Opportunities & Events

Bwrsiaethau Ewch i Weld ar gyfer Ymarferwyr Celfyddydau, Iechyd a Llesiant 2025-26

Location: Cymru | Start Date: Ar Agor Nawr

Summary:

Mae’n bleser gan WAHWN allu cynnig nifer fach o fwrsariaethau er mwyn i artistiaid a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y Celfyddydau, Iechyd a Lles gael ‘Mynd i Weld’ prosiectau eraill, mannau o ddiddordeb, cyfarfod â phartneriaid a chydweithwyr newydd, cefnogi costau hyfforddiant, mynychu cynadleddau neu wyliau celfyddydau ac iechyd. Yn y rownd hon, bydd canran o’r bwrsariaethau’n cael eu neilltuo ar gyfer ymarferwyr y Gymraeg, mwyafrif byd-eang ac ymarferwyr Byddar/Anabledd, sydd wedi’u tangynrychioli mewn ceisiadau hyd yma.

Content:

Mae’r rhain ar gyfer?

Artistiaid neu gweithwyr proffesiynol cyfranogol unigol sy’n gweithio mewn lleoliadau/prosiectau iechyd a llesiant sy’n dymuno ymweld neu wahodd eraill i brosiectau iechyd a gofal cymdeithasol (rhoddir blaenoriaeth i nad ydynt yn derbyn cyllid CCC) 

Bydd canran o grantiau ar gyfer artistiaid cefnogol sy’n gweithio’n amlwg mewn ffyrdd sy’n cefnogi cyfiawnder hinsawdd ac sy’n cyfoethogi ein perthynas gyda natur. 

Bydd canran o fwrsariaethau yn cael eu neilltuo ar gyfer ymarferwyr y Gymraeg, mwyafrif byd-eang ac ymarferwyr Byddar/Anabledd, sydd wedi cael eu tangynrychioli mewn ceisiadau hyd yma 

Faint? 

Hyd at £200 fesul cais - dylech ymgeisio am y costau sy’n angenrheidiol yn unig yn hytrach na chwilio am wariant i gyrraedd yr uchafswm. Bydd hyn yn caniatáu i ni ddosbarthu’r gronfa’n fwy teg. 

Beth mae’n ei dalu? 

  • Costau teithio 
  • Costau llety 
  • Costau cynhaliaeth 
  • Tocynnau mynediad 
  • Costau hyfforddi i gefnogi eich ymarfer 
  • Costau mynediad personol 
  • Unrhyw gostau perthnasol eraill i alluogi eich ymweliad

Maeth mae derbyn grant micro’n ei olygu? 

  • Rhaglen dreigl yw hon. Caiff grantiau eu gweinyddu ar sail y cyntaf i’r felin, ac felly unwaith y bydd y gronfa wedi’i dyrannu’n llawn, byddwn yn cyhoeddi bod ceisiadau ar gau. 
  • Bydd angen i chi wario’r grant micro cyn 1st Mawrth 2026. 
  • Bydd angen i chi gwblhau ffurflen adborth fer yn disgrifio’r gweithgaredd grant a sut mae wedi bod o fudd i’ch gwaith, gan gynnwys dogfennaeth ffotograffig os yw’n berthnasol. Caiff ymatebion yr holl dderbynwyr grant micro eu cyfuno i lunio adroddiad i’n cyllidwr, CCC. 
  • Hoffem pe bai modd i chi lunio blog byr (uchafswm 500 gair) neu greu vlog am eich ymweliad, y gallwn ei rannu gyda’n cyllidwyr ac aelodau WAHWN. Cewch ragor o wybodaeth am hyn pan fyddwch yn derbyn eich grant micro. 
  • Rhaid ad-dalu unrhyw arian grant nad yw wedi’i wario o fewn 14 diwrnod.

Sut i ymgeisio? 

Llenwi'r ffurflen gais hon

or 

Ebostiwch eich cais i Angela Rogers, WAHWN CEO: info@wahwn.cymru 

Search