Opportunities & Events
BIP Hywel Dda: Dweud eich dweud
Location: BIPHD
Summary:
Rydym am i bawb yn ein cymunedau fyw bywydau iach a llawen. Wrth i ni adfywio ein strategaeth, rydym yn gofyn am eich barn ar bedwar maes pwysig a all effeithio ar iechyd a lles.
Content:
Beth sy’n llunio eichiechyd a’ch lles?
Rydym am i bawb yn ein cymunedau fyw bywydau iach a llawen.
Wrth i ni adfywio ein strategaeth, rydym yn gofyn am eich barn ar bedwar maes pwysig a all effeithio ar iechyd a lles.
Sut mae ein rhwydweithiau cymorth lleol a rhwydweithiau cymorth yn ein helpu i aros yn iach – model cymdeithasol ar gyfer iechyd a llesiant
- Sut rydym yn datblygu atebion digidol i wneud gofal yn haws i’w gyrchu a’i ddefnyddio – cymorth gofal iechyd digidol
- Cadw’n iach yn ein cymuned – cydbwyso gofal ysbyty a chymorth cymunedol
- Yr hyn sydd bwysicaf wrth wella adeiladau a mannau gofal iechyd – gwasanaethau clinigol ac ailddatblygu ysbytai
Rhannwch eich barn erbyn 28 Tachwedd 2025.
Gallwch hefyd rannu eich barn gan ddefnyddio un o’r dulliau canlynol:
- Anfonwch eich barn atom drwy e-bost hyweldda.ymgysylltu@wales.nhs.uk(Dolen allanol)
- Trwy ffonio Canolfan Cyfathrebu’r Bwrdd Iechyd ar 0300 303 8322, opsiwn 5 ‘gwasanaethau eraill’ (cyfraddau galwadau lleol)
