Opportunities & Events
BUCELF YN ATRIWM CAERFYRDDIN – CYFLE I DENDRO
Location: Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin | Start Date: Dyddiad Cau: 16 Mis Medi
Summary:
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) yn ceisio comisiynu sefydliad Celfyddydau ac Iechyd Cyhoeddus profiadol i ddatblygu a chyflwyno Comisiwn Celfyddydau ac Ymgysylltu Creadigol o ansawdd uchel ar gyfer Atriwm, yr hwb Iechyd a Lles Integredig rhanbarthol newydd yng nghanol Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin (hen adeilad Debenhams).
Content:
Bydd y comisiwn celf yn cefnogi'r gwaith o gyflawni gweledigaeth Atriwm:
"Canolfan iechyd, lles, diwylliant a dysgu, sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus integredig, hygyrch a chynaliadwy yn well."
Bydd y sefydliad celfyddydol penodedig yn gweithio ar y cyd â'r Bwrdd Iechyd, partneriaid, staff, defnyddwyr gwasanaeth a chymunedau lleol i ddatblygu cyfres o weithiau celf parhaol i'w harddangos yn ardaloedd yr adeilad a reolir gan y Bwrdd Iechyd.
Bydd comisiwn Celf yn yr Atriwm yn helpu i droi gweledigaeth yr Atriwm yn brofiad diriaethol ac ystyrlon i gleifion, ymwelwyr, staff a'r gymuned ehangach. Bydd yn ymgorffori creadigrwydd, diwylliant a lles yn amgylchedd ffisegol y Ganolfan, gan gefnogi awyrgylch croesawgar, tawel a chynhwysol sy'n adlewyrchu hunaniaeth a dyheadau'r bobl sy'n defnyddio'r lle.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn bwriadu dyfarnu un contract i sefydliad cymwys priodol i gyflawni'r comisiwn llawn.
Disgwylir i'r contract ddechrau ym mis Hydref 2026 ac yn rhedeg tan 31 Mawrth 2027, yn amodol ar ofynion y prosiect ac argaeledd cyllid.
I wneud cais am y cyfle hwn, bydd angen i chi fod wedi'ch cofrestru ar y llwyfannau canlynol:
- Llwyfan Digidol Canolog - Cam 1 - Dewiswch fath o sefydliad - Gwasanaeth Cofrestru Cyflenwyr
- GwerthwchiGymru - GwerthwchiGymru: Croeso i GwerthwchiGymru - GwerthwchiGymru
- eDendro Cymru - eDendro Cymru: porth e-dendro ar gyfer Gwerth Cymru
Cysylltwch â’r Tîm Caffael am ddogfennau canllaw ar gyfer cofrestru ar y platfformau hyn.
Neu cysylltwch â Desg Gymorth eDendro Cymru ar 0800 069 8634. Mae'r holl ddogfennaeth i'w gweld yn yr ardal atodiadau o fewn yr ITT ar eDendra Cymru. Y cyfeirnod ar gyfer y cyfle hwn yw itt_126976 - CELF YN YR ATRIWM
Cysylltwch â'r Rheolwr Busnes Caffael Sara Pell ar Sara.Pell@wales.nhs.uk am ragor o fanylion.
FINAL_ArtattheAtriwm_OpptoTenderv3_CY
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau: Dydd Mercher 16 Medi
