn ac sy’n gallu rheoli perthnasoedd gyda phartneriaid ac ymarferwyr-fentoreion niferus. Bydd y rôl yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid prosiect, hyfforddwyr ac ymarferwyr allanol , mentoriaid, ymarferwyr-fentoreion, gwerthuswr prosiect a thîm WAHWN i gyflenwi’r prosiect, gan gynnwys cyflwyno ac adrodd ar y prosiect o’r dechrau i’r diwedd.

Rôl: Rheolwr Rhaglen, contract tymor penodol Chwefror – Rhagfyr 2026.

Atebol i: Prif Swyddog Gweithredol WAHWN, Angela Rogers  

Lleoliad: Cymru. Disgwylir cyfuniad o waith o bell ac wyneb yn wyneb.  

Ffi: £9000 (yn cynnwys TAW) yn seiliedig ar 36 diwrnod @ £250 y diwrnod

Costau Mynediad: Mae WAHWN yn annog y gweithlu i ddisgrifio eu gofynion mynediad mewn atodiad mynediad a bydd yn ceisio bodloni anghenion a nodir drwy drafodaeth.

Dyddiad Cau: Hanner dydd, Dydd Llun 12 Ionawr 2026.

Cyfweliadau: w.y.d. 19 Ionawr 2026 (dros Zoom)  

 

Sut i Ymgeisio

Mae WAHWN yn credu mewn sector sy’n gweithio i bawb ac yn ymrwymo i ehangu mynediad i’r gweithlu yn sector y celfyddydau ac iechyd.

Oni bai ein bod wedi cytuno ar fformat ymgeisio arall gyda chi, plis:

  • Ebostiwch CV a llythyr eglurhaol (dim  mwy na 2 dudalen) yn amlinellu eich profiad a’ch sgiliau yn erbyn y rheini.
  • Amlinellir yn y canllawiau hyn, a nodi dau ganolwr.
  • Hoffem ofyn i chi hefyd gwblhau’r ffurflen monitro amrywiaeth a chydraddoldeb.

Ebostiwch i info@wahwn.cymru a defnyddiwch y llinell pwnc RHEOLWR RHAGLEN CAMU I MEWN.

 

Lawrlwythwch y Briff Yma - Word

Lawrlwythwch y Briff Yma - PDF

 

Os hoffech drafod y rôl neu'r cais, cysylltwch ag Angela - info@wahwn.cymru

Search